Chwilio Deddfwriaeth

Rheoliadau Ffedereiddio Ysgolion a Gynhelir a Diwygiadau Amrywiol (Cymru) 2010

 Help about what version

Pa Fersiwn

Statws

Dyma’r fersiwn wreiddiol (fel y’i gwnaed yn wreiddiol). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.

Nodyn Esboniadol

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)

Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys i ffederasiynau a gyfansoddir o bob categori o ysgolion yng Nghymru.

Mae Rhan 1 yn darparu bod y Rheoliadau i ddod i rym ar 12 Ebrill 2010 ac yn cynnwys darpariaethau deongliadol.

Mae Rhan 2 yn nodi dan ba amgylchiadau y ceir sefydlu ffederasiwn neu y caiff ysgol ymuno â ffederasiwn sy'n bod eisoes. Caiff o leiaf ddwy ysgol ffedereiddio yn unol ag adran 24 o Ddeddf Addysg 2002.

Mae rheoliadau 4 i 9 yn nodi'r weithdrefn ar gyfer ffedereiddio cyrff llywodraethu ysgolion a gynhelir, gan gynnwys amgylchiadau pan fo ffederasiwn yn dymuno ymuno â ffederasiwn arall i ffurfio ffederasiwn newydd a phan fo ysgol newydd yn dymuno ymuno â ffederasiwn. Mae rheoliad 9 ac Atodlen 1 yn galluogi ysgolion newydd sy'n bwriadu bod yn ysgolion ffederal i gael corff llywodraethu sengl dros dro.

Mae rheoliad 10 yn darparu y bydd cyrff llywodraethu'r ysgolion unigol yn cael eu diddymu a chorff llywodraethu'r ffederasiwn yn cael ei ymgorffori ar y dyddiad ffedereiddio. Trosglwyddir yr holl dir, eiddo, hawliau a rhwymedigaethau perthnasol i gorff llywodraethu'r ffederasiwn.

Mae Rhan 3 yn disgrifio'r gwahanol fathau o lywodraethwr. Mae rheoliad 11 ac Atodlen 2 yn ymdrin â rhiant-lywodraethwyr ac yn nodi ar ba sail y'u hetholir neu eu penodir.

Mae rheoliad 12 yn ymdrin ag athro-lywodraethwyr a rheoliad 13 yn ymdrin â staff-lywodraethwyr nad ydynt yn athrawon. Mae'r pennaeth yn llywodraethwr yn rhinwedd ei safle ond caiff ymddiswyddo o'i swydd fel llywodraethwr (neu dynnu'n ôl ei ymddiswyddiad) ar unrhyw adeg. Mae Atodlen 3 yn nodi'r broses ar gyfer ethol staff-lywodraethwyr.

Mae rheoliad 14 yn ymdrin â phenodi llywodraethwyr awdurdod lleol.

Mae rheoliad 15 yn nodi pwy sy'n gymwys i'w benodi yn llywodraethwr cymunedol ac yn llywodraethwr cymunedol ychwanegol.

Mae rheoliad 16 yn ymdrin â phenodi llywodraethwyr sefydledig, gan gynnwys llywodraethwyr sefydledig ex officio a dirprwy-lywodraethwyr. Mae rheoliad 17 ac Atodlen 4 yn darparu ar gyfer enwebu a phenodi llywodraethwyr partneriaeth ac mae rheoliad 18 ac Atodlen 5 yn darparu ar gyfer enwebu a phenodi noddwr-lywodraethwyr. Mae penodi noddwr-lywodraethwyr yn opsiynol.

Mae rheoliad 19 ac Atodlen 6 yn darparu ar gyfer enwebu a phenodi llywodraethwyr cynrychiadol.

Mae rheoliad 20 yn darparu ar gyfer penodi disgybl-lywodraethwyr cyswllt.

Mae Rhan 4 yn nodi'r egwyddorion cyffredinol y mae maint a chyfansoddiad cyrff llywodraethu ffederasiynau i'w penderfynu yn unol â hwy. Yn rheoliadau 22 i 28 nodir y gofynion penodol ar gyfer cyfansoddi cyrff llywodraethu ffederasiynau, sy'n dibynnu ar y mathau o ysgolion sy'n cyfansoddi'r ffederasiwn.

Mae Rhan 5 yn ymdrin â chymwysiadau a thymor gwasanaethu. Mae rheoliad 32 ac Atodlen 7 yn nodi o dan ba amgylchiadau yr anghymhwysir llywodraethwr rhag sefyll i'w ethol, neu ei benodi, neu barhau mewn swydd fel llywodraethwr.

Mae rheoliad 33 yn darparu (gyda rhai eithriadau) mai tymor gwasanaethu hwyaf llywodraethwr yw 4 blynedd. Os digwydd bod llywodraethwr sefydledig ex officio yn analluog neu'n anfodlon i ymgymryd â'r swydd, ceir penodi dirprwy-lywodraethwr. Mae rheoliad 34 yn pennu'r weithdrefn ar gyfer ymddiswyddo o fod yn llywodraethwr. Mae rheoliadau 35 i 38 yn darparu ar gyfer diswyddo llywodraethwyr a benodwyd (yn hytrach nag a etholwyd) i'w swyddi.

Mae Rhan 6 yn ymdrin â'r weithdrefn ar gyfer gwneud, adolygu ac amrywio offerynnau llywodraethu ac â chynnwys yr offerynnau. Mae rheoliad 44 yn cymhwyso darpariaethau yn Rheoliadau Staffio Ysgolion a Gynhelir (Cymru) 2006, a rheoliad 45 yn cymhwyso darpariaethau yn Rheoliadau Cynghorau Ysgol (Cymru) 2005, i gyrff llywodraethu ffederasiynau, ac i lywodraethwyr, pan fo rhai addasiadau yn ofynnol, fel a nodir yn Atodlenni 8 a 9, yn eu trefn.

Mae Rhan 7 yn ymdrin â phenodi a diswyddo swyddogion y corff llywodraethu ffederal, ac â'u swyddogaethau. Mae rheoliad 48 yn ymdrin â dirprwyo swyddogaethau i'r cadeirydd neu'r is-gadeirydd mewn achosion brys. O dan reoliad 50 mae'n ofynnol bod y corff llywodraethu ffederal yn penodi clerc i'r corff llywodraethu, ac y mae pŵer gan y corff llywodraethu ffederal i ddiswyddo'r clerc ar unrhyw adeg. Mae rheoliad 51 yn nodi swyddogaethau clerc y corff llywodraethu ffederal.

Mae Rhan 8 yn darparu ar gyfer cyfarfodydd a thrafodion y corff llywodraethu ffederal. Cynhwysir darpariaethau yn y Rhan hon ar gyfer mynediad i gyfarfodydd, cynnull cyfarfodydd, cworwm, cofnodion a chyhoeddi'r cofnodion. Rhaid gwneud pob penderfyniad ar unrhyw fater drwy fwyafrif o'r llywodraethwyr sy'n pleidleisio.

Mae rheoliad 58 yn nodi o dan ba amgylchiadau y ceir atal llywodraethwr rhag mynd i gyfarfodydd am hyd at 6 mis. Mae rheoliadau 59 i 61 yn ymwneud â dirprwyo swyddogaethau'r corff llywodraethu ffederal.

Mae Rhan 9 yn ymdrin â sefydlu pwyllgorau'r cyrff llywodraethu ffederal a'u trafodion, gan gynnwys y trefniadau clercio, cynnull cyfarfodydd, cworwm, pleidleisio a chyhoeddi cofnodion.

Mae Rhan 10 ac Atodlen 10 yn ymdrin â gwrthdrawiadau buddiannau a'r amgylchiadau pan fo rhaid i lywodraethwyr ac eraill, y byddai hawl ganddynt fel arall i fod yn bresennol mewn cyfarfodydd o'r corff llywodraethu ffederal neu ei bwyllgorau, adael y cyfarfod a pheidio â phleidleisio. Pan fo gwrthdrawiad rhwng buddiannau person o'r fath a buddiannau'r corff llywodraethu ffederal, neu pan fo egwyddorion cyfiawnder naturiol yn galw am wrandawiad teg a bod unrhyw amheuaeth resymol ynghylch gallu'r person hwnnw i weithredu yn ddiduedd yr egwyddor gyffredinol yw y dylai'r person hwnnw adael y cyfarfod a pheidio â phleidleisio.

Mae Rhan 11 yn ymdrin â materion gwybodaeth a chyllido. Mae rheoliad 73 yn darparu bod rhaid i gyrff llywodraethu pob ysgol a fydd yn rhan o ffederasiwn ddarparu gwybodaeth benodedig i gynorthwyo corff llywodraethu'r ffederasiwn.

Mae rheoliad 74 yn cymhwyso Pennod 4 o Ran 2 o Ddeddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998 (“Deddf 1998”) i ffederasiynau yn ddarostyngedig i reoliad 75 sy'n addasu adran 50 o Ddeddf 1998 fel y mae'n gymwys i ysgolion ffederal a chyrff llywodraethu ffederasiynau. Mae'r adran 50 addasedig yn gymwys hyd nes sefydlir corff llywodraethu dros dro pan fo ysgol yn bwriadu gadael ffederasiwn neu pan ddiddymir ffederasiwn.

Mae Rhan 12 yn nodi'r weithdrefn sy'n ofynnol er mwyn i ysgol ffederal adael ffederasiwn.

Mae rheoliad 77 yn darparu, pan fo ysgol am adael ffederasiwn, bod rhaid i'r awdurdod lleol sefydlu corff llywodraethu dros dro a chyhoeddi offeryn llywodraethu mewn perthynas â'r ysgol honno ac adolygu offeryn llywodraethu'r ffederasiwn. O dan reoliad 78 caiff corff llywodraethu dros dro yr ysgol sy'n gadael y ffederasiwn wario ei gyfran ef o gyllideb a roddir ar gael gan yr awdurdod lleol.

Mae rheoliad 79 yn darparu ar gyfer ymgorffori corff llywodraethu yr ysgol sy'n gadael y ffederasiwn, ar y dyddiad dadffedereiddio ac mae rheoliad 80 yn ymdrin â throsglwyddo tir, eiddo, hawliau a rhwymedigaethau i gorff llywodraethu yr ysgol sy'n gadael y ffederasiwn.

Mae Rhan 13 yn pennu'r weithdrefn ar gyfer diddymu ffederasiwn. Rhaid i'r awdurdod lleol sefydlu corff llywodraethu dros dro ar gyfer pob ysgol yn y ffederasiwn a dyroddi offeryn llywodraethu mewn perthynas â phob ysgol.

Mae rheoliad 84 yn galluogi corff llywodraethu dros dro pob ysgol i wario'r gyfran o gyllideb a roddir ar gael iddo gan yr awdurdod lleol.

Mae rheoliad 85 yn darparu ar gyfer ymgorffori (ar ddyddiad y diddymu) cyrff llywodraethu pob ysgol a oedd gynt yn y ffederasiwn a ddiddymwyd ac mae rheoliad 86 yn ymdrin â throsglwyddo tir, eiddo, hawliau a rhwymedigaethau i gyrff llywodraethu pob un o'r ysgolion hynny.

Mae Rhan 14 yn diwygio Rheoliadau Llywodraethu Ysgolion a Gynhelir (Cymru) 2005 (O.S. 2005/2914 (Cy.211)) a Rheoliadau Addysg (Cyrff Sefydledig) (Cymru) 2001 (O.S. 2001/2709 (Cy.228)).

Yn ôl i’r brig

Options/Help

Print Options

Close

Mae deddfwriaeth ar gael mewn fersiynau gwahanol:

Y Diweddaraf sydd Ar Gael (diwygiedig):Y fersiwn ddiweddaraf sydd ar gael o’r ddeddfwriaeth yn cynnwys newidiadau a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol ac wedi eu gweithredu gan ein tîm golygyddol. Gellir gweld y newidiadau nad ydym wedi eu gweithredu i’r testun eto yn yr ardal ‘Newidiadau i Ddeddfwriaeth’. Dim ond yn Saesneg y mae’r fersiwn ddiwygiedig ar gael ar hyn o bryd.

Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed) - Saesneg: Mae'r wreiddiol Saesneg fersiwn y ddeddfwriaeth fel ag yr oedd pan gafodd ei deddfu neu eu gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.

Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed)-Cymraeg:Y fersiwn Gymraeg wreiddiol o’r ddeddfwriaeth fel yr oedd yn sefyll pan gafodd ei deddfu neu ei gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.

Close

Dewisiadau Agor

Dewisiadau gwahanol i agor deddfwriaeth er mwyn gweld rhagor o gynnwys ar y sgrin ar yr un pryd

Close

Rhagor o Adnoddau

Gallwch wneud defnydd o ddogfennau atodol hanfodol a gwybodaeth ar gyfer yr eitem ddeddfwriaeth o’r tab hwn. Yn ddibynnol ar yr eitem ddeddfwriaeth sydd i’w gweld, gallai hyn gynnwys:

  • y PDF print gwreiddiol y fel deddfwyd fersiwn a ddefnyddiwyd am y copi print
  • rhestr o newidiadau a wnaed gan a/neu yn effeithio ar yr eitem hon o ddeddfwriaeth
  • manylion rhoi grym a newid cyffredinol
  • pob fformat o’r holl ddogfennau cysylltiedig
  • slipiau cywiro
  • dolenni i ddeddfwriaeth gysylltiedig ac adnoddau gwybodaeth eraill
Close

Rhagor o Adnoddau

Defnyddiwch y ddewislen hon i agor dogfennau hanfodol sy’n cyd-fynd â’r ddeddfwriaeth a gwybodaeth am yr eitem hon o ddeddfwriaeth. Gan ddibynnu ar yr eitem o ddeddfwriaeth sy’n cael ei gweld gall hyn gynnwys:

  • y PDF print gwreiddiol y fel gwnaed fersiwn a ddefnyddiwyd am y copi print
  • slipiau cywiro

liciwch ‘Gweld Mwy’ neu ddewis ‘Rhagor o Adnoddau’ am wybodaeth ychwanegol gan gynnwys

  • rhestr o newidiadau a wnaed gan a/neu yn effeithio ar yr eitem hon o ddeddfwriaeth
  • manylion rhoi grym a newid cyffredinol
  • pob fformat o’r holl ddogfennau cysylltiedig
  • dolenni i ddeddfwriaeth gysylltiedig ac adnoddau gwybodaeth eraill