Chwilio Deddfwriaeth

Gorchymyn Eithriadau Gwarchod Plant a Gofal Dydd (Cymru) 2010

Newidiadau i ddeddfwriaeth:

Ar hyn o bryd nid oes unrhyw effeithiau heb eu gweithredu yn hysbys ar gyfer y Gorchymyn Eithriadau Gwarchod Plant a Gofal Dydd (Cymru) 2010, RHAN 3. Help about Changes to Legislation

Close

Changes to Legislation

Efallai na fydd deddfwriaeth ddiwygiedig sydd ar y safle hwn yn gwbl gyfoes. Ar hyn o bryd mae unrhyw newidiadau neu effeithiau hysbys a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol wedi'u gwneud i destun y ddeddfwriaeth yr ydych yn edrych arni gan y tîm golygyddol. Gweler 'Cwestiynau Cyffredin' am fanylion ynglŷn â'r amserlenni ar gyfer nodi a chofnodi effeithiau newydd ar y safle hwn.

RHAN 3LL+CEithriadau gofal dydd i blant

8.  Nid yw person, sy'n darparu gofal i blant [F1o dan ddeuddeng oed] mewn mangre annomestig, yn darparu gofal dydd at ddibenion Mesur 2010 yn yr amgylchiadau a ddisgrifir [F2yn erthyglau 9 i 16 o’r Gorchymyn hwn.] LL+C

Diwygiadau Testunol

Gwybodaeth Cychwyn

I1Ergl. 8 mewn grym ar 1.4.2011, gweler ergl. 1(1)

9.  Nid yw person yn darparu gofal dydd pan ddarperir y gofal gan y person hwnnw yn y fangre o dan sylw ar nifer llai na 6 o ddiwrnodau mewn unrhyw flwyddyn galendr, a bod y person hwnnw wedi hysbysu Gweinidogion Cymru mewn ysgrifen cyn defnyddio'r fangre o dan sylw am y tro cyntaf yn y flwyddyn honno.LL+C

Gwybodaeth Cychwyn

I2Ergl. 9 mewn grym ar 1.4.2011, gweler ergl. 1(1)

10.  Nid yw person yn darparu gofal dydd os nad yw'r cyfnod neu gyfanswm y cyfnodau pan ofelir am blant mewn mangre, yn ystod unrhyw un diwrnod, yn hwy na dwy awr.LL+C

Gwybodaeth Cychwyn

I3Ergl. 10 mewn grym ar 1.4.2011, gweler ergl. 1(1)

11.  Nid yw person yn darparu gofal dydd os darperir y gofal i blentyn [F3sy’n cael gwasanaeth cartref gofal, o fewn ystyr Rhan 1 o Ddeddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2016, mewn lle y darperir gwasanaethau o’r fath ynddo yn gyfan gwbl neu’n bennaf i blant ac y mae person wedi ei gofrestru o dan Ran 1 o’r Ddeddf honno mewn cysylltiad ag ef].LL+C

Diwygiadau Testunol

Gwybodaeth Cychwyn

I4Ergl. 11 mewn grym ar 1.4.2011, gweler ergl. 1(1)

[F411A.  Nid yw person yn darparu gofal dydd pan ddarperir y gofal i blentyn sy’n cael gwasanaeth llety diogel (o fewn ystyr Deddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2016) mewn man lle y darperir gwasanaethau o’r fath ac y mae person wedi ei gofrestru mewn cysylltiad ag ef o dan Ran 1 o’r Ddeddf.]LL+C

12.  Nid yw person yn darparu gofal dydd pan ddarperir y gofal i blentyn a letyir mewn—LL+C

(a)[F5lle y darperir gwasanaeth cartref gofal ynddo, o fewn ystyr Rhan 1 o Ddeddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2016, yn gyfan gwbl neu’n bennaf i bersonau sy’n 18 oed neu drosodd],

(b)ysbyty fel claf, neu

(c)[F6lle y darperir gwasanaeth canolfan breswyl i deuluoedd ynddo, o fewn ystyr Rhan 1 o Ddeddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2016],

yn rhan o weithgarwch y sefydliad o dan sylw, naill ai gan ddarparwr y sefydliad yn uniongyrchol neu gan berson a gyflogir ar ran y darparwr.

13.—(1Nid yw person yn darparu gofal dydd pan ddarperir y gofal mewn gwesty, tŷ llety neu sefydliad cyffelyb arall, i blentyn sy'n aros yn y sefydliad hwnnw—LL+C

(a)pan fo'r ddarpariaeth yn digwydd yn unig rhwng 6 pm a 2 am; a

(b)pan na fo'r person, neu yn ôl y digwydd, unrhyw unigolyn sy'n cael ei gyflogi ganddo, sy'n darparu'r gofal yn gwneud hynny i fwy na dau gleient gwahanol ar yr un pryd.

(2At ddibenion is-baragraff (1)(b), ystyr “cleient” (“client”) yw person y darperir gofal i blentyn ar ei gais (neu bersonau, ar eu cais ar y cyd).

Gwybodaeth Cychwyn

I6Ergl. 13 mewn grym ar 1.4.2011, gweler ergl. 1(1)

14.—(1Nid yw person yn darparu gofal dydd pan ddarperir y gofal i blant mewn ysgol, a'r ddarpariaeth o ofal yn digwydd yn achlysurol mewn cysylltiad â darparu addysg.LL+C

(2yn yr erthygl hon ystyr “ysgol” (“school”) yw—

(i)ysgol a gynhelir o fewn yr ystyr a roddir i “maintained school” yn adran 39 o Ddeddf Addysg 2002(1); [F7neu]

(ii)ysgol annibynnol; F8...

F8(iii). . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . .

15.—(1Yn ddarostyngedig i baragraff (2), nid yw person yn darparu gofal dydd pan fo'n hyfforddi neu'n dysgu mewn gweithgaredd o fath a restrir ym mharagraff (3) ac mae unrhyw ofal a ddarperir iddo yn digwydd yn achlysurol mewn cysylltiad â'r hyfforddi neu'r dysgu hwnnw.LL+C

(2Nid yw'r eithriad yn yr erthygl hon yn gymwys —

(a)os yw'r plant islaw 5 oed ac yn bresennol am fwy na phedair awr y dydd; neu—

(b)os yw'r person yn cynnig hyfforddi neu ddysgu mewn mwy na dau o'r mathau o weithgaredd a restrir ym mharagraff (3).

(3Y mathau o weithgaredd yw—

(a)chwaraeon;

(b)celfyddydau perfformio;

(c)celfyddydau a chrefftau;

(ch)cymorth ar gyfer astudiaethau ysgol neu waith cartref;

(d)astudiaethau crefyddol neu ddiwylliannol.

Gwybodaeth Cychwyn

I8Ergl. 15 mewn grym ar 1.4.2011, gweler ergl. 1(1)

[F916.(1) Nid yw person yn darparu gwasanaeth gwarchod plant neu ofal dydd os ac i’r graddau—LL+C

(a)mai dim ond darparu gwasanaeth ieuenctid i bobl ifanc sydd wedi cyrraedd un ar ddeg oed y mae’r person; a

(b)bod unrhyw ofal a ddarperir yn digwydd yn achlysurol mewn cysylltiad â darparu’r gwasanaeth ieuenctid hwnnw.

(2) Yn yr erthygl hon ystyr “gwasanaeth ieuenctid” (“youth service”) yw gweithgaredd o fath a restrir ym mharagraff (3).

(3) At ddibenion paragraff (2), y mathau o weithgaredd yw’r rhai—

(a)sy’n annog, yn galluogi neu’n cynorthwyo pobl ifanc sydd wedi cyrraedd un ar ddeg oed i gymryd rhan yn effeithiol:

(i)mewn gweithgareddau hamdden;

(ii)mewn addysg a hyfforddiant;

(iii)ym mywyd eu cymunedau; a

(b)pan na fo’n ofynnol i’r person ifanc dalu am gymryd rhan mewn gweithgaredd o’r fath neu pan fo’n ofynnol iddo dalu swm nominal yn unig am wneud hynny.]

Yn ôl i’r brig

Options/Help

Print Options

Close

Mae deddfwriaeth ar gael mewn fersiynau gwahanol:

Y Diweddaraf sydd Ar Gael (diwygiedig):Y fersiwn ddiweddaraf sydd ar gael o’r ddeddfwriaeth yn cynnwys newidiadau a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol ac wedi eu gweithredu gan ein tîm golygyddol. Gellir gweld y newidiadau nad ydym wedi eu gweithredu i’r testun eto yn yr ardal ‘Newidiadau i Ddeddfwriaeth’. Dim ond yn Saesneg y mae’r fersiwn ddiwygiedig ar gael ar hyn o bryd.

Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed) - Saesneg: Mae'r wreiddiol Saesneg fersiwn y ddeddfwriaeth fel ag yr oedd pan gafodd ei deddfu neu eu gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.

Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed)-Cymraeg:Y fersiwn Gymraeg wreiddiol o’r ddeddfwriaeth fel yr oedd yn sefyll pan gafodd ei deddfu neu ei gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.

Close

Gweler y wybodaeth ychwanegol ochr yn ochr â’r cynnwys

Rhychwant ddaearyddol: Indicates the geographical area that this provision applies to. For further information see ‘Frequently Asked Questions’.

Dangos Llinell Amser Newidiadau: See how this legislation has or could change over time. Turning this feature on will show extra navigation options to go to these specific points in time. Return to the latest available version by using the controls above in the What Version box.

Close

Dewisiadau Agor

Dewisiadau gwahanol i agor deddfwriaeth er mwyn gweld rhagor o gynnwys ar y sgrin ar yr un pryd

Close

Rhagor o Adnoddau

Gallwch wneud defnydd o ddogfennau atodol hanfodol a gwybodaeth ar gyfer yr eitem ddeddfwriaeth o’r tab hwn. Yn ddibynnol ar yr eitem ddeddfwriaeth sydd i’w gweld, gallai hyn gynnwys:

  • y PDF print gwreiddiol y fel deddfwyd fersiwn a ddefnyddiwyd am y copi print
  • rhestr o newidiadau a wnaed gan a/neu yn effeithio ar yr eitem hon o ddeddfwriaeth
  • manylion rhoi grym a newid cyffredinol
  • pob fformat o’r holl ddogfennau cysylltiedig
  • slipiau cywiro
  • dolenni i ddeddfwriaeth gysylltiedig ac adnoddau gwybodaeth eraill
Close

Llinell Amser Newidiadau

This timeline shows the different points in time where a change occurred. The dates will coincide with the earliest date on which the change (e.g an insertion, a repeal or a substitution) that was applied came into force. The first date in the timeline will usually be the earliest date when the provision came into force. In some cases the first date is 01/02/1991 (or for Northern Ireland legislation 01/01/2006). This date is our basedate. No versions before this date are available. For further information see the Editorial Practice Guide and Glossary under Help.

Close

Rhagor o Adnoddau

Defnyddiwch y ddewislen hon i agor dogfennau hanfodol sy’n cyd-fynd â’r ddeddfwriaeth a gwybodaeth am yr eitem hon o ddeddfwriaeth. Gan ddibynnu ar yr eitem o ddeddfwriaeth sy’n cael ei gweld gall hyn gynnwys:

  • y PDF print gwreiddiol y fel gwnaed fersiwn a ddefnyddiwyd am y copi print
  • slipiau cywiro

liciwch ‘Gweld Mwy’ neu ddewis ‘Rhagor o Adnoddau’ am wybodaeth ychwanegol gan gynnwys

  • rhestr o newidiadau a wnaed gan a/neu yn effeithio ar yr eitem hon o ddeddfwriaeth
  • manylion rhoi grym a newid cyffredinol
  • pob fformat o’r holl ddogfennau cysylltiedig
  • dolenni i ddeddfwriaeth gysylltiedig ac adnoddau gwybodaeth eraill