xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

Offerynnau Statudol Cymru

2010 Rhif 2369 (Cy.203)

PYSGODFEYDD MÔR, CYMRU

Y DIWYDIANT PYSGOD MÔR

Cynllun Cychod Pysgota (Darlledu Data Gweithgareddau Pysgota yn Electronig) (Cymru) 2010

Gwnaed

28 Medi 2010

Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru

28 Medi 2010

Yn dod i rym

20 Hydref 2010

Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd gan adran 15(1) a (2) o Ddeddf Pysgodfeydd 1981(1), ac sydd bellach wedi'u breinio ynddynt hwy(2), yn gwneud y Cynllun a ganlyn gyda chymeradwyaeth y Trysorlys.

RHAN 1Rhagarweiniol

Enwi, cychwyn a chymhwyso

1.—(1Enw'r Cynllun hwn yw Cynllun Cychod Pysgota (Darlledu Data Gweithgareddau Pysgota yn Electronig) (Cymru) 2010 a daw i rym ar 20 Hydref 2010.

(2Mae'r Cynllun hwn yn gymwys o ran Cymru.

Dehongli

2.—(1Yn y Cynllun hwn—

(2Ystyr unrhyw rwymedigaeth ar Weinidogion Cymru i gyhoeddi deunydd o dan y Cynllun hwn yw rhwymedigaeth i beri bod y deunydd hwnnw ar gael mewn modd a fydd yn sicrhau ei bod yn weddol debygol y bydd y rheini sy'n gymwys am grant yn ei weld.

RHAN 2Grant ar gyfer meddalwedd a gymeradwywyd

Meddalwedd a gymeradwywyd a chyflenwyr a gymeradwywyd

3.—(1Rhaid i Weinidogion Cymru gyhoeddi rhestr sy'n pennu—

(a)meddalwedd sy'n gallu—

(i)cofnodi data gweithgareddau pysgota'n electronig; a

(ii)darlledu data gweithgareddau pysgota'n electronig yn y ffurf ofynnol; a

(b)cyflenwyr y feddalwedd honno.

(2Yn y paragraff hwn, ystyr “y ffurf ofynnol” (“required format”) yw ffurf a bennir ac a gyhoeddir gan Weinidogion Cymru at ddibenion y Rheoliad UE.

Cymhwystra am grant

4.—(1Caiff person wneud cais, yn unol â darpariaethau'r Cynllun hwn, i Weinidogion Cymru am grant, os yw'r person hwnnw—

(a)yn feistr, yn berchennog neu'n siartrwr cwch pysgota Cymreig cymwys; a

(b)wedi prynu meddalwedd a gymeradwywyd gan gyflenwr a gymeradwywyd, neu wedi comisiynu cyflenwr a gymeradwywyd i gyflenwi meddalwedd a gymeradwywyd, i'w defnyddio ar y cwch hwnnw.

(2Yn y paragraff hwn, mae “meistr” (“master”) yn cynnwys y person y mae'r cwch pysgota dan ei ofal am y tro.

Talu grant

5.—(1Caiff Gweinidogion Cymru dalu unrhyw grant, neu unrhyw ran ohono, wedi i'r cais gael ei gymeradwyo o dan baragraff 9(1) a bod Gweinidogion Cymru wedi'u bodloni—

(a)bod y cyflenwr a gymeradwywyd wedi cyflenwi'r feddalwedd a gymeradwywyd i'r ceisydd a bod y feddalwedd wedi'i gosod yn y cwch pysgota Cymreig cymwys;

(b)bod y ceisydd wedi defnyddio'r feddalwedd a gymeradwywyd i gofnodi ac i ddarlledu'n electronig ddata gweithgareddau pysgota yn unol â'r Rheoliad UE; ac

(c)bod cydymffurfio wedi bod ag unrhyw amod ar gyfer talu'r grant neu unrhyw ran ohono.

(2Caiff Gweinidogion Cymru—

(a)talu'r grant i'r ceisydd neu'n uniongyrchol i'r cyflenwr a gymeradwywyd ar ran y ceisydd;

(b)talu'r grant ar y fath adeg, neu drwy'r fath randaliadau ar y fath ysbeidiau neu adegau, ag y dichon Gweinidogion Cymru bennu; ac

(c)rhoi un grant yn unig mewn cysylltiad ag unrhyw gwch pysgota Cymreig cymwys.

Swm y grant

6.  O ran swm y grant—

(a)rhaid iddo beidio â bod yn fwy na chost prynu neu gyflenwi'r feddalwedd a gymeradwywyd; a

(b)caiff fod yn swm llai o faint bynnag a bennir gan Weinidogion Cymru.

RHAN 3Ceisiadau am grant

Gwahoddiad i geisio am grant

7.—(1Caiff Gweinidogion Cymru o bryd i'w gilydd gyhoeddi gwahoddiad i wneud ceisiadau am grant.

(2Rhaid i wahoddiad gynnwys—

(a)manylion meddalwedd a gymeradwywyd a chyflenwyr a gymeradwywyd;

(b)manylion yr amodau cymhwystra am grant;

(c)gofynion ffurf y cais a'r dull o'i wneud;

(ch)unrhyw ofynion ar gyfer darparu dogfennau, gwybodaeth ac ymgymeriadau i gefnogi'r cais; a

(d)y dyddiad cau ar gyfer gwneud cais.

Ceisiadau

8.—(1Rhaid i gais am grant gael ei wneud yn ysgrifenedig i Weinidogion Cymru yn unol â gofynion y gwahoddiad a wnaed o dan baragraff 7(1).

(2Ac eithrio fel y darperir yn is-baragraff (3), rhaid i Weinidogion Cymru fod wedi cael cais ar y dyddiad cau neu cyn hynny.

(3Caiff Gweinidogion Cymru dderbyn cais ar ôl y dyddiad cau os ydynt wedi'u bodloni—

(a)bod amodau penodol y ceisydd yn peri ei bod yn afresymol disgwyl i'r cais gael ei wneud erbyn y dyddiad cau; a

(b)bod y dyddiad erbyn pryd y gwneir y cais mor fuan ag y gellir yn rhesymol ei ddisgwyl.

(4Caiff Gweinidogion Cymru, cyn dyfarnu ar unrhyw gais, ei gwneud yn ofynnol i'r ceisydd ddarparu gwybodaeth ychwanegol.

Dyfarnu ar gais

9.—(1Cyn gynted ag y bo'n rhesymol ymarferol ar ôl y dyddiad cau, neu ar ôl cael unrhyw wybodaeth bellach y gofynnwyd amdani yn unol â pharagraff 8(4), rhaid i Weinidogion Cymru—

(a)nodi a chymeradwyo, yn ddarostyngedig i'r fath amodau ag a ystyrir yn briodol ganddynt, y ceisiadau hynny a wnaed yn unol â gwahoddiad a wnaed o dan baragraff 7(1) sy'n bodloni darpariaethau'r Cynllun hwn; a

(b)gwrthod unrhyw geisiadau eraill.

(2Rhaid i Weinidogion Cymru wrthod cais os ydynt o'r farn bod porthladd gweinyddu'r cwch pysgota wedi cael ei newid i borthladd yng Nghymru gyda'r prif bwrpas o sicrhau bod y cwch pysgota yn gwch pysgota Cymreig cymwys at ddibenion y Cynllun hwn.

(3Pan fo Gweinidogion Cymru yn cymeradwyo cais o dan is-baragraff (1)(a), rhaid iddynt hysbysu'r ceisydd yn ysgrifenedig o'r gymeradwyaeth honno ac o unrhyw amodau y mae'n ddarostyngedig iddynt.

(4Pan fo Gweinidogion Cymru yn gwrthod cais o dan is-baragraffau (1)(b) neu (2), neu'n cymeradwyo cais yn ddarostyngedig i unrhyw amod o dan is-baragraff (1)(a), rhaid iddynt hysbysu'r ceisydd yn ysgrifenedig—

(a)o'r rhesymau dros y gwrthodiad hwnnw neu dros osod yr amod; a

(b)o'r hawl i wneud cais am adolygiad o dan baragraff 10.

Adolygu dyfarniad

10.—(1Pan fo Gweinidogion Cymru yn gwrthod cais o dan baragraffau 9(1)(b) neu 9(2), neu'n cymeradwyo cais yn ddarostyngedig i unrhyw amod o dan is-baragraff 9(1)(a), caiff y person a ymgeisiodd am y grant wneud cais i Weinidogion Cymru, yn unol â darpariaethau'r paragraff hwn, am adolygiad o'r dyfarniad hwnnw.

(2Rhaid i Weinidogion Cymru fod wedi cael cais am adolygiad o dan y paragraff hwn ar ddyddiad heb fod yn ddiweddarach na 6 mis o ddyddiad y dyfarniad perthnasol o dan baragraffau 9(1) neu 9(2).

(3Rhaid i gais am adolygiad o dan y paragraff hwn fod yn ysgrifenedig a rhaid iddo nodi—

(a)enw a chyfeiriad y person sy'n gwneud y cais am yr adolygiad, ac os nad y person hwnnw yw'r person a enwir yn y dyfarniad, enw a chyfeiriad y person a enwir yn y dyfarniad ac ar ba sail y mae'r person yn ceisio adolygiad;

(b)pa ddyfarniad o eiddo Gweinidogion Cymru sydd i'w adolygu a dyddiad y dyfarniad hwnnw;

(c)manylion y sail y ceisir yr adolygiad arno; ac

(ch)y newid a geisir i'r dyfarniad.

(4Caniateir gwneud cais o dan y paragraff hwn drwy'r post neu drwy ffacs neu ddull arall o gyfathrebiad electronig y mae modd ei atgynhyrchu.

(5Pan wneir cais o dan y paragraff hwn, rhaid i Weinidogion Cymru adolygu'r dyfarniad a nodir ynddo a dod i benderfyniad terfynol arno a hysbysu'n ysgrifenedig y person sy'n gwneud y cais am yr adolygiad o'r penderfyniad hwnnw a'r rhesymau drosto.

(6Wrth adolygu dyfarniad caiff Gweinidogion Cymru—

(a)ystyried unrhyw ddogfen neu dystiolaeth arall a gyflwynwyd gan y ceisydd (p'un ai a oedd y ddogfen neu'r dystiolaeth honno ar gael ar yr adeg y gwnaed y dyfarniad ai peidio);

(b)gwahodd y ceisydd i ddarparu'r fath wybodaeth bellach sy'n berthnasol i'r adolygiad a ystyrir ganddynt ei fod yn briodol; ac

(c)rhoi cyfle i'r ceisydd roi tystiolaeth a gwneud sylwadau yn bersonol neu drwy gynrychiolydd.

RHAN 4Dirymu, dal yn ôl ac adennill grant

Dirymu, dal yn ôl ac adennill grant

11.—(1Os ymddengys i Weinidogion Cymru, ar unrhyw adeg wedi iddynt gymeradwyo cais o dan baragraff 9(1)(a)—

(a)bod unrhyw amod a osodwyd o dan y paragraff hwnnw wedi cael ei dorri neu bod diffyg cydymffurfiad ag ef; neu

(b)bod y ceisydd wedi cyflawni tramgwydd o dan adran 17 o Ddeddf Pysgodfeydd 1981 neu y dichon ei fod wedi gwneud hynny(9),

cânt ddirymu'r gymeradwyaeth i'r cais hwnnw, neu ddal y grant yn ôl, neu ddal unrhyw ran ohono'n ôl, mewn perthynas â'r cais ac os gwnaed unrhyw daliad grant, cânt adennill oddi wrth y ceisydd ar hawliad, swm sy'n cyfateb i'r cyfan neu unrhyw ran o'r taliad a wnaed felly, heb ystyried a wnaed y taliad grant yn uniongyrchol i'r ceisydd neu i'r cyflenwr a gymeradwywyd ar ran y ceisydd yn rhinwedd paragraff 5(2)(a).

(2Cyn dirymu cymeradwyaeth neu ddal yn ôl unrhyw grant neu wneud hawliad yn rhinwedd is-baragraff (1), rhaid i Weinidogion Cymru—

(a)roi eglurhad ysgrifenedig i'r ceisydd o'r rhesymau dros y cam y bwriedir ei gymryd;

(b)rhoi cyfle i'r ceisydd wneud sylwadau ysgrifenedig o fewn unrhyw amser y mae Gweinidogion Cymru yn ystyried yn rhesymol; ac

(c)ystyried unrhyw sylwadau o'r fath.

Llog

12.—(1Pan fo Gweinidogion Cymru yn penderfynu adennill swm ar gais yn unol â pharagraff 11(1), cânt, yn ychwanegol, adennill llog ar y swm hwnnw ar gyfradd o 1% uwchben LIBOR wedi'i gyfrifo yn ddyddiol am y cyfnod sy'n dechrau gyda'r diwrnod ar ôl hwnnw y talwyd y swm arno ac sy'n gorffen ar y diwrnod yr adenillir y swm arno.

(2Yn y paragraff hwn, ystyr “LIBOR” (“LIBOR”), mewn cysylltiad ag unrhyw ddiwrnod, yw cyfradd sterling dri-misol Llundain a gynigir rhwng banciau sydd mewn grym ar y diwrnod hwnnw wedi'i dalgrynnu os oes angen at ddau bwynt degol.

(3Mewn unrhyw achos ar gyfer adennill o dan y Cynllun hwn, bydd tystysgrif a ddyroddir gan Weinidogion Cymru yn datgan beth yw'r LIBOR sy'n gymwys ar gyfer unrhyw ddiwrnod yn dystiolaeth ddiwrthbrawf o'r LIBOR o dan sylw os yw'r dystysgrif hefyd yn datgan bod Banc Lloegr wedi hysbysu Gweinidogion Cymru o'r LIBOR o dan sylw.

Elin Jones

Y Gweinidog dros Faterion Gwledig, un o Weinidogion Cymru

28 Medi 2010

Nodyn Esboniadol

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Cynllun)

Mae'r Cynllun hwn, a wnaed gyda chymeradwyaeth y Trysorlys, yn darparu ar gyfer talu grantiau fel cyfraniad tuag at gost prynu neu gyflenwi meddalwedd sy'n angenrheidiol i gofnodi ac i ddarlledu'n electronig ddata gweithgareddau pysgota yn unol ag—

(a)Rheoliad y Cyngor (EC) Rhif 1966/2006 ar 21 Rhagfyr 2006 ar gofnodi ac adrodd yn electronig am weithgareddau pysgota ac ar ddulliau synhwyro o bell;

(b)Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 1077/2008 ar 3 Tachwedd 2008 sy'n gosod rheolau manwl ar gyfer gweithredu Rheoliad y Cyngor (EC) Rhif 1966/2006 ar gofnodi ac adrodd yn electronig am weithgareddau pysgota ac ar ddulliau synhwyro o bell ac sy'n diddymu Rheoliad (EC) Rhif 1566/2007; ac

(c)Rheoliad y Cyngor (EC) Rhif 1224/2009 ar 20 Tachwedd 2009 sy'n sefydlu system o reolaeth Gymunedol er mwyn sicrhau cydymffurfiaeth â rheolau'r polisi pysgodfeydd cyffredin, ac sy'n diwygio Rheoliadau (EC) Rhif 847/96, (EC) Rhif 2371/2002, (EC) Rhif 811/2004, (EC) Rhif 768/2005, (EC) Rhif 2115/2005, (EC) Rhif 2166/2005, (EC) Rhif 388/2006, (EC) Rhif 509/2007, (EC) Rhif 676/2007, (EC) Rhif 1098/2007, (EC) Rhif 1300/2008, (EC) Rhif 1342/2008 ac yn diddymu Rheoliadau (EEC) Rhif 2847/93, (EC) Rhif 1627/94 ac (EC) Rhif 1966/2006.

Yn Rhan 2, mae paragraff 3 yn darparu ar gyfer rhestrau cyhoeddedig o feddalwedd a gymeradwywyd ac o gyflenwyr a gymeradwywyd, paragraff 4 yn pennu'r meini prawf cymhwystra ar gyfer grant, paragraff 5 yn ymwneud â thalu grant, a pharagraff 6 yn ymwneud â swm y grant.

Yn Rhan 3, mae paragraff 7 yn darparu ar gyfer rhoi gwahoddiadau i ymgeisio am grant, paragraff 8 yn ymwneud â gwneud cais am grant, a pharagraff 9 yn ymwneud â dyfarnu ar geisiadau am grant, gan gynnwys y pŵer i osod amodau ynghlwm wrth unrhyw gais a gymeradwyir a gofynion parthed rhoi hysbysiad. Mae paragraff 10 yn darparu ar gyfer adolygu dyfarniad i wrthod cais neu ddyfarniad i osod amodau ynghlwm wrth unrhyw gais a gymeradwyir.

Yn Rhan 4, mae paragraff 11 yn darparu ar gyfer dirymu, dal yn ôl ac adennill grant mewn amgylchiadau penodol ac mae paragraff 12 yn galluogi talu llog ar symiau a adenillir.

Ni pharatowyd asesiad effaith rheoleiddiol mewn perthynas â'r offeryn hwn gan na ragwelir y bydd yn cael unrhyw effaith ar y sector preifat na'r sector gwirfoddol.

(1)

1981 p.29. Gweler adran 18(1) am y diffiniad o “the Ministers”. Diwygiwyd adrannau 15(2) ac 18(1) gan O.S. 1999/1820, Atodlen 2, paragraff 68(1), (2) a (3).

(2)

Yn rhinwedd erthygl 2(a) o Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999, ac Atodlen 1 iddo (O.S. 1999/672) trosglwyddwyd y swyddogaethau sy'n arferadwy o dan adran 15 o Ddeddf 1981 i Gynulliad Cenedlaethol Cymru (fel y'i cyfansoddwyd o dan Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998 (p.38)) i'r graddau y maent yn arferadwy o ran Cymru. Trosglwyddwyd y swyddogaethau hynny o Gynulliad Cenedlaethol Cymru i Weinidogion Cymru yn rhinwedd adran 162 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 a pharagraff 30 o Atodlen 11 iddi (p.32). Mae gofynion cymeradwyaeth y Trysorlys o dan adran 15 o Ddeddf 1981 yn parhau'n effeithlon.

(6)

OJ Rhif L409, 30.12.2006, t. 1.

(7)

OJ Rhif L295, 4.11.2008, t. 3.

(8)

OJ Rhif L343, 22.12.2009, t. 1.