
Print Options
PrintThe Whole
Instrument
PrintThis
Schedule
only
Statws
Dyma’r fersiwn wreiddiol (fel y’i gwnaed yn wreiddiol).
Rheoliad 4
ATODLEN 1Darpariaethau Penodedig Rheoliad 767/2009
Y Ddarpariaeth benodedig | Y pwnc |
---|
Erthygl 4, fel y'i darllenir gydag Atodiad I a chyda'r Atodiad i Reoliad 242/2010 | Gofynion diogelwch cyffredinol a gofynion eraill sydd i'w bodloni pan osodir bwyd anifeiliaid ar y farchnad neu pan ddefnyddir ef |
Erthygl 5(1) | Ymestyn y gofynion mewn perthynas â bwyd anifeiliaid ar gyfer anifeiliaid sy'n cynhyrchu bwyd mewn deddfwriaeth arall fel ei fod yn gymwys i fwyd anifeiliaid ar gyfer anifeiliaid nad ydynt yn cynhyrchu bwyd |
Erthygl 5(2) | Rhwymedigaeth ar berson sy'n gyfrifol am labelu i beri fod gwybodaeth ar gael i'r awdurdod cymwys |
Erthygl 6(1), fel y'i darllenir gydag Atodiad III | Gwaharddiad neu gyfyngiad ar farchnata na defnyddio deunyddiau penodol at ddibenion maethu anifeiliaid |
Erthygl 8 | Rheolaethau ar y lefelau o ychwanegion mewn bwydydd anifeiliaid |
Erthygl 9 | Rheolaethau ar farchnata bwydydd anifeiliaid at ddibenion maethiadol penodol |
Erthygl 11, fel y'i darllenir gydag Atodiadau II a IV a chyda'r Atodiad i Reoliad 242/2010 | Rheolau ac egwyddorion sy'n llywodraethu labelu a chyflwyno bwyd anifeiliaid |
Erthygl 12 | Dynodi'r person sy'n gyfrifol am labelu a rhwymedigaethau a chyfrifoldebau'r person hwnnw |
Erthygl 13(1) | Amodau cyffredinol ar honiadau ynghylch nodweddion neu swyddogaethau bwyd anifeiliaid wrth ei labelu neu ei gyflwyno |
Erthygl 13(2) a (3) | Amodau arbennig sy'n gymwys i honiadau ynghylch gwneud yr eithaf o'r maethiad ac ynghylch cynnal neu warchod yr amodau ffisiolegol |
Erthygl 14(1) a (2) | Y gofynion ar gyfer cyflwyno'r manylion labelu gorfodol |
Erthygl 15, fel y'i darllenir gydag Atodiad VI a VII ac Erthygl 21 | Gofynion labelu gorfodol cyffredinol ar gyfer deunyddiau bwyd anifeiliaid a bwydydd anifeiliaid cyfansawdd |
Erthygl 16, fel y'i darllenir gydag Atodiad II a V ac Erthygl 21 a chyda'r Atodiad i Reoliad 242/2010 | Gofynion labelu penodol ar gyfer deunyddiau bwyd anifeiliaid |
Erthygl 17(1) a (2) fel y'i darllenir gydag Atodiad II, VI a VII ac Erthygl 21 | Gofynion labelu penodol ar gyfer bwydydd anifeiliaid cyfansawdd |
Erthygl 18 | Gofynion labelu ychwanegol ar gyfer bwyd anifeiliaid at ddibenion maethiadol penodol (bwydydd anifeiliaid dietegol) |
Erthygl 19 | Gofynion labelu ychwanegol ar gyfer bwyd anifeiliaid anwes |
Erthygl 20(1) fel y'i darllenir gydag Atodiad VIII | Gofynion ychwanegol ar gyfer labelu bwyd anifeiliaid nad yw'n cydymffurfio, megis bwyd anifeiliaid sy'n cynnwys deunyddiau a halogwyd |
Erthygl 23 | Gofynion sy'n ymwneud â phecynnu a selio deunyddiau bwyd anifeiliaid a bwydydd anifeiliaid cyfansawdd sydd i'w rhoi ar y farchnad |
Erthygl 24(5) | Gofyniad os defnyddir enw deunydd bwyd anifeiliaid a restrir yn y Catalog Cymunedol o ddeunyddiau bwyd anifeiliaid, bod rhaid cydymffurfio â holl ddarpariaethau perthnasol y Catalog |
Erthygl 24(6) | Rhwymedigaeth ar berson sy'n gosod ar y farchnad am y tro cyntaf ddeunydd bwyd anifeiliaid nad yw wedi'i restru yn y Catalog Cymunedol i roi hysbysiad o'i ddefnyddio |
Erthygl 25(4) | Gofyniad os dangosir y Codau Cymunedol ar arfer labelu da ar labelu, bod rhaid cydymffurfio â holl ddarpariaethau perthnasol y Codau |
Yn ôl i’r brig