- Y Diweddaraf sydd Ar Gael (Diwygiedig) - Saesneg
- Y Diweddaraf sydd Ar Gael (Diwygiedig) - Cymraeg
- Gwreiddiol (Fel y'i Gwnaed) - Saesneg
- Gwreiddiol (Fel y'i Gwnaed) - Cymraeg
Dyma’r fersiwn wreiddiol (fel y’i gwnaed yn wreiddiol).
1. Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Bwyd Anifeiliaid (Cymru) 2010, maent yn gymwys i Gymru ac yn dod i rym ar 23 Tachwedd 2010.
2.—(1) Yn y Rheoliadau hyn—
ystyr “awdurdod bwyd anifeiliaid” (“feed authority”) yw awdurdod a ddynodir yn adran 67(1A) o'r Ddeddf yn awdurdod a chanddo'r ddyletswydd i orfodi Rhan IV o'r Ddeddf o fewn ei ardal;
ystyr “Cyfarwyddeb 82/475” (“Directive 82/475”) yw Cyfarwyddeb y Comisiwn 82/475/EEC sy'n gosod categorïau'r deunyddiau bwyd anifeiliaid y caniateir eu defnyddio at ddibenion labelu bwydydd anifeiliaid cyfansawdd ar gyfer anifeiliaid anwes(1);
ystyr “Cyfarwyddeb 2002/32” (“Directive 2002/32”) yw Cyfarwyddeb 2002/32/EC Senedd Ewrop a'r Cyngor ar sylweddau annymunol mewn bwyd anifeiliaid(2);
ystyr “Cyfarwyddeb 2008/38” (“Directive 2008/38”) yw Cyfarwyddeb y Comisiwn 2008/38/EC sy'n sefydlu rhestr o'r defnydd y bwriedir ei wneud o fwydydd anifeiliaid at ddibenion maethiadol penodol(3);
ystyr “y Ddeddf” (“the Act”) yw Deddf Amaethyddiaeth 1970;
ystyr “Rheoliad 1831/2003” (“Regulation 1831/2003”) yw Rheoliad (EC) Rhif 1831/2003 Senedd Ewrop a'r Cyngor ar ychwanegion i'w defnyddio i roi maeth i anifeiliaid(4);
ystyr “Rheoliad 767/2009” (“Regulation 767/2009”) yw Rheoliad (EC) Rhif 767/2009 Senedd Ewrop a'r Cyngor ar osod ar y farchnad a defnyddio bwyd anifeiliaid, sy'n diwygio Rheoliad Senedd Ewrop a'r Cyngor (EC) Rhif 1831/2003 ac sy'n diddymu Cyfarwyddeb y Cyngor 79/373/EEC, Cyfarwyddeb y Comisiwn 80/511/EEC, Cyfarwyddebau'r Cyngor 82/471/EEC, 83/228/EEC, 93/74/EEC, 93/113/EC a 96/25/EC a Phenderfyniad y Comisiwn 2004/217/EC(5); ac
ystyr “Rheoliad 242/2010” (“Regulation 242/2010”) yw Rheoliad y Comisiwn (EU) Rhif 242/2010 sy'n creu'r Catalog o ddeunyddiau bwyd anifeiliaid(6).
(2) Mae i unrhyw ymadrodd a ddefnyddir yn y Rheoliadau hyn ac yn Rheoliad 1831/2003 neu Reoliad 767/2009 yr un ystyr yn y Rheoliadau hyn ag sydd i'r ymadrodd Saesneg cyfatebol yn y Rheoliad dan sylw.
(3) Mae unrhyw gyfeiriad at Atodiad i Gyfarwyddeb 82/475, Cyfarwyddeb 2002/32, Cyfarwyddeb 2008/38, Rheoliad 767/2009 neu Reoliad 242/2010 yn gyfeiriad at yr Atodiad hwnnw fel y'i diwygir o bryd i'w gilydd.
(4) Nid yw'r Rheoliadau hyn yn gymwys i unrhyw ychwanegyn bwyd anifeiliaid yng nghategori (d) neu (e) o Erthygl 6(1) o Reoliad 1831/2003, ac eithrio'r rheini yn y grwpiau swyddogaethol a restrir ym mharagraff 4(a), (b) ac (c) o Atodiad I i'r Rheoliad hwnnw(7).
3. Yn y Rhan hon ac yn Atodlen 1 mae unrhyw gyfeiriad at Erthygl neu Atodlen â rhif yn gyfeiriad at yr Erthygl neu'r Atodiad sy'n dwyn y rhif hwnnw yn Rheoliad 767/2009.
4.—(1) Yn ddarostyngedig i'r darpariaethau trosiannol a geir yn Erthygl 32, mae unrhyw berson sy'n mynd yn groes i unrhyw ddarpariaeth yn Rheoliad 767/2009 a bennir yn Atodlen 1 neu'n methu â chydymffurfio â hi yn euog o dramgwydd.
(2) Os caniateir, yn unol ag Erthygl 17(2)(c), i enw deunydd bwyd anifeiliaid penodol gael ei ddisodli gan enw'r categori y mae'r deunydd bwyd anifeiliaid yn perthyn iddo, dim ond y categorïau a restrir yn yr Atodiad i Gyfarwyddeb 82/475 y caniateir eu dynodi.
5.—(1) Yr awdurdod cymwys at ddibenion y canlynol yw pob awdurdod bwyd anifeiliaid yn ei ardal—
(a)Erthygl 5(3), 13(1)(a) a 17(3) ac Atodiad VII, Pennod 1, paragraff 8; a
(b)Erthygl 13(1)(b) fel yr awdurdod cymwys a gaiff ofyn am brawf gwyddonol o honiad ac y mae gan bwrcaswyr yr hawl i ddwyn amheuon ynghylch geirwirdeb honiad i'w sylw.
(2) Yr awdurdod cymwys at ddibenion y canlynol yw'r Asiantaeth Safonau Bwyd—
(a)Erthygl 26(1)(b); a
(b)Erthygl 13(1)(b) fel yr awdurdod cymwys a gaiff gyflwyno i'r Comisiwn amheuon ynghylch prawf gwyddonol o honiad.
(3) Yr awdurdod cymwys at ddibenion Erthygl 5(2) yw'r Asiantaeth Safonau Bwyd a phob awdurdod bwyd anifeiliaid yn ei ardal.
6. Yn y Rhan hon mae unrhyw gyfeiriad at Erthygl â rhif yn gyfeiriad at yr Erthygl sy'n dwyn y rhif hwnnw yn Rheoliad 1831/2003.
7.—(1) Mae unrhyw berson sy'n mynd yn groes i unrhyw ddarpariaeth a bennir ym mharagraff (2) neu'n methu â chydymffurfio â hi yn euog o dramgwydd.
(2) Dyma'r darpariaethau—
(a)Erthygl 3, paragraffau (1) i (4), (gosod ar y farchnad, prosesu a defnyddio ychwanegion bwyd anifeiliaid), fel y'u darllenir gydag Erthygl 10 (statws cynhyrchion sydd eisoes yn bod);
(b)Erthygl 12 (monitro ar ôl awdurdodi); ac
(c)Erthygl 16, paragraffau (1) i (5), (labelu a phecynnu ychwanegion a rhag-gymysgeddau).
8. Yn y Rhan hon—
(a)mae unrhyw gyfeiriad at Erthygl neu Atodlen â rhif yn gyfeiriad at yr Erthygl neu'r Atodiad sy'n dwyn y rhif hwnnw yng Nghyfarwyddeb 2002/32; a
(b)ystyr “sylwedd annymunol” (“undesireable substance”) yw unrhyw sylwedd neu gynnyrch, nad yw'n asiant pathogenig sy'n bresennol mewn bwyd anifeiliaid neu arno ac—
(i)sy'n ffurfio perygl posibl i iechyd dyn neu anifail neu i'r amgylchedd, neu
(ii)a allai gael effaith andwyol ar gynhyrchu da byw.
9.—(1) Mae unrhyw berson—
(a)sy'n gosod ar y farchnad unrhyw fwyd anifeiliaid a bennir yng ngholofn 2 o Atodiad I; neu
(b)sy'n defnyddio unrhyw fwyd anifeiliaid o'r fath,
yn euog o dramgwydd os yw'n cynnwys unrhyw sylwedd annymunol a restrir yng ngholofn 1 o'r Atodiad hwnnw sy'n fwy nag uchafswm y cynhwysiad perthnasol a bennir yng ngholofn 3.
(2) Mae unrhyw berson sy'n gosod ar y farchnad neu'n defnyddio unrhyw fwyd anifeiliaid cydategol yn euog o dramgwydd—
(a)os, o ystyried pa faint ohono yr argymhellir ei ddefnyddio mewn dogn ddyddiol, yw'n cynnwys unrhyw sylwedd annymunol a restrir yng ngholofn 1 o Atodiad I sy'n fwy nag uchafswm y cynhwysiad a bennir ar ei gyfer yng ngholofn 3 mewn perthynas â bwydydd anifeiliaid cyflawn; a
(b)nad oes darpariaeth yn ymwneud ag unrhyw fwyd anifeiliaid cydategol yn y cofnod cyfatebol yng ngholofn 2 o'r Atodiad hwnnw.
(3) Mae unrhyw berson sydd at y diben o wanedu yn cymysgu unrhyw fwyd anifeiliaid â bwyd anifeiliaid a bennir yng ngholofn 2 o Atodiad I ac sy'n cynnwys unrhyw sylwedd annymunol a restrir yng ngholofn 1 o'r Atodiad hwnnw sy'n fwy nag uchafswm y cynhwysiad a bennir ar ei gyfer yng ngholofn 3 yn euog o dramgwydd.
(4) Mae unrhyw berson sy'n gosod ar y farchnad neu'n defnyddio unrhyw fwyd anifeiliaid nad yw mewn cyflwr da ac yn ddilys ac o ansawdd marchnadwy yn euog o dramgwydd.
(5) At ddibenion paragraff (4) nid yw bwyd anifeiliaid a restrir yng ngholofn 2 o Atodiad I mewn cyflwr da ac yn ddilys ac o ansawdd marchnadwy os yw'n cynnwys unrhyw sylwedd annymunol a bennir yng ngholofn 1 o'r Atodiad hwnnw sy'n fwy nag uchafswm y cynhwysiad a bennir ar ei gyfer yng ngholofn 3.
(6) Rhaid i unrhyw berson sydd ag unrhyw o'r bwydydd anifeiliaid a bennir ym mharagraff (7) yn ei feddiant neu dan ei reolaeth, at ddibenion masnach neu fusnes, os gofyn arolygydd iddo wneud hynny, sicrhau dadansoddiad a'i roi gerbron yr arolygydd er mwyn dangos bod yr arsenig anorganaidd yn y bwyd anifeiliaid a bennir yn y paragraff hwnnw yn llai na 2 ran i'r filiwn.
(7) Dyma'r bwydydd anifeiliaid—
(a)soeg cnewyll palmwydd;
(b)bwydydd anifeiliaid a gafwyd drwy brosesu pysgod ac anifeiliaid morol eraill;
(c) blawd gwymon a deunyddiau bwyd anifeiliaid sy'n deillio o wymon; ac
(ch)bwydydd anifeiliaid cyflawn ar gyfer pysgod neu anifeiliaid sy'n cynhyrchu ffwr.
(8) Mae unrhyw berson sydd, heb esgus rhesymol, yn methu â chydymffurfio â gofyniad a wneir o dan baragraff (6) yn euog o dramgwydd.
10. Yn y Rhan hon ystyr “yr Atodiad” (“the Annex”) yw Rhan B o Atodiad I i Gyfarwyddeb 2008/38, fel y'i darllenir gyda pharagraffau 1 a 7 o Ran A o'r Atodiad hwnnw.
11.—(1) Mae unrhyw berson sy'n gosod bwyd anifeiliaid a fwriedir at ddiben maethiadol penodol ar y farchnad yn euog o dramgwydd os nad yw gofynion perthnasol paragraffau (2) i (9) wedi'u bodloni.
(2) O ran unrhyw ddiben maethiadol penodol a bennir yng ngholofn 1 o'r Atodiad—
(a)rhaid i'r bwyd anifeiliaid fod wedi ei fwriadu ar gyfer yr anifeiliaid a bennir gyferbyn â'r diben maethiadol penodol hwnnw yng ngholofn 3 o'r Atodiad; a
(b)rhaid argymell fod y bwyd anifeiliaid yn cael ei ddefnyddio am gyfnod o amser sy'n dod o fewn yr amrediad a bennir gyferbyn â'r diben maethiadol penodol hwnnw yng ngholofn 5 o'r Atodiad.
(3) Pan fo grŵp o ychwanegion wedi'u pennu yng ngholofn 2 neu 4 o'r Atodiad, rhaid i'r ychwanegyn/ion fod wedi cael ei awdurdodi neu eu hawdurdodi fel un neu rai sy'n cyfateb i'r nodwedd hanfodol a bennir.
(4) Pan fo'n ofynnol rhoi ffynhonnell cynhwysion neu gyfansoddion dadansoddol yng ngholofn 4 o'r Atodiad, rhaid i'r gweithgynhyrchwr wneud datganiad manwl-gywir (er enghraifft enw penodol y cynhwysyn, rhywogaeth yr anifail neu'r rhan o'r anifail) sy'n caniatáu gwerthuso cydymffurfiad y bwyd anifeiliaid â'r nodweddion maethiadol hanfodol cyfatebol.
(5) Pan fo'n ofynnol rhoi'r datganiad am sylwedd ei fod hefyd wedi'i awdurdodi fel ychwanegyn yng ngholofn 4 o'r Atodiad a'i fod yn dod gyda'r ymadrodd “total”, rhaid i'r cynnwys a ddatgenir gyfeirio at ba faint sy'n bresennol yn naturiol pan na chaiff unrhyw faint ei ychwanegu, neu, yn ôl y priodoldeb, at gyfanswm y sylwedd sy'n bresennol yn naturiol a pha faint a ychwanegir fel ychwanegyn.
(6) Rhaid rhoi'r datganiadau a bennir yng ngholofn 4 o'r Atodiad gyda'r cyfeiriad “if added” pan fo'r cynhwysyn neu'r ychwanegyn wedi cael ei ymgorffori neu ei gynyddu'n benodol er mwyn galluogi cyflawni'r diben maethiadol penodol.
(7) Rhaid i'r datganiadau sydd i'w rhoi yn unol â cholofn 4 o'r Atodiad ynghylch cynwysyddion dadansoddol ac ychwanegion fod yn rhai yn ôl pa faint.
(8) Pan fo bwyd anifeiliaid wedi'i fwriadu i fodloni mwy nag un diben maethiadol penodol, rhaid iddo gydymffurfio â'r cofnodion cyfatebol yn yr Atodiad.
(9) Yn achos bwyd anifeiliaid cydategol a fwriedir at ddiben maethiadol penodol, rhaid rhoi canllawiau ar gydbwysedd y ddogn ddyddiol yn y cyfarwyddiadau defnyddio a geir ar y label.
12.—(1) Mae unrhyw berson a ganfyddir yn euog o dramgwydd o dan reoliad 4(1), 7(1) neu 9(1), (2), (3) neu (4) neu 11(1) yn agored—
(a)o'i gollfarnu'n ddiannod, i gyfnod yn y carchar nad yw'n hwy na thri mis, neu i ddirwy nad yw'n fwy na'r uchafswm statudol, neu i'r ddau; neu
(b)o'i gollfarnu ar dditiad, i gyfnod yn y carchar nad yw'n hwy na thri mis, neu i ddirwy, neu i'r ddau.
(2) Mae unrhyw berson a geir yn euog o dramgwydd o dan reoliad 9(8) yn agored o'i gollfarnu'n ddiannod i ddirwy nad yw'n fwy na lefel 3 ar y raddfa safonol.
13. Mae'n ddyletswydd ar bob awdurdod bwyd anifeiliaid yn ei ardal i weithredu a gorfodi darpariaethau'r Rheoliadau hyn.
14.—(1) Diwygir neu addesir y Ddeddf, yn ôl y digwydd, yn unol â pharagraffau (2) i (9).
(2) Yn adran 66 (dehongli Rhan IV)—
(a)yn is-adran (1), ar ôl y diffiniad o Reoliad (EC) Rhif 178/2002 mewnosoder y diffiniadau a ganlyn—
““Regulation (EC) No 1831/2003” means Regulation (EC) No 1831/2003 of the European Parliament and of the Council on additives for use in animal nutrition;
“Regulation (EC) No 767/2009” means Regulation (EC) No 767/2009 of the European Parliament and of the Council on the placing on the market and use of feed, amending European Parliament and Council Regulation (EC) No 1831/2003 and repealing Council Directive 79/373/EEC, Commission Directive 80/511/EEC, Council Directives 82/471/EEC, 83/228/EEC, 93/74/EEC, 93/113/EC and 96/25/EC and Commission Decision 2004/217/EC;”; a
(b)yn lle is-adran (2) rhodder y canlynol—
“(2) For the purposes of this Part of this Act material shall be treated as sold for use as a fertiliser or feeding stuff whether it is sold to be so used by itself or as an ingredient in something which is to be so used.”.
(3) Yn adran 68 (dyletswydd gwerthwr i roi datganiad statudol)—
(a)ar ôl is-adran (5), rhodder yr is-adran ganlynol—
“(5A) Nothing in subsections (1) to (5) applies to anyone to whom the requirements of Article 16 of Regulation (EC) No 1831/2003 (labelling and packaging of feed additives and premixtures) or of Chapter 4 of Regulation (EC) No 767/2009 (labelling, presentation and packaging) apply.”; a
(b)ar ôl is-adran (6) ychwaneger yr is-adran a ganlyn—
“(7) Failure to comply with the labelling requirements of Article 16 of Regulation (EC) No 1831/2003 or of Chapter 4 of Regulation (EC) No 767/2009 shall not invalidate a contract of sale, but such labelling shall, regardless of any contract or notice to the contrary, have effect as a warranty by the person who gives it that the particulars contained in it are correct.”.
(4) Yn adran 69 (marcio deunydd sydd wedi'i baratoi at ei werthu), yn is-adran (1) hepgorer y geiriau “or feeding stuff”.
(5) Yn adran 70 (defnyddio enwau neu ymadroddion ag iddynt ystyron rhagnodedig)—
(a)mae is-adran (1)(a) i'r graddau y mae'n gymwys i fwydydd anifeiliaid yn gymwys megis petai'r ymadrodd “under Regulation (EC) No. 767/2009” wedi'i roi yn lle'r ymadrodd “by regulations made for the purposes of this section”; a
(b)ar ôl is-adran (5) ychwaneger yr is-adran a ganlyn—
“(6) Nothing in subsections (2) to (4) of this section shall apply to anyone to whom the labelling requirements of Regulation (EC) No. 767/2009 apply.”.
(6) Yn adran 71 (rheidrwydd i roi manylion am nodweddion penodol os honnir eu bod yn bresennol)—
(a)mae is-adran (4) i'r graddau y mae'n gymwys i fwydydd anifeiliaid yn gymwys megis petai—
(i)yr ymadrodd “the requirements of Article 13 of Regulation (EC) No 767/2009” wedi'i roi yn lle'r ymadrodd “subsection (1) of this section”; a
(ii)“that Article” wedi'u rhoi yn lle “that subsection”;
(b)ar ôl is-adran (5) ychwaneger yr is-adran a ganlyn—
“(6) Nothing in subsections (1) to (3) of this section shall apply to anyone to whom Article 13 (claims) of Regulation (EC) No 767/2009 applies.”.
(7) Mae adrannau 73 a 73A yn peidio â chael effaith.
(8) Yn adran 74 (terfynau amrywio) ar ôl is-adran (2) ychwaneger yr is-adran a ganlyn—
“(3) Nothing in subsection (2) shall apply to anyone to whom Article 11(5) and Annex IV (permitted tolerances) of Regulation (EC) No 767/2009 applies.”.
(9) Yn adran 74A, nid yw is-adran (3) yn gymwys i reoliadau sy'n ymwneud â bwyd anifeiliaid.
15.—(1) Diwygir Rheoliadau Bwyd Anifeiliaid (Hylendid a Gorfodi) (Cymru) 2005(8) yn unol â pharagraffau (2) i (6).
(2) Ym mharagraff (1) o reoliad 2 (dehongli)—
(a)yn y lle priodol yn nhrefn yr wyddor mewnosoder y diffiniad a ganlyn—
“ystyr “y Rheoliadau Bwyd Anifeiliaid” (“the Animal Feed Regulations”) yw Rheoliadau Bwyd Anifeiliaid (Cymru) 2010;”; a
(b)ar ôl y diffiniad o “Rheoliad 183/2005” mewnosoder y diffiniad a ganlyn—
“ystyr “Rheoliad 767/2009” (“Regulation 767/2009”) yw Rheoliad (EC) Rhif 767/2009 Senedd Ewrop a'r Cyngor ar osod ar y farchnad a defnyddio bwyd anifeiliaid, sy'n diwygio Rheoliad Senedd Ewrop a'r Cyngor (EC) Rhif 1831/2003 ac sy'n diddymu Cyfarwyddeb y Cyngor 79/373/EEC, Cyfarwyddeb y Comisiwn 80/511/EEC, Cyfarwyddebau'r Cyngor 82/471/EEC, 83/228/EEC, 93/74/EEC, 93/113/EC a 96/25/EC a Phenderfyniad y Comisiwn 2004/217/EC;”.
(3) Ym mharagraff (2)(b) o reoliad 15 (tramgwyddau, cosbau a gorfodi) hepgorer y geiriau “sy'n cynhyrchu bwyd”.
(4) Yn lle paragraff (13) o reoliad 24 (pwerau mynediad i swyddogion awdurdodedig) rhodder y paragraff a ganlyn—
“(13) Yn y rheoliad hwn—
(a)mae i “bwyd anifeiliaid cyfansawdd” (“compound feeding stuff”) yr un ystyr ag sydd i “compound feed” fel y'i diffinnir yn Erthygl 3(1)(h) o Reoliad 767/2009; a
(b)mae i “bwyd anifeiliaid a fwriedir at ddiben maethiadol penodol” (“feeding stuff which is intended for a particular nutritional purpose”) yr un ystyr ag sydd i “feed intended for particular nutritional purposes” fel y'i diffinnir yn Erthygl 3(1)(o) o Reoliad 767/2009.”.
(5) Yn y testun Saesneg, ym mharagraff (1)(b) o reoliad 30 (y weithdrefn yn ymwneud â samplau i'w dadansoddi), ar ôl y gair “his” mewnosoder y geiriau “or her”.
(6) Ym mhob un o'r rheoliadau 35(1) a (2), 36(1) a (3) a 37(1) a (2) ar ôl y geiriau “Rheoliadau hyn” mewnosoder “neu'r Rheoliadau Bwyd Anifeiliaid”.
(7) Yn Atodlen 1 (cyfraith bwyd anifeiliaid benodedig)—
(a)yn lle'r ymadrodd “Rheoliadau Bwydydd Anifeiliaid (Cymru) 2006” rhodder “Rheoliadau Bwyd Anifeiliaid (Cymru) 2010”; a
(b)ychwaneger ar y diwedd “Rheoliad (EC) Rhif 767/2009 Senedd Ewrop a'r Cyngor ar osod ar y farchnad a defnyddio bwyd anifeiliaid.”.
16.—(1) Diwygir Rheoliadau Rheolaethau Swyddogol ar Fwyd Anifeiliaid a Bwyd (Cymru) 2009(9) yn unol â pharagraffau (2) i (5).
(2) Ym mharagraff (4)(a) o reoliad 2 (dehongli) hepgorer y geiriau “neu 7”.
(3) Yn nhestun Cymraeg paragraff (2) o reoliad 32 (hysbysiadau yn unol ag Erthyglau 18 ac 19 o Reoliad 882/2004) yn lle'r geiriau “Erthygl 19(1)(a) a (b)” rhodder y geiriau “Erthygl 19(1)(a) neu (b)”.
(4) Ym mharagraff 1(a) o reoliad 41 (tramgwyddau a chosbau) mewnosoder y gair “mewnforio” rhwng y geiriau “darpariaethau” a “penodedig”.
(5) Ym mharagraff (dd) o Atodlen 2 (diffiniad o gyfraith bwyd anifeiliaid berthnasol), yn lle'r ymadrodd “Rheoliadau Bwydydd Anifeiliaid (Cymru) 2006” rhodder “Rheoliadau Bwyd Anifeiliaid (Cymru) 2010”.
17. Dirymir y Rheoliadau neu'r rhannau ohonynt a restrir yn Atodlen 2.
Gwenda Thomas
Y Dirprwy Weinidog dros Wasanaethau Cymdeithasol o dan awdurdod y Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, un o Weinidogion Cymru
25 Hydref 2010
Y Diweddaraf sydd Ar Gael (diwygiedig):Y fersiwn ddiweddaraf sydd ar gael o’r ddeddfwriaeth yn cynnwys newidiadau a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol ac wedi eu gweithredu gan ein tîm golygyddol. Gellir gweld y newidiadau nad ydym wedi eu gweithredu i’r testun eto yn yr ardal ‘Newidiadau i Ddeddfwriaeth’. Dim ond yn Saesneg y mae’r fersiwn ddiwygiedig ar gael ar hyn o bryd.
Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed) - Saesneg: Mae'r wreiddiol Saesneg fersiwn y ddeddfwriaeth fel ag yr oedd pan gafodd ei deddfu neu eu gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.
Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed)-Cymraeg:Y fersiwn Gymraeg wreiddiol o’r ddeddfwriaeth fel yr oedd yn sefyll pan gafodd ei deddfu neu ei gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.
Gallwch wneud defnydd o ddogfennau atodol hanfodol a gwybodaeth ar gyfer yr eitem ddeddfwriaeth o’r tab hwn. Yn ddibynnol ar yr eitem ddeddfwriaeth sydd i’w gweld, gallai hyn gynnwys:
Defnyddiwch y ddewislen hon i agor dogfennau hanfodol sy’n cyd-fynd â’r ddeddfwriaeth a gwybodaeth am yr eitem hon o ddeddfwriaeth. Gan ddibynnu ar yr eitem o ddeddfwriaeth sy’n cael ei gweld gall hyn gynnwys:
liciwch ‘Gweld Mwy’ neu ddewis ‘Rhagor o Adnoddau’ am wybodaeth ychwanegol gan gynnwys