Rheoliadau Cyfraniadau Ardrethu Annomestig (Cymru) (Diwygio) 2010

Enwi, cychwyn, cymhwyso a dehongli

1.—(1Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Cyfraniadau Ardrethu Annomestig (Cymru) (Diwygio) 2010 a deuant i rym ar 31 Rhagfyr 2010.

(2Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.

(3Yn y Rheoliadau hyn ystyr “Rheoliadau 1992” (“the 1992 Regulations”) yw Rheoliadau Cyfraniadau Ardrethu Annomestig (Cymru) 1992(1).

Diwygio Rheoliadau 1992

2.—(1Mae Rheoliadau 1992 wedi eu diwygio fel a ganlyn mewn perthynas â blynyddoedd ariannol sy'n dechrau ar neu ar ôl 1 Ebrill 2011.

(2Yn lle Atodlen 4 i Reoliadau 1992 rhodder yr Atodlen i'r Rheoliadau hyn.

Carl Sargeant

Y Gweinidog dros Gyfiawnder Cymdeithasol a Llywodraeth Leol, un o Weinidogion Cymru

1 Rhagfyr 2010