Print Options
PrintThe Whole
Instrument
PrintThis
Nodyn Esboniadol
only
Statws
Dyma’r fersiwn wreiddiol (fel y’i gwnaed yn wreiddiol). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.
Nodyn Esboniadol
Mae'r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau Cynlluniau Effeithlonrwydd Ynni Cartref (Cymru) 2007 (O.S. 2007/375 (Cy. 35)). Mae Rheoliadau 2007 yn sefydlu dau gynllun grant: y Cynllun Effeithlonrwydd Ynni Cartref (“HEES”) a'r Cynllun Effeithlonrwydd Ynni Cartref a Mwy (“HEES a Mwy”). Yn ychwanegol at fân ddiwygiadau, mae'r diwygiadau o sylwedd a ganlyn yn cael eu gwneud i Reoliadau 2007
Mae rheoliad 4 yn diwygio'r diffiniad o “HEES” a “HEES a Mwy” fel bod y categorïau o weithfeydd sydd ar gael o dan bob Cynllun bellach wedi'u gosod yn y Rheoliadau; ac er mwyn i'r categorïau o weithfeydd y caniateir i grant gael ei dalu ar eu cyfer mewn amgylchiadau penodol gael eu hymestyn i gynnwys yr holl weithfeydd sy'n cael eu disgrifio yn Rheoliadau 2007.Bydd y categorïau gweithfeydd estynedig ar gael o dan HEES a HEES a Mwy os yw'r annedd sy'n destun cais gweithfeydd mewn perchnogaeth breifat neu'n cael ei rhentu'n breifat ac os yw'r asiantaeth ardal wedi'i bodloni y cyfrifwyd, gan ddefnyddio'r fethodoleg a gymeradwywyd gan yr Ysgrifennydd Gwladol o dan Reoliadau Adeiladu 2000 (O.S. 2000/2531), fod gan yr annedd gyfraddiad perfformiad ynni isel; hynny yw, cyfraddiad ased o 38 neu lai.
Mae rheoliad 6 yn ychwanegu inswleiddio waliau solet at y disgrifiad o weithfeydd y caniateir i grant gael ei dalu ar eu cyfer. Mae rheoliad 6 hefyd yn diwygio rheoliad 6 o Reoliadau 2007 fel bod modd, os oes cais am grant wedi'i gymeradwyo ar gyfer unrhyw un o'r prif weithfeydd a ddisgrifir yn rheoliad 6(1), cymeradwyo grant hefyd ar gyfer mân weithfeydd ychwanegol i leihau neu atal gwastraff ynni mewn annedd. I fod yn gymwys am y grant rhaid bod y mân weithfeydd o fath y mae'r asiantaeth ardal o'r farn eu bod yn ymarferol, yn gost-effeithiol ac yn rhesymol o dan amgylchiadau'r achos penodol dan sylw.
Mae rheoliad 7 yn diwygio rheoliad 7 o Reoliadau 2007, sy'n ymdrin ag uchafswm y grant sydd ar gael o dan y cynlluniau. Effaith y diwygiad yw rhagnodi mai £12,000 yw uchafswm y grant y caniateir ei roi ar gyfer unrhyw un annedd. Dim ond ar gyfer annedd sydd mewn perchnogaeth breifat neu sy'n cael ei rhentu'n breifat y mae'r uchafswm grant newydd yn gymwys ac os yw'r asiantaeth ardal yn fodlon y cyfrifwyd, gan ddefnyddio'r fethodoleg a gymeradwywyd gan yr Ysgrifennydd Gwladol o dan Reoliadau Adeiladu 2000 (O.S. 2000/2531), fod gan yr annedd gyfraddiad perfformiad ynni sy'n wael; hynny yw, cyfraddiad ased o 38 neu lai.
Mae rheoliad 8 yn gwneud darpariaeth drosiannol fel bod y diwygiadau sy'n cael eu gwneud gan y Rheoliadau hyn yn gymwys i gais am grant sy'n cael ei wneud cyn y dyddiad y daw'r Rheoliadau hyn i rym, os yw'r penderfyniad i gymeradwyo'r cais o dan sylw neu i'w wrthod i fod i gael ei wneud ar ôl y dyddiad hwnnw.
Yn ôl i’r brig