xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom" xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

RHAN 7LL+CDIWYGIO, DIRYMU AC ARBED

Diwygio Rheoliadau 2002LL+C

47.  Diwygir Rheoliadau 2002 yn unol ag Atodlen 5.

Gwybodaeth Cychwyn

I1Rhl. 47 mewn grym ar 1.4.2011, gweler rhl. 1(1)

DirymuLL+C

48.  Dirymir yr offerynnau a restrir yng ngholofn (1) o'r tabl yn Atodlen 6 (sydd â'r cyfeiriadau wedi eu rhestru yng ngholofn (2)), i'r graddau a ddynodir yng ngholofn (3).

Gwybodaeth Cychwyn

I2Rhl. 48 mewn grym ar 1.4.2011, gweler rhl. 1(1)

ArbedLL+C

49.—(1Yn ddarostyngedig i baragraff (2), ni fydd dirymu Rheoliadau 2004 yn effeithio ar—

(a)unrhyw benderfyniad sydd wedi ei wneud;

(b)unrhyw hysbysiad o ataliad dros dro;

(c)unrhyw gyfnod o atal dros dro neu o gyfyngu neu o amser; neu

(ch)unrhyw benderfyniad sydd wedi ei wneud gan y Tribiwnlys Haen Gyntaf,

(d)o dan neu'n unol â Rheoliadau 2004.

(2Mewn perthynas â dirymu Rheoliadau 2004, ceir dwyn achosion cyfreithiol, neu osod a gorfodi rhwymedïau a chosbau mewn perthynas â gweithredoedd a gyflawnwyd o dan, mewn cysylltiad â, neu'n groes i unrhyw ddarpariaeth a wnaed gan Reoliadau 2004 cyn y dyddiad perthnasol, fel pe na bai'r dirymiad yn rheoliad 48 wedi ei wneud.

Gwybodaeth Cychwyn

I3Rhl. 49 mewn grym ar 1.4.2011, gweler rhl. 1(1)