xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom" xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"
39. Yn y Rhan hon—
ystyr “ataliad dros dro” (“suspension”) yw ataliad dros dro gan Weinidogion Cymru o gofrestriad person ar y gofrestr gwarchod plant neu, yn ôl fel y digwydd, y gofrestr gofal dydd i blant a gynhelir o dan Ran 2 o'r Mesur, o dan y Rheoliadau hyn. Nid yw'n cynnwys ataliad gwirfoddol dros dro o dan reoliad 46; a rhaid dehongli “atal dros dro” (“suspend”) ac “ataliwyd dros dro” (“suspended”) yn unol â hynny;
ystyr “seiliau” (“grounds”) yw'r rhesymau neu'r amgylchiadau sy'n peri i Weinidogion Cymru gredu y byddai parhau darpariaeth gwarchod plant neu ofal dydd i blant gan berson cofrestredig yn gadael, neu y gallai adael, un neu ragor o'r plant y darperir, neu y gellid darparu gofal o'r fath iddynt yn agored i risg o niwed.
Gwybodaeth Cychwyn
I1Rhl. 39 mewn grym ar 1.4.2011, gweler rhl. 1(1)
40.—(1) Caiff Gweinidogion Cymru, yn unol â rheoliadau 41, 42, 43 44 a 46(8) atal dros dro gofrestriad unrhyw berson sy'n gweithredu fel gwarchodwr plant neu sy'n darparu gofal dydd i blant—
(a)os oes ganddynt sail resymol dros gredu y byddai i'r person hwnnw barhau i ddarparu gofal o'r fath yn gadael, neu y gallai adael, un neu ragor o'r plant y gofelid amdanynt gan y person hwnnw yn agored i risg o niwed; a
(b)os pwrpas yr ataliad dros dro yw un neu'r ddau o'r dibenion a bennir ym mharagraff (2).
(2) Ddibenion yr atal dros dro yw—
(a)rhoi amser i ymchwilio i'r amgylchiadau a oedd yn ysgogi cred Gweinidogion Cymru; a
(b)rhoi amser i weithredu er mwyn lleihau neu ddileu'r risg o niwed.
Gwybodaeth Cychwyn
I2Rhl. 40 mewn grym ar 1.4.2011, gweler rhl. 1(1)
41.—(1) Pan fo Gweinidogion Cymru yn arfer eu pŵer i atal cofrestriad unrhyw berson dros dro o dan y Rholiadau hyn, bydd cyfnod yr atal dros dro yn dechrau ac yn gorffen ar y dyddiadau hynny a bennir yn yr hysbysiad y mae'n ofynnol ei roi i'r person cofrestredig o dan reoliadau 42 a 43.
(2) Ni chaiff y dyddiad a bennir fel y dyddiad y daw'r cyfnod atal dros dro i ben fod yn fwy na 6 wythnos ar ôl dyddiad dechrau'r cyfnod.
(3) Yn ddarostyngedig i baragraff (4) ni fydd arfer pŵer Gweinidogion Cymru i atal cofrestriad person dros dro yn eu rhwystro rhag arfer y pŵer hwnnw ymhellach, ar unrhyw adeg, pa un ai yn ystod cyfnod presennol o ataliad dros dro neu wedi iddo ddod i ben, ar yr un seiliau neu seiliau gwahanol.
(4) Ni chaiff Gweinidogion Cymru arfer eu pŵer i atal cofrestriad person dros dro, ar yr un seiliau neu'r un i raddau sylweddol, mewn modd a fydd yn ysgogi cyfnod o ataliad cyfanredol sy'n hwy na 12 wythnos o fewn unrhyw gyfnod o 12 mis ac eithrio—
(a)pan na fu'n rhesymol ymarferol (am resymau tu hwnt i reolaeth Gweinidogion Cymru) i gyflawni'r ymchwiliad neu gymryd y camau o dan is-baragraffau (2)(a) neu (2)(b), yn eu trefn, o reoliad 40; neu
(b)pan fo Gweinidogion Cymru wedi cychwyn achos yn erbyn y person cofrestredig o dan adran 34 o'r Mesur (amddiffyn plant mewn argyfwng: diddymu cofrestriad) ond nad yw'r cais eto wedi ei benderfynu gan y llys.
Gwybodaeth Cychwyn
I3Rhl. 41 mewn grym ar 1.4.2011, gweler rhl. 1(1)
42. Rhaid i Weinidogion Cymru, yn unol â rheoliad 43, roi hysbysiad ysgrifenedig i'r person cofrestredig o unrhyw ataliad dros dro, a rhaid i unrhyw hysbysiad o'r fath—
(a)cynnwys y rhesymau dros y penderfyniad;
(b)cynnwys manylion am hawl y person cofrestredig i apelio yn erbyn yr ataliad dros dro; ac
(c)os yw rheoliad 41(4) yn gymwys, datgan y ffaith honno, a nodi pa un o'r amgylchiadau a bennir yn y paragraff hwnnw sy'n gymwys.
Gwybodaeth Cychwyn
I4Rhl. 42 mewn grym ar 1.4.2011, gweler rhl. 1(1)
43.—(1) Ceir rhoi hysbysiad o dan y Rheoliadau hyn i'r person cofrestredig—
(a)drwy ei ddanfon at y person cofrestredig;
(b)drwy ei anfon drwy'r post; neu
(c)yn ddarostyngedig i baragraff (3), drwy ei drosglwyddo yn electronig.
(2) Bernir y bydd hysbysiad i berson cofrestredig o dan y Rheoliadau hyn wedi'i gyfeirio'n briodol os cyfeirir ef at y person cofrestredig yn y cyfeiriad olaf yr hysbyswyd Gweinidogion Cymru ohono gan y person cofrestredig, naill ai yn y cais i gofrestru neu'n ddiweddarach.
(3) Os trosglwyddir yr hysbysiad yn electronig at ddibenion paragraff (1)—
(a)rhaid i'r person cofrestredig fod wedi datgan wrth Weinidogion Cymru ei barodrwydd i gael hysbysiadau a drosglwyddir mewn dull electronig, ac wedi darparu cyfeiriad addas at y diben hwnnw;
(b)rhaid anfon yr hysbysiad i'r cyfeiriad a ddarparwyd gan y person cofrestredig; ac
(c)ystyrir y bydd unrhyw hysbysiad a anfonir yn unol â'r paragraff hwn wedi ei gael gan y person cofrestredig ar y diwrnod gwaith nesaf ar ôl y diwrnod y'i hanfonir.
Gwybodaeth Cychwyn
I5Rhl. 43 mewn grym ar 1.4.2011, gweler rhl. 1(1)
44.—(1) Heb leihau effaith rheoliad 41(2), pan fydd Gweinidogion Cymru wedi atal cofrestriad person dros dro, rhaid iddynt ddiddymu'r ataliad dros dro ar unrhyw adeg, pa un a wnaed cais ysgrifenedig o dan baragraff (2) ai peidio, os na fydd achos rhesymol ganddynt bellach dros gredu bod y seiliau ar gyfer yr ataliad dros dro yn gymwys.
(2) Caiff person y mae ei gofrestriad wedi'i atal dros dro yn unol â'r Rheoliadau hyn wneud cais ysgrifenedig i swyddfa briodol Gweinidogion Cymru ar unrhyw adeg i gael diddymu'r ataliad dros dro.
(3) Pan fo Gweinidogion Cymru yn penderfynu diddymu neu beidio â diddymu'r ataliad dros dro ar gofrestriad person, rhaid iddynt, o fewn 2 ddiwrnod gwaith ac yn unol â rheoliad 43, anfon hysbysiad o'u penderfyniad at y person cofrestredig.
(4) Pan fo Gweinidogion Cymru yn penderfynu peidio â diddymu'r ataliad dros dro ar gofrestriad person, rhaid i'r hysbysiad a ddyroddir o dan baragraff (3) gynnwys y rhesymau dros y penderfyniad a manylion am hawl y person cofrestredig i apelio yn erbyn y penderfyniad.
(5) Bydd unrhyw benderfyniad gan y Cynulliad Cenedlaethol i ddiddymu'r ataliad dros dro yn effeithiol o ddyddiad penodol, a rhaid nodi'r dyddiad hwnnw yn yr hysbysiad y cyfeirir ato ym mharagraff (3).
Gwybodaeth Cychwyn
I6Rhl. 44 mewn grym ar 1.4.2011, gweler rhl. 1(1)
45.—(1) Ac eithrio pan fo cofrestriad person wedi ei atal yn wirfoddol o dan reoliad 46, caiff person y mae ei gofrestriad wedi ei atal dros dro o dan y Rheoliadau hyn apelio i'r Tribiwnlys Haen Gyntaf yn erbyn penderfyniad gan Weinidogion Cymru i—
(a)atal cofrestriad y person hwnnw;
(b)gwrthod diddymu'r ataliad hwnnw yn dilyn cais am iddynt wneud hynny, yn unol â rheoliad 44(2).
(2) Yn ddarostyngedig i baragraff (3), mewn apêl o dan baragraff (1), caiff y Tribiwnlys Haen Gyntaf–
(a)cadarnhau penderfyniad Gweinidogion Cymru i atal cofrestriad dros dro neu, yn ôl y digwydd, wrthod diddymu'r ataliad dros dro;
(b)cyfarwyddo bod yr ataliad i beidio â chael effaith, ac
er mwyn osgoi unrhyw amheuaeth, mewn unrhyw achos pan fo'r Tribiwnlys Haen Gyntaf yn arfer ei bŵer o dan (a) caiff hefyd arfer ei bŵer o dan (b) os yw'n fodlon, ar yr adeg y mae'n gwneud ei benderfyniad, na fodlonir bellach yr amodau ar gyfer ataliad dros dro.
(3) Os nad yw'r ataliad dros dro o gofrestriad person, y gwnaed apêl yn ei erbyn o dan baragraff (1), bellach yn effeithiol, rhaid i'r Tribiwnlys Haen Gyntaf wrthod yr apêl.
Gwybodaeth Cychwyn
I7Rhl. 45 mewn grym ar 1.4.2011, gweler rhl. 1(1)
46.—(1) Caiff person cofrestredig roi hysbysiad i Weinidogion Cymru i atal dros dro ei gofrestriad ar y gofrestr gwarchod plant neu, yn ôl fel y digwydd, y gofrestr gofal dydd i blant a gynhelir o dan Ran 2 o'r Mesur (“hysbysiad o ataliad gwirfoddol”) (“a voluntary suspension notice”).
(2) Rhaid i hysbysiad o ataliad gwirfoddol—
(a)bod mewn ysgrifen;
(b)cynnwys yr wybodaeth ganlynol—
(i)y dyddiad y bydd y cyfnod o ataliad gwirfoddol yn cychwyn (“ y dyddiad dod i rym”) (“the effective date”),
(ii)pan fo'n hysbys, y dyddiad y bwriedir i'r cyfnod o ataliad gwirfoddol ddod i ben (“y dyddiad terfynu”) (“the termination date”),
(iii)y rheswm pam y gofynnir am y cyfnod o ataliad gwirfoddol;
(c)cael ei anfon neu'i ddanfon i'r swyddfa briodol ddim llai na 5 diwrnod cyn y dyddiad dod i rym, neu ba bynnag gyfnod byrrach cyn y dyddiad hwnnw y cytunir iddo gan Weinidogion Cymru.
(3) Rhaid i berson cofrestredig ddarparu pa bynnag wybodaeth arall, neu ddogfennau eraill, y gofynnir amdani neu amdanynt yn rhesymol gan Weinidogion Cymru mewn perthynas â'r ataliad gwirfoddol dros dro.
(4) Os yw person cofrestredig—
(a)yn rhoi hysbysiad yn unol â pharagraffau (1) neu (8)(b); a
(b)yr hysbysiad o ataliad gwirfoddol hwnnw yn cydymffurfio â'r gofynion ym mharagraff (2),
yna, oni fydd paragraff (5) yn gymwys, rhaid i Weinidogion Cymru atal dros dro gofrestriad y person hwnnw, neu estyn cyfnod atal ei gofrestriad, ar y gofrestr gwarchod plant neu, yn ôl fel y digwydd, y gofrestr gofal dydd i blant (“ataliad gwirfoddol” (“voluntary suspension”)).
(5) Ni chaiff Gweinidogion Cymru weithredu'n unol â pharagraff (4)—
(a)os yw Gweinidogion Cymru wedi anfon at y person cofrestredig, neu wedi ei hysbysu ynghylch, eu penderfyniad i atal cofrestriad y person hwnnw dros dro yn unol â rheoliad 40; neu
(b)yn achos person y mae ei gofrestriad wedi ei atal dros dro gan Weinidogion Cymru yn unol â rheoliad 40 a'r person hwnnw–
(i)wedi gwneud cais ysgrifenedig i Weinidogion Cymru i ddiddymu'r ataliad a'r cais hwnnw heb ei benderfynu eto; neu
(ii)wedi apelio i'r Tribiwnlys Haen Gyntaf yn unol â rheoliad 45 a'r apêl honno heb ei phenderfynu eto.
(6) Pan fo Gweinidogion Cymru wedi gweithredu yn unol â pharagraff (4), rhaid iddynt anfon at y person cofrestredig gadarnhad ysgrifenedig bod ei gofrestriad ar y gofrestr gwarchod plant neu, yn ôl fel y digwydd, y gofrestr gofal dydd i blant, wedi ei atal dros dro yn unol â'r hysbysiad o ataliad gwirfoddol.
(7) Nid oes hawl apelio i'r Tribiwnlys Haen Gyntaf yn erbyn penderfyniad gan Weinidogion Cymru i beidio â gweithredu mewn perthynas â hysbysiad o ataliad gwirfoddol a roddwyd gan y person cofrestredig.
(8) Caiff person cofrestredig yr ataliwyd ei gofrestriad yn wirfoddol, ar unrhyw adeg cyn y dyddiad terfynu, roi i Weinidogion Cymru hysbysiad ysgrifenedig, sy'n cydymffurfio pan fo'n berthnasol â gofynion paragraff (2), i'r perwyl bod yn ofynnol ganddo—
(a)ddiddymu'r ataliad gwirfoddol cyn y dyddiad terfynu; neu
(b)estyn cyfnod yr atalid gwirfoddol am ba bynnag gyfnod pellach a bennir ganddo yn yr hysbysiad.
(9) Nid yw'r faith bod cofrestriad person wedi ei atal yn wirfoddol yn unol â'r rheoliad hwn yn rhwystro Gweinidogion Cymru rhag arfer eu pŵer i atal cofrestriad y person hwnnw dros dro yn unol â rheoliad 40.
Gwybodaeth Cychwyn
I8Rhl. 46 mewn grym ar 1.4.2011, gweler rhl. 1(1)