Y person cofrestredig: gofynion cyffredinolLL+C
9.—(1) Rhaid i'r person cofrestredig, gan roi sylw —
(a)i'r datganiad o ddiben, nifer y plant perthnasol a'u hanghenion (gan gynnwys unrhyw anghenion sy'n deillio o anabledd), a
(b)i'r angen i ddiogelu a hyrwyddo'u lles,
weithredu fel gwarchodwr plant neu ddarparu gofal dydd (yn ôl fel y digwydd) â gofal, cymhwysedd a medrusrwydd digonol.
(2) Os oes person â chyfrifoldeb wedi ei benodi, rhaid i'r person cofrestredig sicrhau bod y person â chyfrifoldeb yn bodloni'r gofynion a bennir ym mharagraff (1).
(3) Os yw person cofrestredig yn gweithredu fel gwarchodwr plant neu yn unigolyn sy'n darparu gofal dydd, rhaid i'r person cofrestredig ymgymryd o bryd i'w gilydd ag unrhyw hyfforddiant sy'n briodol, er mwyn sicrhau bod ganddo'r profiad a'r sgiliau sy'n angenrheidiol i weithredu fel gwarchodwr plant neu i ddarparu gofal dydd, yn ôl fel y digwydd.
(4) Os yw'r person cofrestredig yn sefydliad sy'n darparu gofal dydd, rhaid iddo sicrhau bod yr unigolyn cyfrifol yn ymgymryd ag unrhyw hyfforddiant sy'n briodol, er mwyn sicrhau bod ganddo'r medrau sy'n angenrheidiol ar gyfer darparu gofal dydd.
(5) Os oes person â chyfrifoldeb wedi ei benodi, rhaid i'r person cofrestredig sicrhau bod y person â chyfrifoldeb yn ymgymryd ag unrhyw hyfforddiant sy'n briodol, er mwyn sicrhau bod ganddo'r medrau sy'n angenrheidiol ar gyfer darparu gofal dydd.
Gwybodaeth Cychwyn
I1Rhl. 9 mewn grym ar 1.4.2011, gweler rhl. 1(1)