xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"
Offerynnau Statudol Cymru
PLANT A PHOBL IFANC,CYMRU
GOFAL CYMDEITHASOL, CYMRU
Gwnaed
20 Hydref 2010
Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru
22 Hydref 2010
Yn dod i rym
1 Ebrill 2011
1.—(1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Gwarchod Plant a Gofal Dydd (Arolygu a Gwybodaeth ar gyfer Awdurdodau Lleol)(Cymru) 2010 a deuant i rym ar 1 Ebrill 2011.
(2) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.
(3) Yn y Rheoliadau hyn—
ystyr “awdurdod lleol perthnasol” (“relevant local authority”) yw'r awdurdod lleol ar gyfer yr ardal lle mae'r person yn gweithredu fel gwarchodwr plant (neu wedi gweithredu felly) neu'n darparu (neu wedi darparu) gofal dydd i blant, ac yn gofrestredig (neu wedi bod yn gofrestredig) mewn perthynas â hynny;
mae i “gofal dydd i blant” (“day care for children”) yr un ystyr ag a roddir iddo yn adran 19(3) o Fesur 2010;
mae i “gwarchod plant” (“child minding”) yr un ystyr ag a roddir iddo yn adran 19(2) o Fesur 2010;
ystyr “Mesur 2010” (“the 2010 Measure”) yw Mesur Plant a Theuluoedd (Cymru) 2010;
ystyr “person cofrestredig” (“registered person”) yw person sydd wedi ei gofrestru'n warchodwr plant neu'n ddarparwr gofal dydd i blant o dan Ran 2 o Fesur 2010;
mae “rhiant” (“parent”) yn cynnwys unrhyw berson sy'n gofalu am blentyn.
2.—(1) Caiff Gweinidogion Cymru a Phrif Arolygydd Ei Mawrhydi dros Addysg a Hyfforddiant yng Nghymru (“Prif Arolygydd Ei Mawrhydi”) drefnu arolygiadau o—
(a)gwarchod plant, a ddarperir gan bersonau cofrestredig; a
(b)gofal dydd i blant, a ddarperir gan bersonau cofrestredig.
(2) Pan fo Gweinidogion Cymru neu Brif Arolygydd Ei Mawrhydi yn arolygu unrhyw fangre a ddefnyddir ar gyfer gwarchod plant neu ddarparu gofal dydd i blant, rhaid iddynt—
(a)adrodd mewn ysgrifen ar y materion a arolygir;
(b)anfon copi o'r adroddiad at y person cofrestredig; ac
(c)yn achos adroddiad gan Brif Arolygydd Ei Mawrhydi, anfon copi o'r adroddiad at Weinidogion Cymru os gofynnir amdano gan Weinidogion Cymru.
(3) Rhaid i Weinidogion Cymru a Phrif Arolygydd Ei Mawrhydi gyhoeddi adroddiad ar arolygiad o fangre a ddefnyddir i ddarparu gofal dydd i blant.
(4) Caiff Gweinidogion Cymru a Phrif Arolygydd Ei Mawrhydi ddarparu copi o adroddiad, neu rannau o adroddiad, ar arolygiad o fangre a ddefnyddir i warchod plant i'r canlynol—
(a)rhiant plentyn y gofelir neu y gofalwyd amdano gan y gwarchodwr plant hwnnw;
(b)rhiant plentyn pan fo'r rhiant hwnnw'n ystyried a fydd yn trefnu i'r plentyn gael ei warchod gan y gwarchodwr plant hwnnw ai peidio; neu
(c)awdurdod lleol perthnasol.
(5) At ddibenion y gyfraith ar ddifenwi, mae unrhyw adroddiad a gyhoeddir yn freintiedig oni phrofir bod y cyhoeddi wedi ei wneud yn faleisus.
3. Pan fo Gweinidogion Cymru, mewn perthynas â pherson sy'n gwneud cais i gofrestru fel gwarchodwr plant neu ddarparwr gofal dydd i blant, yn caniatáu cais person am gofrestriad, rhaid i Weinidogion Cymru ddarparu'r wybodaeth sydd yn Atodlen 1 i'r awdurdod lleol perthnasol.
4. Rhaid i Weinidogion Cymru ddarparu'r wybodaeth sydd yn Atodlen 2 i'r awdurdod lleol perthnasol—
(a)wrth roi hysbysiad o'u bwriad i ddiddymu cofrestriad person;
(b)wrth ddiddymu cofrestriad person;
(c)wrth atal cofrestriad person dros dro (gan gynnwys achosion pan wnânt hynny ar gais y person cofrestredig);
(ch)wrth dynnu enw person allan o'r gofrestr ar gais person hwnnw; neu
(d)pan fo ynad heddwch, o ganlyniad i gais gan Weinidogion Cymru, yn gwneud gorchymyn o dan adran 34(2) o Fesur Plant a Theuluoedd (Cymru) 2010 (Amddiffyn plant mewn argyfwng: diddymu cofrestriad).
Huw Lewis
Y Dirprwy Weinidog dros Blant o dan awdurdod y Gweinidog dros Blant, Addysg a Dysgu Gydol Oes, ar ran Gweinidogion Cymru
20 Hydref 2010
Rheoliad 3
1. Enw'r person.
2. Yn achos person sy'n darparu neu'n bwriadu darparu gofal dydd i blant, yr enw busnes, os oes un, y darperir y gofal dydd (neu y bwriedir ei ddarparu) odano gan y person hwnnw, neu'r enw yr adwaenir y lleoliad odano yn gyffredinol.
3. Cyfeiriad y person a chyfeiriad y fangre os yw hwnnw'n wahanol.
4. Pa un ai ar gyfer gwarchod plant ynteu gofal dydd y mae, neu yr oedd, y cofrestriad dan sylw.
5. Unrhyw rif cyfeirnod unigryw a ddefnyddir gan Weinidogion Cymru.
6. Gwybodaeth ynghylch amseriad a pharhad y ddarpariaeth dan sylw.
7. Nifer ac oedrannau'r plant y gwneir, neu y bwriedir gwneud, y ddarpariaeth ar eu cyfer.
8. Unrhyw amodau a osodwyd ar y cofrestriad.
9. Unrhyw wybodaeth arall am y gwarchodwr plant neu'r darparwr gofal dydd i blant a'r fangre dan sylw, a allai fod o gymorth i awdurdod lleol gyflawni ei ddyletswydd o dan adran 27 o Ddeddf Gofal Plant 2006(3), i ddarparu gwybodaeth, cyngor neu gymorth i bersonau sy'n gofalu am blant ac yn bwriadu defnyddio'r ddarpariaeth gwarchod plant neu ofal dydd i blant yn ardal yr awdurdod lleol perthnasol.
10. Yn achos person sy'n gweithredu, neu'n bwriadu gweithredu, fel gwarchodwr plant, gwybodaeth pa un a yw'r person hwnnw'n dymuno ai peidio i'w fanylion gael eu cynnwys mewn gwybodaeth a roddir ar gael i bersonau sy'n chwilio am ddarpariaeth gofal plant yn ardal yr awdurdod lleol perthnasol.
Rheoliad 4
1. Enw'r person.
2. Yn achos person sy'n darparu neu'n bwriadu darparu gofal dydd i blant, yr enw busnes, os oes un, y darperir (neu, yn ôl fel y digwydd, y darperid) y gofal dydd odano gan y person hwnnw, neu'r enw yr adwaenir y lleoliad odano yn gyffredinol.
3. Cyfeiriad y person.
4. Pa un ai ar gyfer gwarchod plant ynteu gofal dydd y mae, neu yr oedd, y cofrestriad dan sylw.
5. Unrhyw rif cyfeirnod unigryw a ddefnyddir gan Weinidogion Cymru.
6. Pa un o'r camau ym mharagraffau (a) i (d) o reoliad 4 a gymerwyd.
7. Gwybodaeth am unrhyw gam gorfodi, neu gam gorfodi arall, a gymerwyd, neu y gellir ei gymryd yn erbyn y person hwnnw a'r rhesymau am unrhyw weithredu o'r fath.
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)
Mae'r Rheoliadau hyn yn pennu'r trefniadau ar gyfer arolygiadau o rai sy'n darparu gwarchod plant a gofal dydd i blant, a hefyd yr wybodaeth y mae'n rhaid i Weinidogion Cymru ei darparu i awdurdod lleol pan gymerir camau penodol.
Mae rheoliad 2 yn dyrannu'r swyddogaeth o drefnu arolygiadau o leoliadau gwarchod plant a gofal dydd i Weinidogion Cymru a Phrif Arolygydd Ei Mawrhydi dros Addysg a Hyfforddiant yng Nghymru (“Prif Arolygydd Ei Mawrhydi”). Rhaid paratoi adroddiad ar ôl pob arolygiad. Rhaid anfon yr adroddiad at y person cofrestredig. Yn achos arolygiad gan Brif Arolygydd Ei Mawrhydi, raid anfon yr adroddiad at Weinidogion Cymru os gofynnant amdano.
Rhaid cyhoeddi'r adroddiadau arolygu ar ddarpariaeth gofal dydd. Ceir darparu adroddiadau ar warchod plant naill ai i rieni plant a warchodir, i rieni sy'n ddarpar gleientiaid neu i'r awdurdod lleol ar gyfer yr ardal dan sylw.
Mae rheoliad 3 yn gwneud yn ofynnol bod Gweinidogion Cymru, pan fônt yn bwriadu caniatáu cais am gofrestriad, yn darparu gwybodaeth benodol i awdurdod lleol am warchodwr plant neu ddarparwr gofal dydd i blant. Pennir yr wybodaeth honno yn Atodlen 1.
Mae rheoliad 4 ac Atodlen 2 yn pennu'r wybodaeth y mae'n rhaid ei darparu i awdurdod lleol pan fo Gweinidogion Cymru naill ai'n dyroddi hysbysiad o fwriad i ddiddymu cofrestriad, yn diddymu cofrestriad, yn atal cofrestriad dros dro neu'n tynnu enw person o'r gofrestr ar gais y person hwnnw. Rhaid darparu'r wybodaeth yn Atodlen 2 hefyd pan fo llys, ar gais Gweinidogion Cymru yn gwneud gorchymyn sy'n diddymu cofrestriad, o dan adran 34(2) o Fesur Plant a Theuluoedd (Cymru) 2010.
Mae adran 45(1) a (2) yn cyfeirio at wybodaeth a ragnodir. Mae adran 71 o Fesur Plant a Theuluoedd (Cymru) 2010 yn diffinio “rhagnodi” i olygu rhagnodi mewn rheoliadau, a “rheoliadau” i olygu rheoliadau a wnaed gan Weinidogion Cymru.