Golwg cyfnod mewn amser fel yr oedd ar 01/04/2011.
Ar hyn o bryd nid oes unrhyw effeithiau heb eu gweithredu yn hysbys ar gyfer y Rheoliadau Gwarchod Plant a Gofal Dydd (Cymru) 2010, ATODLEN 4.
Efallai na fydd deddfwriaeth ddiwygiedig sydd ar y safle hwn yn gwbl gyfoes. Ar hyn o bryd mae unrhyw newidiadau neu effeithiau hysbys a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol wedi'u gwneud i destun y ddeddfwriaeth yr ydych yn edrych arni gan y tîm golygyddol. Gweler 'Cwestiynau Cyffredin' am fanylion ynglŷn â'r amserlenni ar gyfer nodi a chofnodi effeithiau newydd ar y safle hwn.
Rheoliad 31
1.—(1) Yn achos gwarchod plant, newid yn y personau canlynol—LL+C
(a)unrhyw berson sy'n gofalu am blant yn y fangre berthnasol, neu
(b)unrhyw berson sy'n byw neu a gyflogir yn y fangre honno.
(2) Yr wybodaeth sydd i'w darparu yw enw llawn y person newydd ynghyd ag unrhyw enwau blaenorol neu enwau eraill, cyfeiriad ei gartref a'i ddyddiad geni.
Gwybodaeth Cychwyn
I1Atod. 4 para. 1 mewn grym ar 1.4.2011, gweler rhl. 1(1)
2.—(1) Yn achos gofal dydd, newid yn y personau canlynol—LL+C
(a)unrhyw berson â chyfrifoldeb,
(b)unrhyw un sy'n gofalu am blant yn y fangre berthnasol,
(c)unrhyw un sy'n byw neu'n gweithio yn y fangre honno (ar yr amod nad yw personau i'w trin fel pe baent yn gweithio yn y fangre at ddibenion y paragraff hwn os na wnânt ddim o'u gwaith yn y rhan o'r fangre lle y gofelir am blant, neu os nad ydynt yn gweithio yn y fangre ar yr adeg y gofelir am blant yno), ac
(ch)pan ddarperir y gofal dydd gan bwyllgor neu gorff corfforaethol neu anghorfforedig, y Cadeirydd, yr Ysgrifennydd neu'r Trysorydd (neu berson sy'n dal swydd gymaradwy yn y sefydliad).
(2) Yr wybodaeth sydd i'w darparu yw enw llawn y person newydd ynghyd ag unrhyw enwau blaenorol neu enwau eraill, cyfeiriad ei gartref a'i ddyddiad geni.
Gwybodaeth Cychwyn
I2Atod. 4 para. 2 mewn grym ar 1.4.2011, gweler rhl. 1(1)
3. Unrhyw newid—LL+C
(a)yn enw neu gyfeiriad cartref y person cofrestredig neu'r personau hynny a ddisgrifir ym mharagraff 1(1) neu baragraff 2(1)(a) i (c); neu
(b)yn enw neu gyfeiriad y swyddfa gofrestredig neu'r brif swyddfa, pan fo'r person cofrestredig yn sefydliad.
Gwybodaeth Cychwyn
I3Atod. 4 para. 3 mewn grym ar 1.4.2011, gweler rhl. 1(1)
4. Unrhyw newid yn y math o ofal a ddarperir gan y person cofrestredig.LL+C
Gwybodaeth Cychwyn
I4Atod. 4 para. 4 mewn grym ar 1.4.2011, gweler rhl. 1(1)
5. Yn achos gofal dydd, unrhyw newid yn y cyfleusterau sydd i'w defnyddio ar gyfer gofal dydd yn y fangre berthnasol, gan gynnwys newidiadau yn nifer yr ystafelloedd, eu swyddogaethau, nifer y toiledau a'r basnau ymolchi, unrhyw gyfleusterau ar wahân ar gyfer gweithwyr sy'n oedolion a mynediad i'r fangre ar gyfer ceir.LL+C
Gwybodaeth Cychwyn
I5Atod. 4 para. 5 mewn grym ar 1.4.2011, gweler rhl. 1(1)
6. Unrhyw newid yn yr oriau pan ddarperir gofal dydd neu pan warchodir plant.LL+C
Gwybodaeth Cychwyn
I6Atod. 4 para. 6 mewn grym ar 1.4.2011, gweler rhl. 1(1)
7. Unrhyw achos yn y fangre berthnasol o glefyd heintus sydd, ym marn unrhyw ymarferydd meddygol cofrestredig sy'n gweld plentyn neu berson arall yn y fangre, yn ddigon difrifol i adrodd amdano felly, neu anaf difrifol, neu salwch difrifol neu farwolaeth unrhyw blentyn neu berson arall yn y fangre.LL+C
Gwybodaeth Cychwyn
I7Atod. 4 para. 7 mewn grym ar 1.4.2011, gweler rhl. 1(1)
8. Unrhyw honiadau o niwed difrifol a wnaed i blentyn, gan unrhyw berson sy'n gofalu am blant perthnasol yn y fangre, neu gan unrhyw berson sy'n byw neu'n gweithio, neu a gyflogir, yn y fangre, neu unrhyw gamdriniaeth yr honnir iddi ddigwydd yn y fangre.LL+C
Gwybodaeth Cychwyn
I8Atod. 4 para. 8 mewn grym ar 1.4.2011, gweler rhl. 1(1)
9. Unrhyw ddigwyddiad arall a allai effeithio ar addasrwydd y person cofrestredig i ofalu am blant, neu addasrwydd unrhyw berson sy'n byw neu'n gweithio neu a gyflogir yn y fangre, i fod mewn cysylltiad rheolaidd â phlant.LL+C
Gwybodaeth Cychwyn
I9Atod. 4 para. 9 mewn grym ar 1.4.2011, gweler rhl. 1(1)
10. Unrhyw ddigwyddiad arwyddocaol arall sy'n debygol o effeithio ar les unrhyw blentyn yn y fangre.LL+C
Gwybodaeth Cychwyn
I10Atod. 4 para. 10 mewn grym ar 1.4.2011, gweler rhl. 1(1)
Y Diweddaraf sydd Ar Gael (diwygiedig):Y fersiwn ddiweddaraf sydd ar gael o’r ddeddfwriaeth yn cynnwys newidiadau a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol ac wedi eu gweithredu gan ein tîm golygyddol. Gellir gweld y newidiadau nad ydym wedi eu gweithredu i’r testun eto yn yr ardal ‘Newidiadau i Ddeddfwriaeth’. Dim ond yn Saesneg y mae’r fersiwn ddiwygiedig ar gael ar hyn o bryd.
Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed) - Saesneg: Mae'r wreiddiol Saesneg fersiwn y ddeddfwriaeth fel ag yr oedd pan gafodd ei deddfu neu eu gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.
Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed)-Cymraeg:Y fersiwn Gymraeg wreiddiol o’r ddeddfwriaeth fel yr oedd yn sefyll pan gafodd ei deddfu neu ei gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.
Pwynt Penodol mewn Amser: This becomes available after navigating to view revised legislation as it stood at a certain point in time via Advanced Features > Show Timeline of Changes or via a point in time advanced search. A point in time version is only available in English.
Rhychwant ddaearyddol: Indicates the geographical area that this provision applies to. For further information see ‘Frequently Asked Questions’.
Dangos Llinell Amser Newidiadau: See how this legislation has or could change over time. Turning this feature on will show extra navigation options to go to these specific points in time. Return to the latest available version by using the controls above in the What Version box.
Gallwch wneud defnydd o ddogfennau atodol hanfodol a gwybodaeth ar gyfer yr eitem ddeddfwriaeth o’r tab hwn. Yn ddibynnol ar yr eitem ddeddfwriaeth sydd i’w gweld, gallai hyn gynnwys:
This timeline shows the different points in time where a change occurred. The dates will coincide with the earliest date on which the change (e.g an insertion, a repeal or a substitution) that was applied came into force. The first date in the timeline will usually be the earliest date when the provision came into force. In some cases the first date is 01/02/1991 (or for Northern Ireland legislation 01/01/2006). This date is our basedate. No versions before this date are available. For further information see the Editorial Practice Guide and Glossary under Help.
Defnyddiwch y ddewislen hon i agor dogfennau hanfodol sy’n cyd-fynd â’r ddeddfwriaeth a gwybodaeth am yr eitem hon o ddeddfwriaeth. Gan ddibynnu ar yr eitem o ddeddfwriaeth sy’n cael ei gweld gall hyn gynnwys:
liciwch ‘Gweld Mwy’ neu ddewis ‘Rhagor o Adnoddau’ am wybodaeth ychwanegol gan gynnwys