Print Options
PrintThe Whole
Instrument
PrintThis
Part
only
Statws
Dyma’r fersiwn wreiddiol (fel y’i gwnaed yn wreiddiol).
RHAN 5Sancsiynau sifil
Sancsiynau sifil
12. Mae'r Atodlenni canlynol yn cael effaith—
(a)Atodlen 2, sy'n gwneud darpariaeth ar gyfer cosbau ariannol penodedig();
(b)Atodlen 3, sy'n gwneud darpariaeth ar gyfer gofynion yn ôl disgresiwn().
Cyfuniad o gosbau
13.—(1) Ni chaiff gweinyddwr gyflwyno hysbysiad o fwriad mewn perthynas â chosb ariannol benodedig i werthwr os gosodwyd gofyniad yn ôl disgresiwn ar y gwerthwr hwnnw mewn perthynas â'r un toriad yn y Rheoliadau.
(2) Ni chaiff gweinyddwr gyflwyno hysbysiad o fwriad mewn perthynas â gofyniad yn ôl disgresiwn i werthwr yn unrhyw o'r amgylchiadau canlynol—
(a)pan fo cosb ariannol benodedig wedi ei gosod ar y gwerthwr hwnnw mewn perthynas â'r un toriad yn y Rheoliadau;
(b)pan fo'r gwerthwr wedi rhyddhau ei hun rhag atebolrwydd i gosb ariannol benodedig mewn perthynas â'r un toriad yn y Rheoliadau drwy dalu swm penodedig;
(c)pan fo gofyniad yn ôl disgresiwn eisoes wedi ei osod mewn perthynas â'r un weithred neu anwaith.
Yn ôl i’r brig