xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"
5. Rhaid i dystysgrif gofrestru a roddir i geisydd o dan adran 28(2)(b) o'r Mesur (cofnodi ar y gofrestr a thystysgrifau) gynnwys y manylion canlynol–
(a)enw, cyfeiriad a rhif teleffon y swyddfa briodol;
(b)enw'r person a gofrestrwyd;
(c)yn achos person a gofrestrwyd fel darparydd gofal dydd, cyfeiriad y man lle y darperir y gofal dydd;
(ch)enw'r person â chyfrifoldeb, os penodwyd un;
(d)pan fo'r cofrestriad yn ddarostyngedig i unrhyw amodau, manylion yr amodau;
(dd)y dyddiad cofrestru;
(e)datganiad i'r perwyl y caiff Gweinidogion Cymru ddiddymu'r cofrestriad, os na ddarperir y gwarchod plant neu'r gofal dydd, yn ôl fel y digwydd, yn unol â'r amodau a osodwyd;
(f)datganiad i'r perwyl bod y dystysgrif yn berthynol i'r person y'i dyroddwyd iddo gan Weinidogion Cymru yn unig, ac na ellir ei throsglwyddo i unrhyw berson arall.