xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

Offerynnau Statudol Cymru

2010 Rhif 2623 (Cy.218)

TRAFFIG FFYRDD, CYMRU

Rheoliadau Traffordd yr M4 (Cyffordd 41, Slipffordd Ymadael tua'r Gorllewin, Cylchfan Sunnycroft, Baglan, Castell-nedd Port Talbot) (Terfyn Cyflymder 50 MYA) 2010

Gwnaed

25 Hydref 2010

Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru

28 Hydref 2010

Yn dod i rym

18 Tachwedd 2010

Mae Gweinidogion Cymru, wrth arfer y pwerau a roddwyd iddynt gan adran 17(2) a (3) o Ddeddf Rheoleiddio Traffig Ffyrdd 1984(1) ac ar ôl ymgynghori â'r fath gyrff cynrychioliadol ag y tybiwyd oedd yn briodol yn unol ag adran 134(2) o'r Ddeddf honno(2), yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn.

Enwi, cychwyn a dehongli

1.  Daw'r Rheoliadau hyn i rym ar 18 Tachwedd 2010 a'u henw yw Rheoliadau Traffordd yr M4 (Cyffordd 41, Slipffordd Ymadael tua'r Gorllewin, Cylchfan Sunnycroft, Baglan, Castell-nedd Port Talbot) (Terfyn Cyflymder 50 MYA) 2010.

2.  Yn y Rheoliadau hyn—

Gosod terfyn cyflymder

3.  Ni chaiff neb yrru unrhyw gerbyd yn gyflymach na 50 milltir yr awr ar y darn hwnnw o'r slipffordd ymadael tua'r gorllewin oddi ar Gyffordd 41 traffordd yr M4 sy'n ymestyn o bwynt 330 o fetrau i'r de-ddwyrain o'i chyffordd â'r gerbytffordd gylchynnol ar Gylchfan Sunnycroft, Baglan, ym Mwrdeistref Sirol Castell-nedd Port Talbot hyd at bwynt lle mae'n ymuno â'r gerbytffordd gylchynnol honno.

Ieuan Wyn Jones

Y Gweinidog dros yr Economi a Thrafnidiaeth, un o Weinidogion Cymru

25 Hydref 2010

Nodyn Esboniadol

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)

Mae'r pŵer i wneud rheoliadau ynghylch defnyddio ffyrdd arbennig o dan adran 17(2) a (3) o Ddeddf Rheoleiddio Traffig Ffyrdd 1984 (ac eithro ynghylch ffyrdd arbennig yn gyffredinol) yn gorwedd gyda Gweinidogion Cymru i'r graddau y maent yn arferadwy o ran Cymru.

Mae Gweinidogion Cymru, wrth arfer y pŵer uchod, yn gwneud y Rheoliadau hyn sy'n gosod terfyn cyflymder eithaf o 50 milltir yr awr (yn lle'r terfyn cyflymder cyffredinol o 70 milltir yr awr a osodir ar draffyrdd gan Reoliadau Traffig Traffyrdd (Terfyn Cyflymder) 1974 (O.S.1974/502)) ar y darn o draffordd yr M4 a bennir yn y Rheoliadau.

Ni luniwyd asesiad effaith rheoleiddiol llawn ar gyfer yr offeryn hwn gan mai am resymau diogelwch ar y briffordd y'i gwnaed ac ni fydd yn cael unrhyw effaith ar gostau busnes.

(1)

1984 p.27. Yn rhinwedd O.S. 1999/672, erthygl 2 ac Atodlen 1, ac adran 162 a pharagraff 30 o Atodlen 11 i Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (p.32), mae'r pwerau hyn yn arferadwy bellach gan Weinidogion Cymru o ran Cymru.

(2)

Diwygiwyd adran 134(2) gan Dddeddf Ffyrdd Newydd a Gwaith Stryd 1991 (p.22), Atodlen 8, paragraff 77.