Rheoliadau Cynllunio (Sylweddau Peryglus) (Diwygio) (Cymru) 2010

Esemptiadau Trosiannol

5.—(1Ni chyflawnir tramgwydd o dan adran 23 o'r Ddeddf Sylweddau Peryglus cyn 19 Awst 2010 ac ni chaniateir dyroddi hysbysiad tramgwydd sylweddau peryglus cyn y dyddiad hwnnw mewn perthynas â sylwedd peryglus sydd ar unrhyw dir, neu uwch ei ben neu oddi tano,—

(a)os oedd y sylwedd yn bresennol ar unrhyw dir, neu uwch ei ben neu oddi tano ar unrhyw adeg o fewn y cyfnod o 12 mis yn gorffen ar 19 Mawrth 2010 ac nad oedd yn sylwedd neu'n faintioli o sylwedd yr oedd yn ofynnol cael cydsyniad sylweddau peryglus ar ei gyfer cyn y dyddiad hwnnw; a

(b)os nad yw'r sylwedd yn bresennol yn ystod y cyfnod sy'n cychwyn ar 19 Mawrth 2010 ac sy'n gorffen ar 18 Awst 2010 mewn maintioli sy'n fwy yn gyfunol na'r maintioli sefydledig.

(2Ym mharagraff (1) ystyr “y maintioli sefydledig”, mewn perthynas ag unrhyw dir, yw uchafswm y maintioli oedd yn bresennol ar y tir, neu uwch ei ben neu oddi tano ar unrhyw adeg o fewn y cyfnod o 12 mis sy'n gorffen ar 19 Mawrth 2010.