Gwybodaeth am y ceisydd: unigolynLL+C
22.—(1) Mae'r paragraff hwn yn gymwys pan fo'r ceisydd yn unigolyn.
(2) Enw llawn y ceisydd (ac unrhyw enw arall neu enw blaenorol), ei ddyddiad geni, ei gyfeiriad a'i rif teleffon.
(3) Manylion cymwysterau proffesiynol neu dechnegol a phrofiad y ceisydd, i'r graddau y mae'r cyfryw gymwysterau a phrofiad yn berthnasol i ofalu am blant [F1o dan ddeuddeng mlwydd oed] .
(4) Manylion unrhyw fusnes a gynhelir neu a gynhaliwyd gan y ceisydd.
(5) Manylion hanes cyflogaeth y ceisydd, gan gynnwys—
(a)hanes cyflogaeth llawn, ynghyd ag esboniad ysgrifenedig boddhaol o unrhyw fylchau mewn cyflogaeth;
(b)os oedd unrhyw gyflogaeth neu swydd flaenorol yn cynnwys gweithio gyda phlant, cadarnhad, i'r graddau y bo'n rhesymol ymarferol, o'r rheswm pam y daeth y gyflogaeth neu'r swydd honno i ben;
(c)enw a chyfeiriad unrhyw gyflogwr presennol, a phan fo'n berthnasol, unrhyw gyflogwyr blaenorol;
(ch)enwau a chyfeiriadau dau ganolwr—
(i)nad ydynt yn berthnasau i'r ceisydd,
(ii)sydd ill dau yn alluog i ddarparu geirda mewn perthynas â chymhwysedd y ceisydd i ofalu am blant [F2o dan ddeuddeng mlwydd oed] ; a
(iii)un ohonynt, os yw'n bosibl, yn gyflogwr diweddaraf y ceisydd.
Diwygiadau Testunol
F1Geiriau yn Atod. 2 para. 22(3) wedi eu hamnewid (1.4.2016) gan Rheoliadau Gwarchod Plant a Gofal Dydd (Cymru) (Diwygio) 2016 (O.S. 2016/87), rhlau. 1(2), 12(a)
F2Geiriau yn Atod. 2 para. 22(5)(d)(ii) wedi eu hamnewid (1.4.2016) gan Rheoliadau Gwarchod Plant a Gofal Dydd (Cymru) (Diwygio) 2016 (O.S. 2016/87), rhlau. 1(2), 12(a)
Gwybodaeth Cychwyn
I1Atod. 2 para. 22 mewn grym ar 1.4.2011, gweler rhl. 1(1)