Print Options
PrintThe Whole
Instrument
PrintThe Whole
Part
PrintThis
Section
only
Statws
Dyma’r fersiwn wreiddiol (fel y’i gwnaed yn wreiddiol).
Canllawiau o ran defnyddio sancsiynau sifil
22.—(1) Rhaid i weinyddwr gyhoeddi canllawiau am ei ddefnydd o sancsiynau sifil o dan y Rheoliadau hyn.
(2) Rhaid i'r canllawiau gynnwys yr wybodaeth berthnasol (gweler paragraffau (5) a (6)).
(3) Rhaid i weinyddwr ddiwygio'r canllawiau lle y mae hynny'n briodol.
(4) Rhaid i'r gweinyddwr roi sylw i'r canllawiau neu'r canllawiau diwygiedig wrth iddo arfer ei swyddogaethau.
(5) Yn achos canllawiau sy'n ymwneud â chosb ariannol benodedig, yr wybodaeth berthnasol y cyfeirir ati ym mharagraff (2) yw'r wybodaeth o ran—
(a)o dan ba amgylchiadau y mae'r gosb yn debygol o gael ei gosod;
(b)o dan ba amgylchiadau ni chaniateir gosod y gosb;
(c)swm y gosb;
(ch)sut y gellir cael rhyddhad rhag atebolrwydd am y gosb ac effaith y rhyddhad;
(d)hawliau i wneud sylwadau a gwrthwynebiadau; a
(dd)hawliau i apelio.
(6) Yn achos canllawiau sy'n ymwneud â gofyniad yn ôl disgresiwn, yr wybodaeth berthnasol y cyfeirir ati ym mharagraff (2) yw'r wybodaeth o ran—
(a)o dan ba amgylchiadau y mae'r gofyniad yn debygol o gael ei osod;
(b)o dan ba amgylchiadau ni chaniateir gosod y gofyniad;
(c)yn achos cosb ariannol amrywiadwy, y materion sy'n debygol o gael eu cymryd i ystyriaeth gan y gweinyddwr wrth iddo ddyfarnu swm y gosb (gan gynnwys, os yw'n berthnasol, unrhyw ddisgownt am adrodd yn wirfoddol am beidio â chydymffurfio);
(ch)hawliau i wneud sylwadau a gwrthwynebiadau; a
(d)hawliau i apelio.
Yn ôl i’r brig