xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

Rheoliad 12

ATODLEN 3Gofynion yn ôl disgresiwn

RHAN 1Gosod gofynion yn ôl disgresiwn a gweithdrefn

Pŵer i osod gofynion yn ôl disgresiwn

1.—(1Caiff gweinyddwr drwy hysbysiad osod un neu fwy o ofynion yn ôl disgresiwn ar werthwr sy'n torri'r Rheoliadau hyn(1).

(2Caiff gweinyddwr arfer y pŵer a roddir gan is-baragraff (1) mewn perthynas ag achos os yw wedi ei fodloni yn ôl pwysau tebygolrwydd bod y toriad yn y Rheoliadau wedi digwydd.

Cosbau ariannol amrywiadwy: uchafsymiau

2.  Uchafswm y gosb y caiff gweinyddwr ei gosod fel cosb ariannol amrywiadwy mewn perthynas ag unrhyw fath o doriad penodol yn y Rheoliadau yw'r swm a bennir yn ail golofn y tabl yn Rhan 2 drwy gyfeirio at y math o doriad yn y Rheoliadau sydd o dan sylw(2).

Hysbysiad o Fwriad

3.—(1Pan fo gweinyddwr yn bwriadu gosod un neu fwy o ofynion yn ôl disgresiwn ar werthwr, rhaid i'r gweinyddwr gyflwyno hysbysiad o fwriad i'r gwerthwr hwnnw(3).

(2Rhaid i'r hysbysiad o fwriad—

(a)os yw'r gweinyddwr yn bwriadu gosod gofyniad yn ôl disgresiwn nad yw'n un ariannol(4)

(i)pennu'r camau y mae'r gweinyddwr yn bwriadu fydd yn ofynnol i'r gwerthwr eu cymryd;

(ii)pennu'r cyfnod o amser y mae'r gweinyddwr yn ei fwriadu i'r camau hynny gael eu cwblhau ynddo;

(b)os yw'r gweinyddwr yn bwriadu gosod cosb ariannol amrywiadwy, pennu swm y gosb a gynigir;

(c)cynnwys gwybodaeth o ran—

(i)y seiliau am y bwriad i osod un neu fwy o ofynion yn ôl disgresiwn;

(ii)yr hawl i wneud sylwadau a gwrthwynebiadau a roddir gan baragraff 4;

(iii)o dan ba amgylchiadau ni chaiff gweinyddwr osod un neu fwy o ofynion yn ôl disgresiwn;

(iv)y cyfnod o 28 o ddiwrnodau y caniateir gwneud sylwadau a gwrthwynebiadau ynddo;

(v)yn achos cosb ariannol amrywiadwy, sut y gellir talu.

Gwneud sylwadau a gwrthwynebiadau

4.  O fewn y 28 o ddiwrnodau sy'n dechrau ar y diwrnod y mae'r gwerthwr yn cael yr hysbysiad o fwriad, caiff y gwerthwr wneud sylwadau a gwrthwynebiadau ysgrifenedig i'r gweinyddwr mewn perthynas â'r bwriad i osod un neu fwy o ofynion yn ôl disgresiwn.

Penderfynu ai gosod gofynion yn ôl disgresiwn ai peidio

5.—(1Ar ddiwedd y cyfnod o 28 o ddiwrnodau ar gyfer gwneud sylwadau a gwrthwynebiadau o dan baragraff 4, rhaid i'r gweinyddwr benderfynu ai—

(a)gosod un neu ragor o ofynion yn ôl disgresiwn gydag addasiadau neu hebddynt; neu

(b)gosod unrhyw ofyniad arall yn ôl disgresiwn y mae gan y gweinyddwr y pŵer i'w osod o dan yr Atodlen hon.

(2Wrth wneud penderfyniad o dan y paragraff hwn rhaid i weinyddwr ystyried unrhyw sylwadau neu wrthwynebiadau a wnaed gan y gwerthwr yn unol â pharagraff 4.

(3Ni chaiff gweinyddwr benderfynu gosod gofyniad yn ôl disgresiwn yn unrhyw un o'r amgylchiadau canlynol—

(a)os gosodwyd eisoes ofyniad yn ôl disgresiwn mewn perthynas â'r un weithred neu anwaith;

(b)os cafwyd eisoes ryddhad rhag atebolrwydd i gosb ariannol benodedig mewn perthynas â'r un toriad yn y Rheoliadau drwy dalu swm penodedig;

(c)os gosodwyd cosb ariannol benodedig mewn perthynas â'r un toriad yn y Rheoliadau.

(4Ni chaiff gweinyddwr benderfynu o dan y paragraff hwn i osod cosb ariannol benodedig yn lle gofyniad yn ôl disgresiwn.

(5Heb gyfyngu ar y pŵer o dan is-baragraff (1), caiff gweinyddwr benderfynu beidio â gosod gofyniad yn ôl disgresiwn os yw'r gweinyddwr o'r farn y byddai'n anfuddiol gwneud hynny o dan holl amgylchiadau'r achos.

(6Pan fo'r gweinyddwr yn penderfynu gosod gofyniad yn ôl disgresiwn, rhaid iddo wneud hynny drwy gyflwyno'r hysbysiad terfynol i'r gwerthwr(5).

(7Rhaid i'r hysbysiad terfynol gydymffurfio â pharagraff 6.

Cynnwys hysbysiad terfynol

6.  Rhaid i'r hysbysiad terfynol gynnwys gwybodaeth o ran—

(a)y seiliau am osod un neu ragor o ofynion yn ôl disgresiwn;

(b)ymateb y gweinyddwr i unrhyw sylwadau a gwrthwynebiadau a wnaed gan y gwerthwr, gan gynnwys yr effaith (os oes un) ar swm y gosb ariannol amrywiadwy a osodwyd;

(c)os yw'r gofyniad yn ôl disgresiwn yn ofyniad yn ôl disgresiwn nad yw'n un ariannol—

(i)y camau y mae'n ofynnol i'r gwerthwr eu cymryd;

(ii)y cyfnod o amser y mae'n rhaid cwblhau'r camau hynny ynddo;

(ch)pan fo'r gofyniad yn ôl disgresiwn yn gosb ariannol amrywiadwy—

(i)swm y gosb;

(ii)sut y gellir talu;

(iii)o fewn pa gyfnod y mae'n rhaid talu;

(iv)effaith paragraff 8 (disgownt am dalu'n gynnar);

(v)effaith paragraff 9 (cosb am dalu'n hwyr);

(d)hawliau i apelio; ac

(dd)y canlyniadau am fethu â chydymffurfio â'r hysbysiad.

Talu

7.—(1Rhaid i'r gwerthwr dalu cosb ariannol amrywiadwy o fewn 56 o ddiwrnodau sy'n dechrau ar y diwrnod y cafwyd yr hysbysiad terfynol sy'n ei gosod.

(2Os bydd penderfyniad i osod cosb ariannol amrywiadwy yn destun apêl yna i'r graddau y caiff y penderfyniad hwnnw ei gadarnhau, rhaid i'r gwerthwr dalu'r gosb o fewn 28 o ddiwrnodau sy'n dechrau ar y diwrnod y dyfernir yr apêl.

Disgownt am dalu'n gynnar

8.  Caiff gwerthwr ryddhau ei hun rhag atebolrwydd i gosb ariannol amrywiadwy drwy dalu 50% o swm y gosb o fewn 28 o ddiwrnodau sy'n dechrau ar y diwrnod y cafwyd yr hysbysiad terfynol sy'n ei gosod.

Cosb am dalu'n hwyr

9.  Os na thelir cosb ariannol amrywiadwy o fewn y cyfnod a ganiateir yn unol â pharagraff 7 cynyddir y swm sy'n daladwy gan 50%.

Seiliau apêl

10.—(1Caiff gwerthwr apelio yn erbyn penderfyniad gweinyddwr i osod gofyniad yn ôl disgresiwn.

(2Y seiliau ar gyfer apelio yw—

(a)bod y penderfyniad yn seiliedig ar wall ffeithiol;

(b)bod y penderfyniad yn anghywir mewn cyfraith;

(c)mewn achos o gosb ariannol amrywiadwy, bod swm y gosb yn afresymol;

(ch)mewn achos o ofyniad yn ôl disgresiwn nad yw'n un ariannol, bod natur y gofyniad yn afresymol;

(d)bod y penderfyniad yn afresymol am unrhyw reswm arall;

(dd)unrhyw reswm arall.

RHAN 2Cosbau ariannol amrywiadwy: uchafsymiau

Toriad yn y RheoliadauYr uchafswm y caniateir ei osod fel cosb ariannol amrywiadwy
Methiant i gydymffurfio â'r gofyniad i godi tâl yn unol â rheoliad 6 (rheoliad 11(1) a (2))£5,000
Methiant i gadw cofnodion yn unol â rheoliad 8 (rheoliad 11(1) a (2))£5,000
Methiant i ddal gafael ar gofnodion yn unol â rheoliad 8 (rheoliad 11(1) a (2))£5,000
Methiant i gyflenwi cofnodion yn unol â rheoliad 9 (rheoliad 11(1) a (2))£5,000
Methiant i gyhoeddi cofnodion yn unol â rheoliad 10 (rheoliad 11(1) a (2))£5,000
Heb achos rhesymol, yn rhoi gwybodaeth anwir neu gamarweiniol i weinyddwr (rheoliad 11(3))£20,000
Heb achos rhesymol, yn rhwystro gweinyddwr rhag cynnal ei swyddogaethau o dan y Rheoliadau hyn neu'n methu â rhoi cymorth iddo fel arall wrth iddo gynnal y swyddogaethau hynny (rheoliad 11(3))£20,000
(1)

I gael ystyr “discretionary requirementgweler paragraff 12(3) o Atodlen 6 i Ddeddf Newid Hinsawdd 2008.

(2)

I gael ystyr “variable monetary penaltygweler paragraff 12(4) o Atodlen 6 i'r Ddeddf honno.

(3)

I gael ystyr “notice of intentgweler paragraff 13(1)(a) o Atodlen 6 i Ddeddf Newid Hinsawdd 2008.

(4)

I gael ystyr “non-monetary discretionary requirementgweler paragraff 12(4) o'r Ddeddf honno.

(5)

I gael ystyr “the final noticegweler paragraff 13(1)(d) o Atodlen 6 i Ddeddf Newid Hinsawdd 2008.