Fersiwn wedi'i ddisodliFersiwn wedi ei ddisodli: 13/03/2014
Golwg cyfnod mewn amser fel yr oedd ar 01/04/2011.
Ar hyn o bryd nid oes unrhyw effeithiau heb eu gweithredu yn hysbys ar gyfer y Rheoliadau Gwarchod Plant a Gofal Dydd (Cymru) 2010, ATODLEN 2.
Efallai na fydd deddfwriaeth ddiwygiedig sydd ar y safle hwn yn gwbl gyfoes. Ar hyn o bryd mae unrhyw newidiadau neu effeithiau hysbys a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol wedi'u gwneud i destun y ddeddfwriaeth yr ydych yn edrych arni gan y tîm golygyddol. Gweler 'Cwestiynau Cyffredin' am fanylion ynglŷn â'r amserlenni ar gyfer nodi a chofnodi effeithiau newydd ar y safle hwn.
Rheoliadau 4, 6, 8, 20 a 28
1. Yn yr Atodlen hon, ystyr “ceisydd” yw—
(a)person sy'n gwneud cais am gofrestriad fel gwarchodwr plant neu ddarparydd gofal dydd o dan Ran 2 o'r Mesur; a
(b)pan fo'r cyd-destun yn mynnu, person a gofrestrwyd o dan Ran 2 o'r Mesur fel gwarchodwr plant neu ddarparydd gofal dydd.
Gwybodaeth Cychwyn
I1Atod. 2 para. 1 mewn grym ar 1.4.2011, gweler rhl. 1(1)
2.—(1) Mae'r paragraff hwn yn gymwys i unigolyn sy'n gwneud cais i gofrestru fel gwarchodwr plant.
(2) Enw llawn y ceisydd (ac unrhyw enw arall neu enw blaenorol), ei ddyddiad geni, ei gyfeiriad a'i rif teleffon.
(3) Manylion cymwysterau proffesiynol neu dechnegol a phrofiad y ceisydd, i'r graddau y mae'r cyfryw gymwysterau a phrofiad yn berthnasol i ofalu am blant o dan wyth mlwydd oed.
(4) Manylion hanes cyflogaeth y ceisydd, gan gynnwys—
(a)hanes cyflogaeth llawn, ynghyd ag esboniad ysgrifenedig boddhaol o unrhyw fylchau mewn cyflogaeth;
(b)os oedd unrhyw gyflogaeth neu swydd flaenorol yn cynnwys gweithio gyda phlant, cadarnhad, i'r graddau y bo'n rhesymol ymarferol, o'r rheswm pam y daeth y gyflogaeth neu'r swydd honno i ben;
(c)enw a chyfeiriad unrhyw gyflogwr presennol, a phan fo'n berthnasol, unrhyw gyflogwyr blaenorol.
(5) Enwau a chyfeiriadau dau ganolwr—
(a)nad ydynt yn berthnasau i'r ceisydd;
(b)sydd ill dau yn alluog i ddarparu geirda mewn perthynas â chymhwysedd y ceisydd i ofalu am blant o dan wyth mlwydd oed; ac
(c)un ohonynt, os yw'n bosibl, yn gyflogwr diweddaraf y ceisydd.
(6) Manylion unrhyw fusnes a gynhelir, neu a gynhaliwyd, gan y ceisydd.
Gwybodaeth Cychwyn
I2Atod. 2 para. 2 mewn grym ar 1.4.2011, gweler rhl. 1(1)
3. Enw, cyfeiriad, rhif teleffon, rhif ffacsimile (os oes un), a chyfeiriad post electronig (os oes un) y fangre lle y bwriedir gofalu am y plant (“y fangre”), ynghyd â disgrifiad o'r fangre a'r cyfleusterau a ddarperir, neu sydd i'w darparu, ar gyfer plant perthnasol.
Gwybodaeth Cychwyn
I3Atod. 2 para. 3 mewn grym ar 1.4.2011, gweler rhl. 1(1)
4. Y datganid o ddiben.
Gwybodaeth Cychwyn
I4Atod. 2 para. 4 mewn grym ar 1.4.2011, gweler rhl. 1(1)
5. Yr oriau arfaethedig y dymuna'r ceisydd gael ei gofrestru ar eu cyfer fel gwarchodwr plant.
Gwybodaeth Cychwyn
I5Atod. 2 para. 5 mewn grym ar 1.4.2011, gweler rhl. 1(1)
6. Disgrifiad o'r ardal y lleolir y fangre ynddi, a manylion ynghylch mynediad i'r fangre.
Gwybodaeth Cychwyn
I6Atod. 2 para. 6 mewn grym ar 1.4.2011, gweler rhl. 1(1)
7. Datganiad ynglŷn â'r trefniadau diogelwch, gan gynnwys trefniadau at ddibenion—
(a)diogelu mynediad at wybodaeth a gedwir yn y fangre; a
(b)cyfyngu ar fynediad i mewn i'r fangre o fangreoedd cyfagos, neu os yw'r fangre yn rhan o adeilad, o rannau eraill o'r adeilad.
Gwybodaeth Cychwyn
I7Atod. 2 para. 7 mewn grym ar 1.4.2011, gweler rhl. 1(1)
8. Pa un a oes busnes neu weithgarwch arall a gynhelir, neu a fydd yn cael ei gynnal, yn y fangre yr un pryd ag y gofelir am blant yno o dan y cofrestriad arfaethedig, ac os felly, manylion y cyfryw fusnes neu weithgarwch.
Gwybodaeth Cychwyn
I8Atod. 2 para. 8 mewn grym ar 1.4.2011, gweler rhl. 1(1)
9. Nifer y plant y gofelir amdanynt, a'u hoedrannau.
Gwybodaeth Cychwyn
I9Atod. 2 para. 9 mewn grym ar 1.4.2011, gweler rhl. 1(1)
10. Mewn perthynas ag unrhyw berson, ac eithrio'r ceisydd, sy'n gofalu neu sydd i ofalu am blant neu blentyn perthnasol—
(a)enw'r person (ac unrhyw enw arall ac enw blaenorol) a'i ddyddiad geni;
(b)dyletswyddau a chyfrifoldebau'r person mewn perthynas â gwaith y person hwnnw.
Gwybodaeth Cychwyn
I10Atod. 2 para. 10 mewn grym ar 1.4.2011, gweler rhl. 1(1)
11. Mewn perthynas ag unrhyw berson, ac eithrio'r ceisydd, sy'n gofalu neu sydd i ofalu am blant perthnasol—
(a)pa un a yw'r person yn preswylio, neu a fwriedir iddo breswylio yn y fangre ai peidio;
(b)os yw'r person yn berthynas i'r ceisydd, natur y berthynas honno;
(c)pa un a yw'r person yn gweithio, neu a fwriedir iddo weithio, ar sail amser llawn ynteu ar sail ran-amser, ac os ar sail ran-amser, y nifer o oriau bob wythnos y bwriedir i'r person hwnnw weithio;
(ch)y dyddiad y dechreuodd y person weithio, neu y bwriedir iddo ddechrau gweithio;
(d)gwybodaeth ynghylch cymwysterau, profiad a sgiliau'r person hwnnw, i'r graddau y mae'n berthnasol i'r gwaith sydd i'w gyflawni gan y person hwnnw;
(dd)datganiad gan y ceisydd i'r perwyl ei fod wedi ei fodloni ynghylch dilysrwydd y cymwysterau ac wedi gwirio'r profiad a'r sgiliau y cyfeirir atynt yn is-baragraff (d);
(e)datganiad gan y ceisydd ynghylch—
(i)addasrwydd cymwysterau'r person ar gyfer y gwaith y bwriedir i'r person ei gyflawni,
(ii)pa un a oes gan y person y sgiliau angenrheidiol ai peidio ar gyfer gwaith o'r fath, a
(iii)addasrwydd y person i weithio gyda phlant o dan wyth mlwydd oed a bod mewn cysylltiad â phlant o'r fath yn rheolaidd;
(f)datganiad gan y person ynglŷn â chyflwr ei iechyd corfforol a meddyliol;
(ff)datganiad gan y ceisydd i'r perwyl bod y person yn ffit yn gorfforol ac yn feddyliol ar gyfer y gwaith y bwriedir i'r person hwnnw ei gyflawni;
(g)datganiad gan y ceisydd i gadarnhau pa un a fodlonwyd ef ai peidio ynghylch dilysrwydd hunaniaeth y person, ac yn nodi'r dull a ddefnyddiodd y ceisydd i fodloni ei hunan ynglŷn â hynny, a pha un a yw'r ceisydd wedi cael copi o dystysgrif geni'r person ai peidio;
(ng)cadarnhad gan y ceisydd bod ganddo ffotograff diweddar o'r person;
(h)datganiad gan y ceisydd i'r perwyl ei fod wedi cael—
(i)dau eirda mewn perthynas â'r person, a bod y ceisydd wedi ei fodloni ynghylch dilysrwydd y geirdaon hynny,
(ii)hanes cyflogaeth llawn, ynghyd ag esboniad boddhaol o unrhyw fylchau yng nghyflogaeth y person, a
(iii)os oedd cyflogaeth neu swydd flaenorol y person yn ymwneud â phlant, cadarnhad, i'r graddau y bo'n rhesymol ymarferol, o'r rheswm pam y daeth y gyflogaeth neu'r swydd honno i ben
Gwybodaeth Cychwyn
I11Atod. 2 para. 11 mewn grym ar 1.4.2011, gweler rhl. 1(1)
12.—(1) Enw llawn (ac unrhyw enw arall ac enw blaenorol), dyddiad geni a chyfeiriad pob person (ac eithrio'r ceisydd a pherson a grybwyllir ym mharagraffau 10 ac 11) sydd wedi cyrraedd 16 mlwydd oed, yn gweithio yn y fangre berthnasol ac yn dod, neu'n debygol o ddod, i gysylltiad rheolaidd â phlant perthnasol.
(2) At ddibenion is-baragraff (1), mae person sy'n gweithio yn y fangre berthnasol yn cynnwys person sy'n gweithio ar sail wirfoddol.
Gwybodaeth Cychwyn
I12Atod. 2 para. 12 mewn grym ar 1.4.2011, gweler rhl. 1(1)
13. Enw llawn (ac unrhyw enw arall ac enw blaenorol) a, dyddiad geni pob person sydd wedi cyrraedd 16 mlwydd oed, yn byw yn y fangre berthnasol, ac yn dod, neu'n debygol o ddod, i gysylltiad rheolaidd â phlant perthnasol.
Gwybodaeth Cychwyn
I13Atod. 2 para. 13 mewn grym ar 1.4.2011, gweler rhl. 1(1)
14. Enw llawn (ac unrhyw enw arall ac enw blaenorol), dyddiad geni a chyfeiriad pob person sydd wedi cyrraedd 16 mlwydd oed ac sydd rywfodd arall yn bresennol yn y fangre berthnasol ac yn dod, neu'n debygol o ddod, i gysylltiad yn rheolaidd â phlant perthnasol.
Gwybodaeth Cychwyn
I14Atod. 2 para. 14 mewn grym ar 1.4.2011, gweler rhl. 1(1)
15. Tystysgrif geni'r ceisydd.
Gwybodaeth Cychwyn
I15Atod. 2 para. 15 mewn grym ar 1.4.2011, gweler rhl. 1(1)
16. Prawf o hunaniaeth y ceisydd, gan gynnwys ffotograff diweddar.
Gwybodaeth Cychwyn
I16Atod. 2 para. 16 mewn grym ar 1.4.2011, gweler rhl. 1(1)
17. Tystysgrifau neu dystiolaeth addas arall o gymwysterau proffesiynol neu dechnegol y ceisydd, i'r graddau y mae cymwysterau o'r fath yn berthnasol i ofalu am blant sydd o dan wyth mlwydd oed.
Gwybodaeth Cychwyn
I17Atod. 2 para. 17 mewn grym ar 1.4.2011, gweler rhl. 1(1)
18. Tystysgrif o yswiriant yr ymgeisydd rhag atebolrwydd y gellid ei achosi i'r person hwnnw mewn perthynas â marwolaeth, anaf, atebolrwydd cyhoeddus, difrod neu golled arall mewn cysylltiad â'r gwarchod plant arfaethedig.
Gwybodaeth Cychwyn
I18Atod. 2 para. 18 mewn grym ar 1.4.2011, gweler rhl. 1(1)
19.—(1) Datganiad ysgrifenedig gan y ceisydd yn cadarnhau—
(a)mewn perthynas â phob person, ac eithrio'r ceisydd, sy'n gofalu, neu y bwriedir iddo ofalu, am y plant a warchodir, bod–
(i)tystysgrif cofnod troseddol fanylach wedi ei dyroddi; a
(ii)pan fo'n briodol(1), cofrestriad gydag ADA wedi ei gwblhau a bod y ceisydd wedi cael rhif cofrestru ADA y person hwnnw; a
(b)y bydd y ceisydd yn rhoi'r tystysgrifau a ddyroddwyd felly, a'r rhifau cofrestru a ddyrannwyd, ar gael i'w harchwilio gan Weinidogion Cymru os gofynnir amdanynt gan Weinidogion Cymru.
(2) Yn ddarostyngedig i baragraff (3), datganiad ysgrifenedig gan y ceisydd yn cadarnhau–—
(a)mewn perthynas â phob person a grybwyllir ym mharagraffau 12 i 14, bod—
(i)tystysgrif cofnod troseddol fanylach wedi ei dyroddi; a
(ii)pan fo'n briodol, cofrestriad gydag ADA wedi ei gwblhau a bod y ceisydd wedi cael rhif cofrestru ADA y person hwnnw; a
(b)y bydd y ceisydd yn rhoi'r tystysgrifau a ddyroddwyd felly, a'r rhifau cofrestru a ddyrannwyd, ar gael i'w harchwilio gan Weinidogion Cymru os gofynnir amdanynt gan Weinidogion Cymru.
(3) Pan fo rheoliad 20(5) yn gymwys, ac nad oes awdurdod gan y ceisydd i gael y cyfryw wybodaeth neu ddogfen, datganiad ysgrifenedig gan y ceisydd y caiff y personau a grybwyllir ym mharagraffau 12 i 14 eu goruchwylio'n briodol ar bob achlysur pan fo unrhyw berson o'r fath yn dod i gysylltiad â phlentyn neu blant perthnasol.
Gwybodaeth Cychwyn
I19Atod. 2 para. 19 mewn grym ar 1.4.2011, gweler rhl. 1(1)
20.—(1) Yn ddarostyngedig i is-baragraff (2), adroddiad gan ymarferydd meddygol cofrestredig ynglŷn â pha un a yw'r ceisydd yn ffit ai peidio yn gorfforol ac yn feddyliol i ofalu am blant o dan wyth mlwydd oed.
(2) Os nad oes modd i'r ceisydd gael yr adroddiad y cyfeirir ato yn is-baragraff (1), datganiad gan y ceisydd ynglŷn â chyflwr ei iechyd corfforol a meddyliol.
Gwybodaeth Cychwyn
I20Atod. 2 para. 20 mewn grym ar 1.4.2011, gweler rhl. 1(1)
21. Yn Rhan hon—
ystyr “perthynas” (“relative”) mewn perthynas ag unrhyw berson yw—
priod neu bartner sifil y person hwnnw;
unrhyw riant, taid, nain, plentyn, ŵyr, wyres, brawd, chwaer, ewythr, modryb, nai neu nith y person neu briod neu bartner sifil y person;
priod neu bartner sifil unrhyw berthynas y cyfeirir ato yn is-baragraff (b),
ac at y diben o benderfynu ynghylch unrhyw berthynas o'r fath, rhaid trin llysblentyn person fel plentyn y person, ac y mae cyfeiriadau at “briod” mewn perthynas ag unrhyw berson yn cynnwys cyn–briod a pherson sy'n byw gyda'r person fel gŵr neu wraig, ac y mae cyfeiriadau at “bartner sifil” yn cynnwys cyn-bartner sifil.
Gwybodaeth Cychwyn
I21Atod. 2 para. 21 mewn grym ar 1.4.2011, gweler rhl. 1(1)
22.—(1) Mae'r paragraff hwn yn gymwys pan fo'r ceisydd yn unigolyn.
(2) Enw llawn y ceisydd (ac unrhyw enw arall neu enw blaenorol), ei ddyddiad geni, ei gyfeiriad a'i rif teleffon.
(3) Manylion cymwysterau proffesiynol neu dechnegol a phrofiad y ceisydd, i'r graddau y mae'r cyfryw gymwysterau a phrofiad yn berthnasol i ofalu am blant o dan wyth mlwydd oed.
(4) Manylion unrhyw fusnes a gynhelir neu a gynhaliwyd gan y ceisydd.
(5) Manylion hanes cyflogaeth y ceisydd, gan gynnwys—
(a)hanes cyflogaeth llawn, ynghyd ag esboniad ysgrifenedig boddhaol o unrhyw fylchau mewn cyflogaeth;
(b)os oedd unrhyw gyflogaeth neu swydd flaenorol yn cynnwys gweithio gyda phlant, cadarnhad, i'r graddau y bo'n rhesymol ymarferol, o'r rheswm pam y daeth y gyflogaeth neu'r swydd honno i ben;
(c)enw a chyfeiriad unrhyw gyflogwr presennol, a phan fo'n berthnasol, unrhyw gyflogwyr blaenorol;
(ch)enwau a chyfeiriadau dau ganolwr—
(i)nad ydynt yn berthnasau i'r ceisydd,
(ii)sydd ill dau yn alluog i ddarparu geirda mewn perthynas â chymhwysedd y ceisydd i ofalu am blant o dan wyth mlwydd oed; a
(iii)un ohonynt, os yw'n bosibl, yn gyflogwr diweddaraf y ceisydd.
Gwybodaeth Cychwyn
I22Atod. 2 para. 22 mewn grym ar 1.4.2011, gweler rhl. 1(1)
23.—(1) Mae'r paragraff hwn yn gymwys pan fo'r ceisydd yn sefydliad.
(2) Enw, cyfeiriad a rhif teleffon y ceisydd.
(3) Yn achos ceisydd sefydliadol sy'n gwmni, ei swyddfa gofrestredig neu brif swyddfa'r cwmni, ei rif cofrestru ac, yn achos ceisydd sefydliadol sy'n elusen gofrestredig, ei rif elusen gofrestredig.
(4) Os yw'r sefydliad yn is-gwmni cwmni daliannol, enw a chyfeiriad y cwmni daliannol, ei swyddfa gofrestredig neu'i brif swyddfa ac unrhyw is-gwmni arall y cwmni daliannol hwnnw.
(5) Yn yr Atodlen hon rhaid dehongli'r geiriau “cwmni daliannol” (“holding company”) ac “is–gwmni” (“subsidiary”) yn unol â'r dehongliad o “subsidiary” a “holding company” yn adran 1159 o Ddeddf Cwmnïau 2006(2).
Gwybodaeth Cychwyn
I23Atod. 2 para. 23 mewn grym ar 1.4.2011, gweler rhl. 1(1)
24.—(1) Mae'r paragraff hwn yn gymwys pan fo'r ceisydd yn sefydliad ac, fel y cyfryw, wedi penodi unigolyn cyfrifol.
(2) Enw llawn (ac unrhyw enw arall ac enw blaenorol) yr unigolyn cyfrifol, ei ddyddiad geni, ei gyfeiriad a'i rif teleffon.
(3) Manylion am gymwysterau proffesiynol neu dechnegol yr unigolyn gyfrifol a'i brofiad, i'r graddau y mae'r cyfryw gymwysterau a phrofiad yn berthnasol i—
(a)darparu gofal dydd i blant o dan wyth mlwydd oed,
(b)pan fo paragraff 25 yn gymwys, goruchwylio'r ddarpariaeth o ofal dydd i blant o dan wyth mlwydd oed.
(4) Ac eithrio pan fo paragraff 25 yn gymwys, manylion am hanes cyflogaeth yr unigolyn cyfrifol–
(a)hanes cyflogaeth llawn, ynghyd ag esboniad ysgrifenedig boddhaol o unrhyw fylchau mewn cyflogaeth;
(b)os oedd unrhyw gyflogaeth neu swydd flaenorol yn cynnwys gweithio gyda phlant, cadarnhad, i'r graddau y bo'n rhesymol ymarferol, o'r rheswm pam y daeth y gyflogaeth neu'r swydd honno i ben;
(c)enw a chyfeiriad unrhyw gyflogwr presennol, a phan fo'n berthnasol, unrhyw gyflogwyr blaenorol;
(ch)enwau a chyfeiriadau dau ganolwr —
(i)nad ydynt yn berthnasau i'r unigolyn cyfrifol,
(ii)sydd ill dau yn alluog i ddarparu geirda mewn perthynas â chymhwysedd yr unigolyn cyfrifol i ofalu am blant o dan wyth mlwydd oed; ac
(iii)un ohonynt, os yw'n bosibl, yn gyflogwr diweddaraf yr unigolyn cyfrifol.
Gwybodaeth Cychwyn
I24Atod. 2 para. 24 mewn grym ar 1.4.2011, gweler rhl. 1(1)
25.—(1) Mae'r paragraff hwn yn gymwys pan fo person â chyfrifoldeb wedi ei benodi.
(2) Enw llawn (ac unrhyw enw arall neu enw blaenorol) y person â chyfrifoldeb, ac os nad y person hwnnw hefyd yw'r ceisydd neu'r unigolyn cyfrifol, ei ddyddiad geni, ei gyfeiriad a'i rif teleffon.
(3) Manylion cymwysterau proffesiynol neu dechnegol y person â chyfrifoldeb a'i brofiad, i'r graddau y mae'r cyfryw gymwysterau a phrofiad yn berthnasol i ddarparu gofal dydd i blant o dan wyth mlwydd oed.
(4) Manylion hanes cyflogaeth y ceisydd, gan gynnwys—
(a)hanes cyflogaeth llawn, ynghyd ag esboniad ysgrifenedig boddhaol o unrhyw fylchau mewn cyflogaeth;
(b)os oedd unrhyw gyflogaeth neu swydd flaenorol yn cynnwys gweithio gyda phlant, cadarnhad, i'r graddau y bo'n rhesymol ymarferol, o'r rheswm pam y daeth y gyflogaeth neu'r swydd honno i ben;
(c)enw a chyfeiriad unrhyw gyflogwr presennol, a phan fo'n berthnasol, unrhyw gyflogwyr blaenorol;
(ch)enwau a chyfeiriadau dau ganolwr —
(i)nad ydynt yn berthnasau i'r person,
(ii)sydd ill dau yn alluog i ddarparu geirda mewn perthynas â chymhwysedd y person i ofalu am blant o dan wyth mlwydd oed; ac
(iii)un ohonynt, os yw'n bosibl, yn gyflogwr diweddaraf y person.
Gwybodaeth Cychwyn
I25Atod. 2 para. 25 mewn grym ar 1.4.2011, gweler rhl. 1(1)
26. Enw, cyfeiriad, rhif teleffon, rhif ffacsimile (os oes un), a chyfeiriad post electronig (os oes un) y fangre lle y bwriedir gofalu am y plant (“y fangre”) ynghyd â disgrifiad o'r cyfleusterau a ddarperir neu sydd i'w darparu i blant y gofelir amdanynt, gan gynnwys datganiad pa un a yw'r fangre wedi ei hadeiladu'n bwrpasol neu wedi ei throsi i'w defnyddio fel mangre lle y gofelir am blant.
Gwybodaeth Cychwyn
I26Atod. 2 para. 26 mewn grym ar 1.4.2011, gweler rhl. 1(1)
27. Y datganiad o ddiben.
Gwybodaeth Cychwyn
I27Atod. 2 para. 27 mewn grym ar 1.4.2011, gweler rhl. 1(1)
28. Yr oriau arfaethedig y dymuna'r ceisydd gael ei gofrestru ar eu cyfer fel darparydd gofal dydd i blant.
Gwybodaeth Cychwyn
I28Atod. 2 para. 28 mewn grym ar 1.4.2011, gweler rhl. 1(1)
29. Disgrifiad o'r ardal y lleolir y fangre ynddi, a manylion ynghylch mynediad i'r fangre.
Gwybodaeth Cychwyn
I29Atod. 2 para. 29 mewn grym ar 1.4.2011, gweler rhl. 1(1)
30. Datganiad ynglŷn â'r trefniadau diogelwch, gan gynnwys trefniadau at ddibenion —
(a)diogelu mynediad at wybodaeth a gedwir yn y fangre; a
(b)cyfyngu ar fynediad i mewn i'r fangre o fangreoedd cyfagos, neu os yw'r fangre yn rhan o adeilad, o rannau eraill o'r adeilad.
Gwybodaeth Cychwyn
I30Atod. 2 para. 30 mewn grym ar 1.4.2011, gweler rhl. 1(1)
31. Pa un a oes busnes neu weithgarwch arall a gynhelir, neu a fydd yn cael ei gynnal, yn y fangre yr un pryd ag y gofelir am blant yno o dan y cofrestriad arfaethedig, ac os felly, manylion y cyfryw fusnes neu weithgarwch.
Gwybodaeth Cychwyn
I31Atod. 2 para. 31 mewn grym ar 1.4.2011, gweler rhl. 1(1)
32. Nifer y plant y bwriedir darparu gofal iddynt, a'u hoedrannau.
Gwybodaeth Cychwyn
I32Atod. 2 para. 32 mewn grym ar 1.4.2011, gweler rhl. 1(1)
33. Mewn perthynas ag unrhyw berson, ac eithrio'r unigolyn cyfrifol neu, os yw'n berthnasol, y person â chyfrifoldeb, sy'n gofalu neu sydd i ofalu am y plant y darperir neu y bwriedir darparu gofal dydd iddynt—
(a)enw'r person (ac unrhyw enw arall ac enw blaenorol) a'i ddyddiad geni;
(b)dyletswyddau a chyfrifoldebau'r person mewn perthynas â gwaith y person hwnnw.
Gwybodaeth Cychwyn
I33Atod. 2 para. 33 mewn grym ar 1.4.2011, gweler rhl. 1(1)
34. Mewn perthynas ag unrhyw berson, ac eithrio'r unigolyn cyfrifol neu, os yw'n berthnasol, y person â chyfrifoldeb, sy'n gofalu neu sydd i ofalu am y plant y darperir neu y bwriedir darparu gofal dydd iddynt—
(a)pa un a yw'r person yn preswylio, neu a fwriedir iddo breswylio yn y fangre ai peidio;
(b)os yw'r person yn berthynas i'r ceisydd, natur y berthynas honno gyda'r ceisydd;
(c)pa un a yw'r person yn gweithio, neu a fwriedir iddo weithio, ar sail amser llawn ynteu ar sail ran-amser, ac os ar sail ran-amser, y nifer o oriau bob wythnos y bwriedir i'r person hwnnw weithio;
(ch)y dyddiad y dechreuodd y person weithio, neu y bwriedir iddo ddechrau gweithio;
(d)gwybodaeth ynghylch cymwysterau, profiad a sgiliau'r person hwnnw, i'r graddau y mae'n berthnasol i'r gwaith sydd i'w gyflawni gan y person hwnnw;
(dd)datganiad gan y ceisydd i'r perwyl ei fod wedi ei fodloni ynghylch dilysrwydd y cymwysterau ac wedi gwirio'r profiad a'r sgiliau y cyfeirir atynt yn is-baragraff (d);
(e)datganiad gan y ceisydd ynghylch—
(i)addasrwydd cymwysterau'r person ar gyfer y gwaith y bwriedir i'r person ei gyflawni,
(ii)pa un a oes gan y person y sgiliau angenrheidiol ai peidio ar gyfer gwaith o'r fath,
(iii)addasrwydd y person i weithio gyda phlant o dan wyth mlwydd oed a bod mewn cysylltiad â phlant o'r fath yn rheolaidd;
(f)datganiad gan y person ynglŷn â chyflwr ei iechyd corfforol a meddyliol;
(ff)datganiad gan y ceisydd i'r perwyl bod y person yn ffit yn gorfforol ac yn feddyliol ar gyfer y gwaith y bwriedir i'r person hwnnw ei gyflawni;
(g)datganiad gan y ceisydd i gadarnhau pa un a fodlonwyd ef ai peidio ynghylch dilysrwydd hunaniaeth y person, ac yn nodi'r dull a ddefnyddiodd y ceisydd i fodloni ei hunan ynglŷn â hynny, a pha un a yw'r ceisydd wedi cael copi o dystysgrif geni'r person ai peidio;
(ng)cadarnhad gan y ceisydd bod ganddo ffotograff diweddar o'r person;
(h)datganiad gan y ceisydd i'r perwyl ei fod wedi cael—
(i)dau eirda mewn perthynas â'r person, a bod y ceisydd wedi ei fodloni ynghylch dilysrwydd y geirdaon hynny,
(ii)hanes cyflogaeth llawn, ynghyd ag esboniad ysgrifenedig boddhaol o unrhyw fylchau yng nghyflogaeth y person;
(iii)os oedd cyflogaeth neu swydd flaenorol y person yn cynnwys gweithio gyda phlant, cadarnhad, i'r graddau y bo'n rhesymol ymarferol, o'r rheswm pam y daeth y gyflogaeth neu'r swydd honno i ben.
Gwybodaeth Cychwyn
I34Atod. 2 para. 34 mewn grym ar 1.4.2011, gweler rhl. 1(1)
35. Enw llawn (ac unrhyw enw arall ac enw blaenorol), dyddiad geni a chyfeiriad pob person (ac eithrio'r ceisydd a pherson a grybwyllir ym mharagraffau 24, 25 a 33) sydd wedi cyrraedd 16 mlwydd oed, yn gweithio yn y fangre berthnasol ac yn dod, neu'n debygol o ddod, i gysylltiad rheolaidd â phlant perthnasol.
Gwybodaeth Cychwyn
I35Atod. 2 para. 35 mewn grym ar 1.4.2011, gweler rhl. 1(1)
36. At ddibenion paragraff 35 mae person sy'n gweithio yn y fangre berthnasol yn cynnwys person sy'n gweithio ar sail wirfoddol.
Gwybodaeth Cychwyn
I36Atod. 2 para. 36 mewn grym ar 1.4.2011, gweler rhl. 1(1)
37. Enw llawn (ac unrhyw enw arall ac enw blaenorol), a dyddiad geni pob person sydd wedi cyrraedd 16 mlwydd oed, yn byw yn y fangre berthnasol ac yn dod, neu'n debygol o ddod, i gysylltiad rheolaidd â phlant perthnasol.
Gwybodaeth Cychwyn
I37Atod. 2 para. 37 mewn grym ar 1.4.2011, gweler rhl. 1(1)
38. Tystysgrif geni'r ceisydd, a phan fo'n berthnasol tystysgrifau geni'r unigolyn cyfrifol a'r person â chyfrifoldeb.
Gwybodaeth Cychwyn
I38Atod. 2 para. 38 mewn grym ar 1.4.2011, gweler rhl. 1(1)
39. Prawf o hunaniaeth y ceisydd, a phan fo'n briodol, o hunaniaeth yr unigolyn cyfrifol a'r person â chyfrifoldeb gan gynnwys ffotograffau diweddar.
Gwybodaeth Cychwyn
I39Atod. 2 para. 39 mewn grym ar 1.4.2011, gweler rhl. 1(1)
40. Tystysgrifau neu dystiolaeth addas arall o gymwysterau proffesiynol neu dechnegol y ceisydd, a phan fo'n briodol, yr unigolyn cyfrifol a'r person â chyfrifoldeb, i'r graddau y mae cymwysterau o'r fath yn berthnasol i ofalu am blant sydd o dan wyth mlwydd oed.
Gwybodaeth Cychwyn
I40Atod. 2 para. 40 mewn grym ar 1.4.2011, gweler rhl. 1(1)
41. Tystysgrif o yswiriant yr ymgeisydd rhag atebolrwydd y gellid ei achosi i'r person hwnnw mewn perthynas â marwolaeth, anaf, atebolrwydd cyhoeddus, difrod neu golled arall mewn cysylltiad â'r ddarpariaeth arfaethedig o ofal dydd.
Gwybodaeth Cychwyn
I41Atod. 2 para. 41 mewn grym ar 1.4.2011, gweler rhl. 1(1)
42.—(1) Datganiad ysgrifenedig gan y ceisydd yn cadarnhau—
(a)mewn perthynas â phob person, ac eithrio'r ceisydd, sy'n gofalu, neu y bwriedir iddo ofalu, am y plant y darperir gofal dydd iddynt, bod–
(i)tystysgrif cofnod troseddol fanylach wedi ei dyroddi; a
(ii)cofrestriad gydag ADA wedi ei gwblhau a bod y ceisydd wedi cael rhif cofrestru ADA y person hwnnw; a
(b)y bydd y ceisydd yn rhoi'r tystysgrifau a ddyroddwyd felly, a'r rhifau cofrestru a ddyrannwyd, ar gael i'w harchwilio gan Weinidogion Cymru os gofynnir amdanynt gan Weinidogion Cymru.
(2) Yn ddarostyngedig i baragraff (3), datganiad ysgrifenedig gan y ceisydd yn cadarnhau—
(a)mewn perthynas â phob person a grybwyllir ym mharagraffau 35 i 37, bod—
(i)tystysgrif cofnod troseddol fanylach wedi ei dyroddi; a
(ii)pan fo'n briodol, cofrestriad gydag ADA wedi ei gwblhau a bod y ceisydd wedi cael rhif cofrestru ADA y person hwnnw; a
(b)y bydd y ceisydd yn rhoi'r tystysgrifau a ddyroddwyd felly, a'r rhifau cofrestru a ddyrannwyd, ar gael i'w harchwilio gan Weinidogion Cymru os gofynnir amdanynt gan Weinidogion Cymru.
(3) Pan fo rheoliad 20(5) yn gymwys, ac nad oes awdurdod gan y ceisydd i gael y cyfryw wybodaeth neu ddogfen, datganiad ysgrifenedig gan y ceisydd y caiff y personau a grybwyllir ym mharagraffau 35 i 37 eu goruchwylio'n briodol ar bob achlysur pan fo unrhyw berson o'r fath yn dod i gysylltiad â phlentyn neu blant perthnasol.
Gwybodaeth Cychwyn
I42Atod. 2 para. 42 mewn grym ar 1.4.2011, gweler rhl. 1(1)
43. Os yw'r ceisydd yn sefydliad, copïau o'r ddau adroddiad blynyddol diwethaf yr oedd yn ofynnol eu paratoi.
Gwybodaeth Cychwyn
I43Atod. 2 para. 43 mewn grym ar 1.4.2011, gweler rhl. 1(1)
44. Pan fo'r sefydliad yn is-gwmni i gwmni daliannol, y ddau adroddiad blynyddol diwethaf (os oes rhai) ar gyfer y cwmni daliannol ac unrhyw is-gwmni arall y cwmni daliannol hwnnw.
Gwybodaeth Cychwyn
I44Atod. 2 para. 44 mewn grym ar 1.4.2011, gweler rhl. 1(1)
45. Cyfrifon blynyddol diwethaf y sefydliad, os oes rhai.
Gwybodaeth Cychwyn
I45Atod. 2 para. 45 mewn grym ar 1.4.2011, gweler rhl. 1(1)
46.—(1) Yn ddarostyngedig i is-baragraff (2), adroddiad gan ymarferydd meddygol cofrestredig ynglŷn â pha un a yw'r ceisydd, a phan fo'n briodol, yr unigolyn cyfrifol a'r person â chyfrifoldeb yn ffit ai peidio yn gorfforol ac yn feddyliol i ofalu am blant o dan wyth mlwydd oed.
(2) Os nad oes modd i berson a grybwyllir yn is-baragraff (1) gael yr adroddiad y cyfeirir ato yn yr is-baragraff hwnnw, datganiad gan y person hwnnw ynglŷn â chyflwr ei iechyd corfforol a meddyliol.
Gwybodaeth Cychwyn
I46Atod. 2 para. 46 mewn grym ar 1.4.2011, gweler rhl. 1(1)
Mae'r gofyniad ar i bersonau sy'n ymgymryd â gweithgarwch a reoleiddir mewn lleoliadau gofal plant gofrestru gydag ADA o dan y Cynllun Fetio a Gwahardd yn cael ei weithredu fesul cam, yn unol â Rheoliadau a wnaed o dan Ddeddf Diogelu Grwpiau Hyglwyf 2006 (p.47). Mewn perthynas â hyn, rhaid dehongli'r ymadrodd “pan fo'n briodol” yn unol â'r gofyniad sydd ar y person i gofrestru gydag ADA, fel a esbonnir yn y Vetting and Barring Scheme Guidance (ISBN - 978 - 1 - 84987 - 2020 7) a gyhoeddwyd gan y Swyddfa Gartref ym Mawrth 2010.
Y Diweddaraf sydd Ar Gael (diwygiedig):Y fersiwn ddiweddaraf sydd ar gael o’r ddeddfwriaeth yn cynnwys newidiadau a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol ac wedi eu gweithredu gan ein tîm golygyddol. Gellir gweld y newidiadau nad ydym wedi eu gweithredu i’r testun eto yn yr ardal ‘Newidiadau i Ddeddfwriaeth’. Dim ond yn Saesneg y mae’r fersiwn ddiwygiedig ar gael ar hyn o bryd.
Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed) - Saesneg: Mae'r wreiddiol Saesneg fersiwn y ddeddfwriaeth fel ag yr oedd pan gafodd ei deddfu neu eu gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.
Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed)-Cymraeg:Y fersiwn Gymraeg wreiddiol o’r ddeddfwriaeth fel yr oedd yn sefyll pan gafodd ei deddfu neu ei gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.
Pwynt Penodol mewn Amser: This becomes available after navigating to view revised legislation as it stood at a certain point in time via Advanced Features > Show Timeline of Changes or via a point in time advanced search. A point in time version is only available in English.
Rhychwant ddaearyddol: Indicates the geographical area that this provision applies to. For further information see ‘Frequently Asked Questions’.
Dangos Llinell Amser Newidiadau: See how this legislation has or could change over time. Turning this feature on will show extra navigation options to go to these specific points in time. Return to the latest available version by using the controls above in the What Version box.
Gallwch wneud defnydd o ddogfennau atodol hanfodol a gwybodaeth ar gyfer yr eitem ddeddfwriaeth o’r tab hwn. Yn ddibynnol ar yr eitem ddeddfwriaeth sydd i’w gweld, gallai hyn gynnwys:
This timeline shows the different points in time where a change occurred. The dates will coincide with the earliest date on which the change (e.g an insertion, a repeal or a substitution) that was applied came into force. The first date in the timeline will usually be the earliest date when the provision came into force. In some cases the first date is 01/02/1991 (or for Northern Ireland legislation 01/01/2006). This date is our basedate. No versions before this date are available. For further information see the Editorial Practice Guide and Glossary under Help.
Defnyddiwch y ddewislen hon i agor dogfennau hanfodol sy’n cyd-fynd â’r ddeddfwriaeth a gwybodaeth am yr eitem hon o ddeddfwriaeth. Gan ddibynnu ar yr eitem o ddeddfwriaeth sy’n cael ei gweld gall hyn gynnwys:
liciwch ‘Gweld Mwy’ neu ddewis ‘Rhagor o Adnoddau’ am wybodaeth ychwanegol gan gynnwys