xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom" xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

RHAN 5LL+CGWEITHGAREDDAU PERSONAU A GOFRESTRIR O DAN RAN 2 O'R MESUR

Addasrwydd y fangreLL+C

37.—(1Rhaid i'r person cofrestredig beidio â defnyddio mangre ar gyfer gwarchod plant neu ddarparu gofal dydd, yn ôl fel y digwydd, oni fydd ei lleoliad, ei dyluniad a'i chynllun ffisegol yn addas ar gyfer cyrraedd y nodau ac amcanion a bennir yn y datganiad o ddiben.

(2[F1Yn ddarostyngedig i baragraff (6), rhaid i’r person cofrestredig] sicrhau bod pob rhan o'r fangre berthnasol a ddefnyddir gan blant perthnasol—

(a)wedi ei goleuo, ei gwresogi a'i hawyru'n ddigonol;

(b)yn ddiogel rhag mynediad diawdurdod;

(c)wedi ei dodrefnu a'i chyfarparu'n addas;

(ch)o adeiladwaith cadarn, a gedwir mewn cyflwr adeileddol da yn fewnol ac allanol;

(d)yn lân ac wedi ei haddurno a'i chynnal yn rhesymol; ac

(dd)wedi ei chyfarparu â'r hyn sy'n rhesymol angenrheidiol, ac wedi ei haddasu yn ôl yr angen, i ddiwallu'r anghenion sy'n deillio o anabledd unrhyw blentyn perthnasol.

(3Rhaid i'r person cofrestredig sicrhau y cedwir y fangre berthnasol yn rhydd o arogleuon annymunol a gwneud trefniadau addas ar gyfer gwaredu gwastraff cyffredinol a chlinigol.

(4Pan ddarperir gofal mewn mangre dan do rhaid i'r person cofrestredig sicrhau bod digon o'r cyfleusterau canlynol yn y fangre berthnasol, y gall blant perthnasol eu defnyddio o dan amodau sy'n caniatáu preifatrwydd priodol —

(a)nifer digonol o fasnau ymolchi gyda chyflenwad o ddŵr rhedegog poeth ac oer, a

(b)nifer digonol o doiledau addas sy'n addas i blant perthnasol,

ar gyfer nifer a rhyw'r plant perthnasol.

(5Pan ddarperir bwyd mewn safle dan do, rhaid i'r person cofrestredig sicrhau bod cyfleusterau a chyfarpar addas a digonol ar gyfer paratoi, storio a bwyta bwyd yn y fangre berthnasol.

[F2(6) Nid yw paragraff (2) yn gymwys i berson cofrestredig sy’n darparu gofal dydd drwy ddarpariaeth chwarae mynediad agored.]

Diwygiadau Testunol

Gwybodaeth Cychwyn

I1Rhl. 37 mewn grym ar 1.4.2011, gweler rhl. 1(1)