xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

Offerynnau Statudol Cymru

2010 Rhif 481 (Cy.50)

GWASANAETHAU TÅN AC ACHUB, CYMRU

Gorchymyn Awdurdodau Tân ac Achub (Cynlluniau Gwella) (Cymru) 2010

Gwnaed

24 Chwefror 2010

Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru

1 Mawrth 2010

Yn dod i rym

1 Ebrill 2010

Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd iddynt gan adrannau 15(7), 50(1) a (3) o Fesur Llywodraeth Leol (Cymru) 2009(1) drwy hyn yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn:

Enwi, cychwyn, dehongli a chymhwyso

1.—(1Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Awdurdodau Tân ac Achub (Cynlluniau Gwella) (Cymru) 2010 a daw i rym ar 1 Ebrill 2010.

(2Yn y Gorchymyn hwn—

(3Dim ond i awdurdodau gwella Cymreig sy'n awdurdodau tân ac achub yng Nghymru, wedi'u cyfansoddi gan gynllun o dan adran 2 o'r Ddeddf Gwasanaethau Tân ac Achub 2004(2) neu gynllun y mae adran 4 o'r Ddeddf honno'n gymwys iddo y mae'r Gorchymyn hwn yn gymwys.

Y dyddiad ar gyfer cyhoeddi cynllun gwella

2.  Rhaid i awdurdodau gwella Cymreig gyhoeddi eu cynllun gwella cyn gynted ag y bo'n rhesymol ymarferol ar ôl 30 Medi yn y flwyddyn cyn y flwyddyn ariannol y mae'r cynllun gwella yn berthnasol iddi.

Carl Sargeant

Y Gweinidog dros Gyfiawnder Cymdeithasol a Llywodraeth Leol, un o Weinidogion Cymru

24 Chwefror 2010

Nodyn Esboniadol

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)

Mae Rhan 1 o Fesur Llywodraeth Leol (Cymru) 2009 yn gosod dyletswydd ar awdurdodau lleol ac awdurdodau eraill i gyhoeddi cynllun (sy'n cael ei alw'n “gynllun gwella” yn y Gorchymyn hwn) ar gyfer cyflawni eu dyletswyddau o dan adrannau 2(1), 3(2) ac 8(7) o'r Mesur ar gyfer pob blwyddyn ariannol.

Mae'r Gorchymyn hwn yn pennu erbyn pa ddyddiad y mae'n rhaid i gynllun gwella awdurdod tân ac achub ar gyfer blwyddyn ariannol gael ei gyhoeddi.

Mae asesiad effaith rheoleiddiol wedi'i baratoi mewn cysylltiad â'r Gorchymyn hwn. Gellir cael copi oddi wrth y Gangen Gwasanaethau Tân ac Achub, Yr Is-adran Diogelwch Cymunedol, Llywodraeth Cynulliad Cymru, Rhyd-y-car, Merthyr Tudful CF48 1UZ (ffôn 01685 729221).