- Y Diweddaraf sydd Ar Gael (Diwygiedig) - Saesneg
- Y Diweddaraf sydd Ar Gael (Diwygiedig) - Cymraeg
- Gwreiddiol (Fel y'i Gwnaed) - Saesneg
- Gwreiddiol (Fel y'i Gwnaed) - Cymraeg
Dyma’r fersiwn wreiddiol (fel y’i gwnaed yn wreiddiol). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.
81.—(1) Os yw—
(a)corff llywodraethu ffederasiwn yn penderfynu y dylid diddymu'r ffederasiwn; neu os yw
(b)corff llywodraethu ffederasiwn yn penderfynu y dylai un o'r unig ddwy ysgol ffederal adael y ffederasiwn,
rhaid i gorff llywodraethu'r ffederasiwn roi hysbysiad o'r ffaith ac o'r dyddiad diddymu arfaethedig i'r personau a grybwyllir ym mharagraff (2), o fewn pedwar ar ddeg o ddiwrnodau gwaith clir.
(2) Y personau sydd i'w hysbysu yw—
(a)pob awdurdod lleol perthnasol;
(b)pennaeth y ffederasiwn a phob pennaeth ysgol ffederal;
(c)pob aelod o'r staff y telir iddo am weithio yn y ffederasiwn neu mewn ysgol ffederal;
(ch)pob person y gŵyr y corff llywodraethu ei fod yn rhiant disgybl cofrestredig mewn un o'r ysgolion ffederal;
(d)pan fo ysgol ffederal yn ysgol sefydledig neu wirfoddol sydd â sefydliad crefyddol, y llywodraethwyr sefydledig, unrhyw ymddiriedolwyr ymddiriedolaeth sy'n ymwneud â'r ysgol ffederal ac, yn achos ysgol yr Eglwys yng Nghymru neu'r Eglwys Gatholig Rufeinig, yr awdurdod esgobaethol priodol, neu'r corff crefyddol priodol yn achos pob ysgol arall o'r fath;
(dd)pob undeb llafur y gwyddant bod ganddo aelodau y telir iddynt am weithio mewn unrhyw un o'r ysgolion; ac
(e)pa bynnag bersonau eraill a ystyrir yn briodol gan gorff llywodraethu'r ffederasiwn.
82. Ar ôl derbyn yr hysbysiad a roddir o dan reoliad 81, rhaid i'r awdurdod lleol neu awdurdodau lleol perthnasol—
(a)sefydlu corff llywodraethu dros dro mewn perthynas â phob ysgol yn unol â Rhannau 3 a 4 o'r Rheoliadau Ysgolion a Gynhelir Newydd; a
(b)dyroddi offeryn llywodraethu newydd ar gyfer pob ysgol yn unol â Rhan 5 o'r Rheoliadau Llywodraethu Ysgolion a Gynhelir.
83. At ddibenion rheoliad 82(b)—
(a)trinnir y cyfeiriad yn rheoliad 32 o'r Rheoliadau Llywodraethu Ysgolion a Gynhelir at “gyrff llywodraethu” fel pe bai'n gyfeiriad at “gyrff llywodraethu dros dro”; a
(b)trinnir y cyfeiriadau yn rheoliad 34 o'r Rheoliadau Llywodraethu Ysgolion a Gynhelir at—
(i)“corff llywodraethu” fel pe baent yn gyfeiriadau at “gorff llywodraethu dros dro”; a
(ii)“llywodraethwyr sefydledig” fel pe baent yn gyfeiriadau at “lywodraethwyr sefydledig dros dro”.
84. Yn ddarostyngedig i unrhyw ddarpariaeth a wneir gan, neu o dan, gynllun a wnaed o dan adran 48(1) o Ddeddf 1998, caiff corff llywodraethu dros dro pob un o'r ysgolion wario unrhyw swm a roddwyd ar gael gan yr awdurdod lleol o dan adran 50(1) o'r Ddeddf honno(1) i gorff llywodraethu'r ffederasiwn mewn perthynas â phob ysgol, fel y gwêl yn dda at unrhyw ddibenion yr ysgol honno.
85. Ar y dyddiad diddymu ymgorfforir corff llywodraethu dros dro pob ysgol ffederal, yn gorff llywodraethu pob ysgol a ddadffedereiddiwyd, o dan yr enw a roddir yn offeryn llywodraethu yr ysgol.
86.—(1) Ar y dyddiad diddymu—
(a)mae'r holl dir neu eiddo a ddelid yn union cyn y dyddiad diddymu gan gorff llywodraethu'r ffederasiwn at ddibenion pob ysgol a ddadffedereiddiwyd yn trosglwyddo i gorff llywodraethu newydd pob ysgol a ddadffedereiddiwyd, ac yn rhinwedd y Rheoliadau hyn yn cael ei freinio yn y corff llywodraethu newydd hwnnw a ymgorfforwyd o dan reoliad 85; a
(b)mae'r holl hawliau a rhwymedigaethau a oedd yn bodoli yn union cyn y dyddiad diddymu ac a gaffaelwyd gan, neu a achoswyd i, gorff llywodraethu'r ffederasiwn at ddibenion pob ysgol a ddadffedereiddiwyd, yn trosglwyddo i gorff llywodraethu newydd pob ysgol a ddadffedereiddiwyd, ac a ymgorfforwyd o dan reoliad 85.
(2) Mae adran 198 o Ddeddf Diwygio Addysg 1988(2) ac Atodlen 10 i'r Ddeddf honno (sy'n gwneud darpariaeth mewn perthynas â throsglwyddo eiddo, hawliau a rhwymedigaethau) yn gymwys mewn perthynas â throsglwyddiadau a gyflawnir gan y rheoliad hwn fel y maent yn gymwys i drosglwyddiadau y mae'r adran ac Atodlen hynny yn gymwys iddynt.
Fel y'i haddaswyd gan reoliad 75 o'r Rheoliadau hyn.
Y Diweddaraf sydd Ar Gael (diwygiedig):Y fersiwn ddiweddaraf sydd ar gael o’r ddeddfwriaeth yn cynnwys newidiadau a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol ac wedi eu gweithredu gan ein tîm golygyddol. Gellir gweld y newidiadau nad ydym wedi eu gweithredu i’r testun eto yn yr ardal ‘Newidiadau i Ddeddfwriaeth’. Dim ond yn Saesneg y mae’r fersiwn ddiwygiedig ar gael ar hyn o bryd.
Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed) - Saesneg: Mae'r wreiddiol Saesneg fersiwn y ddeddfwriaeth fel ag yr oedd pan gafodd ei deddfu neu eu gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.
Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed)-Cymraeg:Y fersiwn Gymraeg wreiddiol o’r ddeddfwriaeth fel yr oedd yn sefyll pan gafodd ei deddfu neu ei gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.
Gallwch wneud defnydd o ddogfennau atodol hanfodol a gwybodaeth ar gyfer yr eitem ddeddfwriaeth o’r tab hwn. Yn ddibynnol ar yr eitem ddeddfwriaeth sydd i’w gweld, gallai hyn gynnwys:
Defnyddiwch y ddewislen hon i agor dogfennau hanfodol sy’n cyd-fynd â’r ddeddfwriaeth a gwybodaeth am yr eitem hon o ddeddfwriaeth. Gan ddibynnu ar yr eitem o ddeddfwriaeth sy’n cael ei gweld gall hyn gynnwys:
liciwch ‘Gweld Mwy’ neu ddewis ‘Rhagor o Adnoddau’ am wybodaeth ychwanegol gan gynnwys