Chwilio Deddfwriaeth

Rheoliadau Cynghorau Iechyd Cymuned (Cyfansoddiad, Aelodaeth a Gweithdrefnau) (Cymru) 2010

 Help about what version

Pa Fersiwn

Statws

Dyma’r fersiwn wreiddiol (fel y’i gwnaed yn wreiddiol). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.

Rheoliad 22

ATODLEN 3

Cyfarfodydd a Thrafodion Cynghorau

1.  Rhaid cynnal cyfarfod cyntaf Cyngor ar y cyfryw ddyddiad ac yn y cyfryw fan a bennir gan Weinidogion Cymru, sy'n gyfrifol am gynnull y cyfarfod.

2.  Rhaid cynnal cyfarfod o'r Cyngor o leiaf unwaith ym mhob cyfnod o dri mis a rhaid i'r cyfarfodydd fod yn agored i'r cyhoedd.

3.  Ar ôl y cyfarfod cyntaf, caiff y cadeirydd alw cyfarfod o'r Cyngor unrhyw bryd.

4.  Os cyflwynir cais am gynnal cyfarfod, a hwnnw wedi'i lofnodi gan draean o leiaf o gyfanswm yr aelodau, i'r cadeirydd, a naill ai—

(a)mae'r cadeirydd yn gwrthod galw cyfarfod; neu

(b)heb wrthod fel y cyfryw, nid yw'r cadeirydd yn galw cyfarfod o fewn deng niwrnod i dderbyn y cais,

caiff yr aelodau hynny alw cyfarfod ar eu hunion.

5.  Cyn pob cyfarfod o Gyngor, rhaid danfon hysbysiad o'r cyfarfod—

(a)sy'n nodi'r busnes y cynigir ei drafod yno; a

(b)sydd wedi ei lofnodi gan y Prif Swyddog neu gan un o swyddogion y Cyngor a awdurdodwyd gan y Prif Swyddog i arwyddo ar ei ran,

i bob aelod o'r Cyngor, neu ei anfon drwy'r post i'w preswylfa arferol neu eu cyfeiriad busnes arferol, a hynny o leiaf saith niwrnod clir cyn dyddiad y cyfarfod.

6.  Ni fydd methu â chyflwyno hysbysiad i unrhyw aelod yn effeithio ar ddilysrwydd cyfarfod.

7.  Yn achos cyfarfod a elwir gan aelodau yn hytrach na'r cadeirydd, rhaid i'r aelodau hynny lofnodi'r hysbysiad ac yn y cyfarfod ni cheir trafod unrhyw fusnes ac eithrio'r busnes a bennir yn yr hysbysiad.

8.  Mewn unrhyw gyfarfod o Gyngor rhaid i'r cadeirydd, os yw'n bresennol, lywyddu—

(a)os yw'r cadeirydd yn absennol o'r cyfarfod rhaid i'r is-gadeirydd, os yw'n bresennol, lywyddu;

(b)os yw'r cadeirydd a'r is-gadeirydd yn absennol, rhaid i aelod a ddewisir gan yr aelodau sy'n bresennol lywyddu.

9.  Rhaid penderfynu ynglŷn â phob cwestiwn mewn cyfarfod drwy fwyafrif pleidleisiau yr aelodau sy'n bresennol ac sy'n pleidleisio ar y cwestiwn ac, yn achos pleidlais gytbwys, bydd gan y person sy'n llywyddu ail bleidlais a honno'n bleidlais fwrw.

10.  Ni chaniateir trafod unrhyw fusnes mewn cyfarfod onid oes traean o leiaf o'r aelodau yn bresennol (heb gyfrif unrhyw leoedd gwag nac aelodau cyfetholedig).

11.  Rhaid llunio cofnodion o'r trafodaethau ym mhob cyfarfod a'u cyflwyno er mwyn cytuno arnynt yng nghyfarfod nesaf y Cyngor, a rhaid i'r person sy'n llywyddu yno eu llofnodi.

12.  Rhaid cofnodi enwau'r aelodau a'r cadeiryddion sy'n bresennol mewn cyfarfod, yng nghofnodion y cyfarfod.

13.  Ym mharagraff 3 o'r Atodlen hon, mae “cadeirydd” yn cynnwys is-gadeirydd sy'n gweithredu fel cadeirydd.

Yn ôl i’r brig

Options/Help

Print Options

Close

Mae deddfwriaeth ar gael mewn fersiynau gwahanol:

Y Diweddaraf sydd Ar Gael (diwygiedig):Y fersiwn ddiweddaraf sydd ar gael o’r ddeddfwriaeth yn cynnwys newidiadau a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol ac wedi eu gweithredu gan ein tîm golygyddol. Gellir gweld y newidiadau nad ydym wedi eu gweithredu i’r testun eto yn yr ardal ‘Newidiadau i Ddeddfwriaeth’. Dim ond yn Saesneg y mae’r fersiwn ddiwygiedig ar gael ar hyn o bryd.

Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed) - Saesneg: Mae'r wreiddiol Saesneg fersiwn y ddeddfwriaeth fel ag yr oedd pan gafodd ei deddfu neu eu gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.

Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed)-Cymraeg:Y fersiwn Gymraeg wreiddiol o’r ddeddfwriaeth fel yr oedd yn sefyll pan gafodd ei deddfu neu ei gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.

Close

Dewisiadau Agor

Dewisiadau gwahanol i agor deddfwriaeth er mwyn gweld rhagor o gynnwys ar y sgrin ar yr un pryd

Close

Rhagor o Adnoddau

Gallwch wneud defnydd o ddogfennau atodol hanfodol a gwybodaeth ar gyfer yr eitem ddeddfwriaeth o’r tab hwn. Yn ddibynnol ar yr eitem ddeddfwriaeth sydd i’w gweld, gallai hyn gynnwys:

  • y PDF print gwreiddiol y fel deddfwyd fersiwn a ddefnyddiwyd am y copi print
  • rhestr o newidiadau a wnaed gan a/neu yn effeithio ar yr eitem hon o ddeddfwriaeth
  • manylion rhoi grym a newid cyffredinol
  • pob fformat o’r holl ddogfennau cysylltiedig
  • slipiau cywiro
  • dolenni i ddeddfwriaeth gysylltiedig ac adnoddau gwybodaeth eraill
Close

Rhagor o Adnoddau

Defnyddiwch y ddewislen hon i agor dogfennau hanfodol sy’n cyd-fynd â’r ddeddfwriaeth a gwybodaeth am yr eitem hon o ddeddfwriaeth. Gan ddibynnu ar yr eitem o ddeddfwriaeth sy’n cael ei gweld gall hyn gynnwys:

  • y PDF print gwreiddiol y fel gwnaed fersiwn a ddefnyddiwyd am y copi print
  • slipiau cywiro

liciwch ‘Gweld Mwy’ neu ddewis ‘Rhagor o Adnoddau’ am wybodaeth ychwanegol gan gynnwys

  • rhestr o newidiadau a wnaed gan a/neu yn effeithio ar yr eitem hon o ddeddfwriaeth
  • manylion rhoi grym a newid cyffredinol
  • pob fformat o’r holl ddogfennau cysylltiedig
  • dolenni i ddeddfwriaeth gysylltiedig ac adnoddau gwybodaeth eraill