xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

Nodyn Esboniadol

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)

Mae'r Rheoliadau hyn yn rhoi ei heffaith, mewn perthynas â chynllunio gwlad a thref yng Nghymru, i Erthygl 12 o Gyfarwyddeb 96/82/EC ar reoli'r peryglon o ddamweiniau mawr yn ymwneud â sylweddau peryglus (O.J. Rhif L 10, 14.1.1997, t.13)(Cyfarwyddeb Seveso II), fel y'i diwygiwyd gan Gyfarwyddeb y Cyngor 2003/105/EC (O.J. Rhif L 345, 31.12.2003, t.97) (Cyfarwyddeb 2003).

Mae Erthygl 12 o Gyfarwyddeb Seveso II yn ei gwneud yn ofynnol i bolisïau defnyddio tir roi sylw i'r amcanion o rwystro damweiniau mawr a chyfyngu ar ganlyniadau damweiniau o'r fath; ac fod yr amcanion hyn yn cael eu cyflawni drwy reolaethau a'r gofyniad i sicrhau fod awdurdodau cynllunio yn llunio gweithdrefnau ymgynghori priodol er mwyn hwyluso rhoi'r polisïau hyn a pholisïau eraill a sefydlwyd o dan yr Erthygl hon ar waith. Mae hefyd yn ei gwneud yn ofynnol i Aelod-wladwriaethau roi sylw i'r angen, dros y tymor hir, i gynnal pellteroedd priodol rhwng sefydliadau a gwmpesir gan y Gyfarwyddeb ac ardaloedd preswyl, ardaloedd a ddefnyddir gan y cyhoedd, ac ardaloedd o sensitifrwydd naturiol neu o ddiddordeb naturiol. Mae Cyfarwyddeb 2003 yn estyn y gofyniad hwn i gynnwys adeiladau a ddefnyddir gan y cyhoedd, prif lwybrau trafnidiaeth cyn belled ag y mae modd, ac ardaloedd hamddena.

Mae'r diwygiadau a wnaed gan Gyfarwyddeb 2003 hefyd yn estyn cwmpas Cyfarwyddeb Seveso II drwy ddiwygio Atodiad I i Gyfarwyddeb Seveso II (cymhwyso Cyfarwyddeb Seveso II). Mae Atodiad I yn gymwys i bresenoldeb sylweddau peryglus (gan gynnwys pethau a gymysgir a phethau a baratoir) mewn unrhyw sefydliad. Wrth wneud felly, mae Atodiad I yn penderfynu cymhwysedd Erthygl 12. Mae'r Atodiad I newydd yn cynyddu'r amrediad o sylweddau peryglus, ac yn adolygu'r diffiniadau o'r sylweddau peryglus a restrwyd yn Atodiad I o Gyfarwyddeb Seveso a'r maintioli ohonynt sy'n dod â hwy o fewn cwmpas y Gyfarwyddeb. Ymhlith y sylweddau peryglus hynny sydd bellach wedi'u cynnwys yn rhinwedd y diwygiadau a wnaed gan Gyfarwyddeb 2003 y mae'r rheini sy'n gysylltiedig â pheryglon sy'n codi o weithgareddau storio a phrosesu penodol mewn mwyngloddio.

Mae rheoliad 3 yn diwygio Rheoliadau Cynllunio (Sylweddau Peryglus) 1992 (y Rheoliadau Sylweddau Peryglus) drwy osod yn ei lle Atodlen 1 newydd sy'n rhagnodi'r sylweddau sy'n sylweddau peryglus a'r maintioli ohonynt sydd dan reolaeth, er mwyn rhoi eu heffaith i'r diwygiadau a wnaed i Atodiad I o Gyfarwyddeb Seveso II gan Gyfarwyddeb 2003. Mae rheoliad 2 hefyd yn gwneud rhai mân ddiwygiadau i adlewyrchu'r ffaith bod Atodlen 1 newydd wedi cael ei gosod yn ei lle.

Mae rheoliad 4 yn gwneud darpariaeth drosiannol er mwyn sicrhau nad yw cydsyniadau presennol ar sylweddau peryglus yn cael eu trin fel rhai annilys oherwydd fod sylweddau peryglus wedi cael eu hail enwi neu eu hail gategoreiddio.

Mae rheoliad 5 yn rhoi imiwnedd drosiannol rhag erlyniad ac achosion o dramgwydd am gyfnod o chwe mis o'r diwrnod pan ddaw'r Rheoliadau hyn i rym. Yn ystod yr adeg hon, caniateir gwneud cais am gydsyniad.

Paratowyd asesiad effaith mewn perthynas â'r Rheoliadau hyn. Fe'i gosodwyd yn Llyfrgell Llywodraeth Cynulliad Cymru a gellir cael copïau ohono oddi wrth y Gyfarwyddiaeth Gynllunio, Llywodraeth Cynulliad Cymru, Parc Cathays, Caerdydd CF 10 3NQ.