Golwg cyfnod mewn amser fel yr oedd ar 02/12/2019.
Ar hyn o bryd nid oes unrhyw effeithiau heb eu gweithredu yn hysbys ar gyfer y Rheoliadau Gwarchod Plant a Gofal Dydd (Cymru) 2010, Adran 23.
Efallai na fydd deddfwriaeth ddiwygiedig sydd ar y safle hwn yn gwbl gyfoes. Ar hyn o bryd mae unrhyw newidiadau neu effeithiau hysbys a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol wedi'u gwneud i destun y ddeddfwriaeth yr ydych yn edrych arni gan y tîm golygyddol. Gweler 'Cwestiynau Cyffredin' am fanylion ynglŷn â'r amserlenni ar gyfer nodi a chofnodi effeithiau newydd ar y safle hwn.
23.—(1) Ni chaniateir defnyddio unrhyw fesur rheoli, atal neu ddisgyblu sy'n ormodol, yn afresymol neu'n groes i baragraff (5) ar blant perthnasol ar unrhyw adeg.
(2) Rhaid i'r person cofrestredig, yn unol â'r rheoliad hwn, lunio a gweithredu polisi rheoli ymddygiad ysgrifenedig sy'n rhagnodi—
(a)y mesurau rheoli, atal a disgyblu y caniateir eu defnyddio yn y fangre berthnasol; a
(b)y dull sydd i'w ddefnyddio i hyrwyddo ymddygiad priodol yn y fangre honno.
(3) Yn ddarostyngedig i baragraffau (5) a (6) o'r rheoliad hwn, y mesurau rheoli, atal a disgyblu hynny y darperir ar eu cyfer yn y polisi rheoli ymddygiad dywededig, yn unig, y caniateir eu defnyddio ar blant perthnasol.
(4) Rhaid i'r person cofrestredig cadw'r polisi rheoli ymddygiad dan arolwg, a phan fo'n briodol, ei ddiwygio a hysbysu'r swyddfa briodol ynghylch unrhyw ddiwygiad o'r fath o fewn 28 diwrnod ar ôl diwygio.
(5) Yn ddarostyngedig i baragraff (6), ni chaniateir defnyddio'r mesurau canlynol, na bygwth defnyddio un neu ragor ohonynt ar blant perthnasol—
(a)unrhyw ffurf o gosb gorfforol;
(b)yn ddarostyngedig i ddarpariaeth mewn unrhyw orchymyn llys sy'n ymwneud â chysylltiadau rhwng y plentyn ac unrhyw berson, unrhyw gyfyngiad ar y plentyn o ran cysylltu neu gyfathrebu â'i rieni;
(c)unrhyw gosb sy'n ymwneud â bwyta neu yfed, neu amddifadu o fwyd neu ddiod;
(ch)unrhyw ofyniad bod plentyn yn gwisgo dillad neilltuol neu amhriodol;
(d)defnyddio neu atal meddyginiaeth neu driniaeth feddygol neu ddeintyddol fel mesur disgyblu;
(dd)atal plentyn yn fwriadol rhag cysgu;
(e)unrhyw archwiliad corfforol agos ar blentyn;
(f)gwrthod unrhyw gymhorthion neu offer y mae eu hangen ar blentyn anabl;
(ff)unrhyw fesur sy'n—
(i)cynnwys plentyn mewn gweithredu unrhyw fesur yn erbyn plentyn arall; neu
(ii)cosbi grŵp o blant am ymddygiad plentyn unigol.
(6) Nid oes dim yn y rheoliad hwn sy'n gwahardd—
(a)unrhyw weithred sydd ei hangen i ddiogelu iechyd plentyn, gan ymarferydd meddygol neu ddeintyddol cofrestredig neu'n unol â chyfarwyddiadau ymarferydd o'r fath;
(b)unrhyw weithred sydd ei hangen ar unwaith i atal niwed i unrhyw berson neu ddifrod difrifol i eiddo.
Gwybodaeth Cychwyn
I1Rhl. 23 mewn grym ar 1.4.2011, gweler rhl. 1(1)
Y Diweddaraf sydd Ar Gael (diwygiedig):Y fersiwn ddiweddaraf sydd ar gael o’r ddeddfwriaeth yn cynnwys newidiadau a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol ac wedi eu gweithredu gan ein tîm golygyddol. Gellir gweld y newidiadau nad ydym wedi eu gweithredu i’r testun eto yn yr ardal ‘Newidiadau i Ddeddfwriaeth’. Dim ond yn Saesneg y mae’r fersiwn ddiwygiedig ar gael ar hyn o bryd.
Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed) - Saesneg: Mae'r wreiddiol Saesneg fersiwn y ddeddfwriaeth fel ag yr oedd pan gafodd ei deddfu neu eu gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.
Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed)-Cymraeg:Y fersiwn Gymraeg wreiddiol o’r ddeddfwriaeth fel yr oedd yn sefyll pan gafodd ei deddfu neu ei gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.
Pwynt Penodol mewn Amser: This becomes available after navigating to view revised legislation as it stood at a certain point in time via Advanced Features > Show Timeline of Changes or via a point in time advanced search. A point in time version is only available in English.
Rhychwant ddaearyddol: Indicates the geographical area that this provision applies to. For further information see ‘Frequently Asked Questions’.
Dangos Llinell Amser Newidiadau: See how this legislation has or could change over time. Turning this feature on will show extra navigation options to go to these specific points in time. Return to the latest available version by using the controls above in the What Version box.
Gallwch wneud defnydd o ddogfennau atodol hanfodol a gwybodaeth ar gyfer yr eitem ddeddfwriaeth o’r tab hwn. Yn ddibynnol ar yr eitem ddeddfwriaeth sydd i’w gweld, gallai hyn gynnwys:
This timeline shows the different points in time where a change occurred. The dates will coincide with the earliest date on which the change (e.g an insertion, a repeal or a substitution) that was applied came into force. The first date in the timeline will usually be the earliest date when the provision came into force. In some cases the first date is 01/02/1991 (or for Northern Ireland legislation 01/01/2006). This date is our basedate. No versions before this date are available. For further information see the Editorial Practice Guide and Glossary under Help.
Defnyddiwch y ddewislen hon i agor dogfennau hanfodol sy’n cyd-fynd â’r ddeddfwriaeth a gwybodaeth am yr eitem hon o ddeddfwriaeth. Gan ddibynnu ar yr eitem o ddeddfwriaeth sy’n cael ei gweld gall hyn gynnwys:
liciwch ‘Gweld Mwy’ neu ddewis ‘Rhagor o Adnoddau’ am wybodaeth ychwanegol gan gynnwys