- Y Diweddaraf sydd Ar Gael (Diwygiedig) - Saesneg
- Y Diweddaraf sydd Ar Gael (Diwygiedig) - Cymraeg
- Gwreiddiol (Fel y'i Gwnaed) - Saesneg
- Gwreiddiol (Fel y'i Gwnaed) - Cymraeg
Dyma’r fersiwn wreiddiol (fel y’i gwnaed yn wreiddiol). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.
11.—(1) Os ymddengys i Weinidogion Cymru, ar unrhyw adeg wedi iddynt gymeradwyo cais o dan baragraff 9(1)(a)—
(a)bod unrhyw amod a osodwyd o dan y paragraff hwnnw wedi cael ei dorri neu bod diffyg cydymffurfiad ag ef; neu
(b)bod y ceisydd wedi cyflawni tramgwydd o dan adran 17 o Ddeddf Pysgodfeydd 1981 neu y dichon ei fod wedi gwneud hynny(1),
cânt ddirymu'r gymeradwyaeth i'r cais hwnnw, neu ddal y grant yn ôl, neu ddal unrhyw ran ohono'n ôl, mewn perthynas â'r cais ac os gwnaed unrhyw daliad grant, cânt adennill oddi wrth y ceisydd ar hawliad, swm sy'n cyfateb i'r cyfan neu unrhyw ran o'r taliad a wnaed felly, heb ystyried a wnaed y taliad grant yn uniongyrchol i'r ceisydd neu i'r cyflenwr a gymeradwywyd ar ran y ceisydd yn rhinwedd paragraff 5(2)(a).
(2) Cyn dirymu cymeradwyaeth neu ddal yn ôl unrhyw grant neu wneud hawliad yn rhinwedd is-baragraff (1), rhaid i Weinidogion Cymru—
(a)roi eglurhad ysgrifenedig i'r ceisydd o'r rhesymau dros y cam y bwriedir ei gymryd;
(b)rhoi cyfle i'r ceisydd wneud sylwadau ysgrifenedig o fewn unrhyw amser y mae Gweinidogion Cymru yn ystyried yn rhesymol; ac
(c)ystyried unrhyw sylwadau o'r fath.
12.—(1) Pan fo Gweinidogion Cymru yn penderfynu adennill swm ar gais yn unol â pharagraff 11(1), cânt, yn ychwanegol, adennill llog ar y swm hwnnw ar gyfradd o 1% uwchben LIBOR wedi'i gyfrifo yn ddyddiol am y cyfnod sy'n dechrau gyda'r diwrnod ar ôl hwnnw y talwyd y swm arno ac sy'n gorffen ar y diwrnod yr adenillir y swm arno.
(2) Yn y paragraff hwn, ystyr “LIBOR” (“LIBOR”), mewn cysylltiad ag unrhyw ddiwrnod, yw cyfradd sterling dri-misol Llundain a gynigir rhwng banciau sydd mewn grym ar y diwrnod hwnnw wedi'i dalgrynnu os oes angen at ddau bwynt degol.
(3) Mewn unrhyw achos ar gyfer adennill o dan y Cynllun hwn, bydd tystysgrif a ddyroddir gan Weinidogion Cymru yn datgan beth yw'r LIBOR sy'n gymwys ar gyfer unrhyw ddiwrnod yn dystiolaeth ddiwrthbrawf o'r LIBOR o dan sylw os yw'r dystysgrif hefyd yn datgan bod Banc Lloegr wedi hysbysu Gweinidogion Cymru o'r LIBOR o dan sylw.
Y Diweddaraf sydd Ar Gael (diwygiedig):Y fersiwn ddiweddaraf sydd ar gael o’r ddeddfwriaeth yn cynnwys newidiadau a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol ac wedi eu gweithredu gan ein tîm golygyddol. Gellir gweld y newidiadau nad ydym wedi eu gweithredu i’r testun eto yn yr ardal ‘Newidiadau i Ddeddfwriaeth’. Dim ond yn Saesneg y mae’r fersiwn ddiwygiedig ar gael ar hyn o bryd.
Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed) - Saesneg: Mae'r wreiddiol Saesneg fersiwn y ddeddfwriaeth fel ag yr oedd pan gafodd ei deddfu neu eu gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.
Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed)-Cymraeg:Y fersiwn Gymraeg wreiddiol o’r ddeddfwriaeth fel yr oedd yn sefyll pan gafodd ei deddfu neu ei gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.
Gallwch wneud defnydd o ddogfennau atodol hanfodol a gwybodaeth ar gyfer yr eitem ddeddfwriaeth o’r tab hwn. Yn ddibynnol ar yr eitem ddeddfwriaeth sydd i’w gweld, gallai hyn gynnwys:
Defnyddiwch y ddewislen hon i agor dogfennau hanfodol sy’n cyd-fynd â’r ddeddfwriaeth a gwybodaeth am yr eitem hon o ddeddfwriaeth. Gan ddibynnu ar yr eitem o ddeddfwriaeth sy’n cael ei gweld gall hyn gynnwys:
liciwch ‘Gweld Mwy’ neu ddewis ‘Rhagor o Adnoddau’ am wybodaeth ychwanegol gan gynnwys