Chwilio Deddfwriaeth

Rheoliadau Grantiau Adnewyddu Tai (Diwygio) (Cymru) 2010

 Help about what version

Pa Fersiwn

 Help about opening options

Dewisiadau Agor

Statws

Dyma’r fersiwn wreiddiol (fel y’i gwnaed yn wreiddiol). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.

Nodyn Esboniadol

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)

Mae'r Rheoliadau hyn yn diwygio ymhellach (o ran Cymru) Reoliadau Grantiau Adnewyddu Tai 1996 (O.S. 1996/2890) (“y prif Reoliadau”), sy'n nodi'r prawf modd i bennu swm y grant y caniateir i'r awdurdodau tai lleol ei dalu o dan Bennod 1 o Ran 1 o Ddeddf Grantiau Tai, Adeiladu ac Adfywio 1996. Mae'r prif Reoliadau'n cael eu diwygio fel a ganlyn:

Mae rheoliad 3(2) yn diwygio rheoliad 10, i beri mai £1 yw'r swm cymwys o ran person sy'n cael lwfans cyflogaeth a chymorth cysylltiedig â gwaith.

Mae rheoliad 3(3) yn diwygio rheoliad 19, i beri y bydd y ffioedd gofal plant perthnasol sy'n cael eu hysgwyddo gan berson sy'n cael enillion ar sail analluedd i weithio neu alluedd cyfyngedig i weithio, neu sy'n cael taliadau lwfans cyflogaeth a chymorth, yn cael eu pennu wrth gyfrifo modd yr ymgeisydd er mwyn pennu swm y grant y caniateir ei dalu.

Mae rheoliad 3(4) yn diwygio rheoliad 41 ac yn gwneud darpariaeth ganlyniadol o ran newidiadau i'r system ariannu myfyrwyr o Loegr a wnaed gan Ddeddf Prentisiaethau, Sgiliau, Plant a Dysgu 2009.

Mae Atodlen 1 i'r prif Reoliadau yn rhestru'r symiau sy'n gymwys i berson perthnasol (a ddiffinnir yn rheoliad 5 o'r prif Reoliadau) fel rhan o'r cyfrifiad sy'n cael ei wneud er mwyn pennu'r swm cymwys (a ddiffinnir yn rheoliad 10 o'r prif Reoliadau). Mae'r symiau hyn yn cael eu defnyddio wedyn wrth gyfrifo'r grant y caniateir ei dalu. Mae Atodlen 2 yn rhestru symiau sydd i'w hanwybyddu wrth bennu incwm, mae Atodlen 3 yn rhestru symiau sydd i'w hanwybyddu wrth bennu incwm heblaw enillion, ac mae Atodlen 4 yn rhestru'r cyfalaf sydd i'w anwybyddu wrth bennu cyfalaf.

Mae rheoliad 2(4) yn diwygio Atodlen 1 i gynnwys lwfansau cyflogaeth a chymorth yn y symiau sy'n gymwys. Mae rheoliad 2(5) i (7) yn diwygio Atodlenni 2, 3 a 4 i beri bod lwfans cyflogaeth a chymorth cysylltiedig â gwaith yn cael ei anwybyddu wrth bennu enillion, incwm heblaw enillion a chyfalaf.

Yn ôl i’r brig

Options/Help

Print Options

Close

Mae deddfwriaeth ar gael mewn fersiynau gwahanol:

Y Diweddaraf sydd Ar Gael (diwygiedig):Y fersiwn ddiweddaraf sydd ar gael o’r ddeddfwriaeth yn cynnwys newidiadau a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol ac wedi eu gweithredu gan ein tîm golygyddol. Gellir gweld y newidiadau nad ydym wedi eu gweithredu i’r testun eto yn yr ardal ‘Newidiadau i Ddeddfwriaeth’. Dim ond yn Saesneg y mae’r fersiwn ddiwygiedig ar gael ar hyn o bryd.

Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed) - Saesneg: Mae'r wreiddiol Saesneg fersiwn y ddeddfwriaeth fel ag yr oedd pan gafodd ei deddfu neu eu gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.

Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed)-Cymraeg:Y fersiwn Gymraeg wreiddiol o’r ddeddfwriaeth fel yr oedd yn sefyll pan gafodd ei deddfu neu ei gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.

Close

Dewisiadau Agor

Dewisiadau gwahanol i agor deddfwriaeth er mwyn gweld rhagor o gynnwys ar y sgrin ar yr un pryd

Close

Rhagor o Adnoddau

Gallwch wneud defnydd o ddogfennau atodol hanfodol a gwybodaeth ar gyfer yr eitem ddeddfwriaeth o’r tab hwn. Yn ddibynnol ar yr eitem ddeddfwriaeth sydd i’w gweld, gallai hyn gynnwys:

  • y PDF print gwreiddiol y fel deddfwyd fersiwn a ddefnyddiwyd am y copi print
  • rhestr o newidiadau a wnaed gan a/neu yn effeithio ar yr eitem hon o ddeddfwriaeth
  • manylion rhoi grym a newid cyffredinol
  • pob fformat o’r holl ddogfennau cysylltiedig
  • slipiau cywiro
  • dolenni i ddeddfwriaeth gysylltiedig ac adnoddau gwybodaeth eraill
Close

Rhagor o Adnoddau

Defnyddiwch y ddewislen hon i agor dogfennau hanfodol sy’n cyd-fynd â’r ddeddfwriaeth a gwybodaeth am yr eitem hon o ddeddfwriaeth. Gan ddibynnu ar yr eitem o ddeddfwriaeth sy’n cael ei gweld gall hyn gynnwys:

  • y PDF print gwreiddiol y fel gwnaed fersiwn a ddefnyddiwyd am y copi print
  • slipiau cywiro

liciwch ‘Gweld Mwy’ neu ddewis ‘Rhagor o Adnoddau’ am wybodaeth ychwanegol gan gynnwys

  • rhestr o newidiadau a wnaed gan a/neu yn effeithio ar yr eitem hon o ddeddfwriaeth
  • manylion rhoi grym a newid cyffredinol
  • pob fformat o’r holl ddogfennau cysylltiedig
  • dolenni i ddeddfwriaeth gysylltiedig ac adnoddau gwybodaeth eraill