- Y Diweddaraf sydd Ar Gael (Diwygiedig) - Saesneg
- Y Diweddaraf sydd Ar Gael (Diwygiedig) - Cymraeg
- Gwreiddiol (Fel y'i Gwnaed) - Saesneg
- Gwreiddiol (Fel y'i Gwnaed) - Cymraeg
Dyma’r fersiwn wreiddiol (fel y’i gwnaed yn wreiddiol). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)
Mae erthygl 3 o'r Gorchymyn hwn yn sefydlu, o 1 Ebrill 2010, chwe Chyngor Iechyd Cymuned newydd yng Nghymru, fel y darperir ar eu cyfer yn adran 182(2) o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cymru) 2006 (p.42).
Mae erthygl 4 o'r Gorchymyn hwn yn nodi'r ardaloedd y sefydlir y Cynghorau Iechyd Cymuned ar eu cyfer.
Mae erthygl 5 yn gosod y swyddogaethau sydd i'w cyflawni gan y Cynghorau Iechyd Cymuned a sefydlir o dan erthygl 3.
Mae erthygl 6 yn darparu ar gyfer trosglwyddo swyddogaethau a hawliau oedd yn arferadwy gan y Cynghorau sy'n cael eu diddymu gan erthygl 9 o'r Gorchymyn hwn ac ar gyfer trosglwyddo'r rhwymedigaethau oedd yn orfodadwy yn erbyn y cyfryw Gynghorau i'r Cynghorau a sefydlir gan erthygl 3 o'r Gorchymyn hwn.
Mae erthygl 7 yn sicrhau fod adroddiadau a chyfrifon y Cynghorau a ddiddymir gan erthygl 9 o'r Gorchymyn hwn yn cael eu darparu yn unol â rheoliadau 25 a 41 o Reoliadau'r Cynghorau Iechyd Cymuned (Cyfansoddiad, Aelodaeth a Gweithdrefnau) (Cymru) 2010.
Mae erthygl 8 yn darparu ar gyfer parhâd wrth arfer swyddogaethau.
Mae erthygl 9 yn diddymu dau ar bymtheg o'r Cynghorau Iechyd Cymuned presennol yng Nghymru ar 1 Ebrill 2010.
Er mwyn eglurder, gan fod pob Cyngor Iechyd Cymuned arall yng Nghymru yn cael ei ddiddymu a Chynghorau Iechyd Cymuned newydd yn cael eu creu ar gyfer ardaloedd yng Nghymru, mae erthygl 10 yn darparu'n benodol ar gyfer parhâd bodolaeth Cyngor Iechyd Cymuned Brycheiniog a Maesyfed a Chyngor Iechyd Cymuned Maldwyn.
Mae'n cadarnhau fod Cyngor Iechyd Cymuned Brycheiniog a Maesyfed a Chyngor Iechyd Cymuned Maldwyn gyda'i gilydd yn cwmpasu'r ardal y sefydlir Bwrdd Iechyd Lleol Addysgu Powys drosti. Mae hyn yn dangos fod Gweinidogion Cymru wedi cydymffurfio â'u dyletswydd i sicrhau fod yr ardaloedd y sefydlir Byrddau Iechyd Cymuned ar eu cyfer ar unrhyw adeg gyda'i gilydd yn cynnwys Cymru gyfan (adran 182(3) o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cymru) 2006). Nid yw'r union ardaloedd y sefydlwyd Cyngor Iechyd Cymuned Brycheiniog a Maesyfed a Chyngor Iechyd Cymuned Maldwyn ar eu cyfer, a'r union ardaloedd y maent yn eu tro yn arfer eu swyddogaethau drostynt, wedi newid, ac fe'u gosodir yn Atodlen 3 i'r Gorchymyn hwn.
Mae erthygl 11 yn disgrifio swyddogaethau'r Cynghorau sy'n parhau.
Mewn perthynas ag aelodaeth, cyfansoddiad, a gweithdrefnau'r Cynghorau Iechyd Cymuned, gweler Rheoliadau'r Cynghorau Iechyd Cymuned (Cyfansoddiad, Aelodaeth a Gweithdrefnau) (Cymru) 2010 (O.S. 2010/288, (Cy.37)).
Y Diweddaraf sydd Ar Gael (diwygiedig):Y fersiwn ddiweddaraf sydd ar gael o’r ddeddfwriaeth yn cynnwys newidiadau a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol ac wedi eu gweithredu gan ein tîm golygyddol. Gellir gweld y newidiadau nad ydym wedi eu gweithredu i’r testun eto yn yr ardal ‘Newidiadau i Ddeddfwriaeth’. Dim ond yn Saesneg y mae’r fersiwn ddiwygiedig ar gael ar hyn o bryd.
Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed) - Saesneg: Mae'r wreiddiol Saesneg fersiwn y ddeddfwriaeth fel ag yr oedd pan gafodd ei deddfu neu eu gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.
Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed)-Cymraeg:Y fersiwn Gymraeg wreiddiol o’r ddeddfwriaeth fel yr oedd yn sefyll pan gafodd ei deddfu neu ei gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.
Gallwch wneud defnydd o ddogfennau atodol hanfodol a gwybodaeth ar gyfer yr eitem ddeddfwriaeth o’r tab hwn. Yn ddibynnol ar yr eitem ddeddfwriaeth sydd i’w gweld, gallai hyn gynnwys:
Defnyddiwch y ddewislen hon i agor dogfennau hanfodol sy’n cyd-fynd â’r ddeddfwriaeth a gwybodaeth am yr eitem hon o ddeddfwriaeth. Gan ddibynnu ar yr eitem o ddeddfwriaeth sy’n cael ei gweld gall hyn gynnwys:
liciwch ‘Gweld Mwy’ neu ddewis ‘Rhagor o Adnoddau’ am wybodaeth ychwanegol gan gynnwys