- Y Diweddaraf sydd Ar Gael (Diwygiedig) - Saesneg
- Y Diweddaraf sydd Ar Gael (Diwygiedig) - Cymraeg
- Gwreiddiol (Fel y'i Gwnaed) - Saesneg
- Gwreiddiol (Fel y'i Gwnaed) - Cymraeg
Dyma’r fersiwn wreiddiol (fel y’i gwnaed yn wreiddiol). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.
Offerynnau Statudol Cymru
Y GWASANAETH IECHYD GWLADOL, CYMRU
Gwnaed
15 Tachwedd 2010
Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru
17 Tachwedd 2010
Yn dod i rym
20 Rhagfyr 2010
1.—(1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Treuliau Teithio a Pheidio â Chodi Tâl) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 2) 2010.
(2) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru a deuant i rym ar 20 Rhagfyr 2010.
2. Yn y Rheoliadau hyn, ystyr “Rheoliadau 2007” (“the 2007 Regulations”) yw Rheoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Treuliau Teithio a Pheidio â Chodi Tâl) (Cymru) 2007(3).
3.—(1) Mae Rheoliadau 2007 yn cael eu diwygio fel a ganlyn.
(2) Yng Ngholofn 2 o Dabl A yn Atodlen 1 (Addasu Rheoliadau Cymhorthdal Incwm (Cyffredinol) 1987), yn lle'r addasiad i reoliad 62 (cyfrifo incwm grant) o'r Rheoliadau hynny, yn lle'r cofnod sy'n ymwneud â mewnosod paragraff (2C) rhodder y canlynol–
“(2) There must also be disregarded from a student’s grant income—
(a)any sum by way of maintenance grant available to a student under regulations 57 to 59 of the Education (Student Support) Regulations 2009(4) which is not taken into account in the calculation of the maximum amount of a loan for living costs under chapter 2 of Part 6 of those Regulations;
(b)any sum by way of maintenance grant available to a student under regulations 38 or 39 of the Assembly Learning Grants and Loans (Higher Education) (Wales) Regulations 2009(5) which is not taken into account in the calculation of the maximum amount of a loan for living costs under regulations 46 to 48 of those Regulations; and
(c)any sum by way of maintenance grant available to a student under regulation 58 of the Education (Student Support) (No.2) Regulations (Northern Ireland) 2009(6) which is not taken into account in the calculation of the maximum amount of a loan for living costs under regulation 66 of those Regulations.”.
Edwina Hart
Y Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, un o Weinidogion Cymru
15 Tachwedd 2010
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)
Mae'r Rheoliadau hyn, sy'n gymwys o ran Cymru, yn diwygio ymhellach Reoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Treuliau Teithio a Pheidio â Chodi Tâl) (Cymru) 2007 (“y prif Reoliadau”). Mae'r Rheoliadau hynny yn darparu ar gyfer talu treuliau teithio a pheidio â chodi tâl y Gwasanaeth Iechyd Gwladol ar bobl ar incwm isel, ymhlith eraill, drwy gyfeirio at derfynau ar eu hincwm a'u cyfalaf.
Wrth gyfrifo adnoddau person a'r gofynion o dan y prif Reoliadau er mwyn canfod a yw person yn gymwys i hawlio na ddylid codi tâl y GIG arno ac y dylid talu iddo dreuliau teithio'r GIG, cymhwysir ato fersiwn ddiwygiedig o Reoliadau Cymhorthdal Incwm (Cyffredinol) 1987.
Mae rheoliad 3 yn diweddaru cyfeiriadau at reoliadau cyllido myfyrwyr yng Nghymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon. Mae'r rhain yn gosod allan yr hawliau i grantiau a benthyciadau sydd ar gael i fyfyrwyr. Diystyrir symiau penodol o grantiau cynnal myfyrwyr wrth gyfrifo hawliau myfyrwyr i gael eu treuliau teithio wedi'u talu ac i beidio â chodi tâl arnynt o dan y prif Reoliadau.
Trosglwyddwyd swyddogaethau Cynulliad Cenedlaethol Cymru a gyfansoddwyd gan Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998 (p.38) i Weinidogion Cymru drwy baragraff 30 o Atodlen 11 i Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (p.32).
O.S. 2007/1104 (Cy.116). Yr offerynnau diwygio perthnasol yw O.S. 2008/1480 (Cy.153), 1879 a 2568 (Cy.226), 2009/709 (Cy.61), a 2010/1237 (Cy.107).
Y Diweddaraf sydd Ar Gael (diwygiedig):Y fersiwn ddiweddaraf sydd ar gael o’r ddeddfwriaeth yn cynnwys newidiadau a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol ac wedi eu gweithredu gan ein tîm golygyddol. Gellir gweld y newidiadau nad ydym wedi eu gweithredu i’r testun eto yn yr ardal ‘Newidiadau i Ddeddfwriaeth’. Dim ond yn Saesneg y mae’r fersiwn ddiwygiedig ar gael ar hyn o bryd.
Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed) - Saesneg: Mae'r wreiddiol Saesneg fersiwn y ddeddfwriaeth fel ag yr oedd pan gafodd ei deddfu neu eu gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.
Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed)-Cymraeg:Y fersiwn Gymraeg wreiddiol o’r ddeddfwriaeth fel yr oedd yn sefyll pan gafodd ei deddfu neu ei gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.
Gallwch wneud defnydd o ddogfennau atodol hanfodol a gwybodaeth ar gyfer yr eitem ddeddfwriaeth o’r tab hwn. Yn ddibynnol ar yr eitem ddeddfwriaeth sydd i’w gweld, gallai hyn gynnwys:
Defnyddiwch y ddewislen hon i agor dogfennau hanfodol sy’n cyd-fynd â’r ddeddfwriaeth a gwybodaeth am yr eitem hon o ddeddfwriaeth. Gan ddibynnu ar yr eitem o ddeddfwriaeth sy’n cael ei gweld gall hyn gynnwys:
liciwch ‘Gweld Mwy’ neu ddewis ‘Rhagor o Adnoddau’ am wybodaeth ychwanegol gan gynnwys