- Y Diweddaraf sydd Ar Gael (Diwygiedig) - Saesneg
- Y Diweddaraf sydd Ar Gael (Diwygiedig) - Cymraeg
- Gwreiddiol (Fel y'i Gwnaed) - Saesneg
- Gwreiddiol (Fel y'i Gwnaed) - Cymraeg
Dyma’r fersiwn wreiddiol (fel y’i gwnaed yn wreiddiol). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.
39. Mewn perthynas â gwneud offerynnau llywodraethu, y materion yr ymdrinnir â hwy ynddynt, eu ffurf, ac adolygu ac amrywio'r cyfryw offerynnau, rhaid i gyrff llywodraethu ac awdurdodau lleol ystyried unrhyw ganllawiau a roddir o bryd i'w gilydd gan Weinidogion Cymru.
40.—(1) Rhaid i offeryn llywodraethu ar gyfer ffederasiwn nodi—
(a)enw'r ffederasiwn;
(b)enwau a chategorïau'r ysgolion ffederal o fewn y ffederasiwn;
(c)enw corff llywodraethu'r ffederasiwn;
(ch)yn ddarostyngedig i baragraff (4), y modd y cyfansoddir y corff llywodraethu yn unol â Rhan 4, gan bennu—
(i)nifer y llywodraethwyr ym mhob categori o lywodraethwr;
(ii)y categorïau o bersonau, o'u plith neu o blith eu haelodau, yr awdurdodir enwebu unrhyw lywodraethwr cymunedol ychwanegol neu noddwr-lywodraethwr ar gyfer ei benodi gan y Rheoliadau hyn; a
(iii)cyfanswm nifer aelodau'r corff llywodraethu;
(d)os yw cyfnod swydd unrhyw gategori o lywodraethwr i fod yn llai na phedair blynedd, cyfnod y swydd honno;
(dd)os oes gan y ffederasiwn lywodraethwyr sefydledig—
(i)enw unrhyw berson sydd â'r hawl i benodi llywodraethwyr o'r fath ac, os oes mwy nag un person o'r fath â'r hawl i benodi, y sail ar gyfer gwneud penodiadau o'r fath;
(ii)manylion unrhyw swydd llywodraethwr sefydledig sydd i'w dal ex officio gan ddeiliad swydd a enwir; a
(iii)enw unrhyw berson sydd â'r hawl i ddiswyddo unrhyw lywodraethwr sefydledig ex officio a phenodi unrhyw ddirprwy lywodraethwr;
(e)os yw'r ffederasiwn yn cynnwys ysgol arbennig gymunedol, enw unrhyw gorff priodol neu sefydliad gwirfoddol priodol sydd â'r hawl i enwebu person i'w benodi yn llywodraethwr cynrychioladol o dan Atodlen 6;
(f)os oes ymddiriedolaeth yn gysylltiedig ag ysgol ffederal, y ffaith honno;
(ff)os yw ysgol ffederal yn ysgol sefydledig neu'n ysgol wirfoddol a ddynodir o dan adran 69(3) o Ddeddf 1998 fel un sy'n meddu ar gymeriad crefyddol, disgrifiad unigol o ethos crefyddol pob ysgol o'r fath; ac
(g)y dyddiad y daw'r offeryn llywodraethu i rym.
(2) Rhaid i'r modd y cyfansoddir y corff llywodraethu, fel y'i nodir yn unol ag is-baragraff (1)(ch), gydymffurfio â darpariaethau'r Rheoliadau hyn.
(3) Rhaid i'r offeryn llywodraethu (yn ddarostyngedig i unrhyw ddarpariaeth statudol) gydymffurfio ag unrhyw ymddiriedolaeth sy'n gysylltiedig ag ysgol ffederal.
(4) Nid yw is-baragraffau (ch) a (d) o baragraff (1) yn gymwys i ddisgybl-lywodraethwyr cyswllt.
41.—(1) Yn y rheoliad hwn, pan gyfeirir at awdurdod lleol a phan fo'r ffederasiwn i gynnwys ysgolion a gynhelir gan wahanol awdurdodau lleol, rhaid dehongli'r cyfeiriad fel cyfeiriad at ba un bynnag o'r awdurdodau lleol hynny y mae cyrff llywodraethu'r ysgolion yn cytuno rhyngddynt y dylai wneud yr offeryn llywodraethu ar gyfer y ffederasiwn.
(2) Rhaid i gyrff llywodraethu'r ysgolion sydd i ffurfio'r ffederasiwn baratoi offeryn llywodraethu drafft ar y cyd a'i gyflwyno i'r awdurdod lleol.
(3) Os bydd gan y ffederasiwn lywodraethwyr sefydledig, rhaid i gyrff llywodraethu'r ffederasiwn arfaethedig beidio â chyflwyno'r drafft i'r awdurdod lleol hyd nes bydd wedi ei gymeradwyo mewn perthynas â phob ysgol sefydledig neu wirfoddol gan—
(a)lywodraethwyr sefydledig yr ysgol honno;
(b)ymddiriedolwyr o unrhyw ymddiriedolaeth sy'n gysylltiedig ag ysgol o'r fath;
(c)yn achos un o ysgolion yr Eglwys yng Nghymru neu'r Eglwys Gatholig Rufeinig, yr awdurdod esgobaethol priodol; ac
(ch)yn achos unrhyw ysgol arall a ddynodir o dan adran 69(3) o Ddeddf 1998 fel un sy'n meddu ar gymeriad crefyddol, y corff crefyddol priodol.
(4) Os—
(a)yw'r awdurdod lleol yn fodlon bod y drafft yn cydymffurfio â'r holl ddarpariaethau cymwys; neu
(b)os oes cytundeb rhwng yr awdurdod lleol, y cyrff llywodraethu a'r personau (pan fo gan y ffederasiwn lywodraethwyr sefydledig) a grybwyllir ym mharagraff (3), y dylid diwygio'r drafft i unrhyw raddau a bod y drafft diwygiedig yn cydymffurfio â phob un o'r darpariaethau statudol sy'n gymwys;
rhaid i'r offeryn llywodraethu gael ei wneud gan yr awdurdod lleol ar ffurf y drafft neu (yn ôl fel y digwydd) ar ffurf y drafft diwygiedig.
(5) Yn achos ffederasiwn y bydd ganddo lywodraethwyr sefydledig, os bydd y personau a grybwyllir ym mharagraff (3) yn anghytuno ar unrhyw adeg ynglŷn â chynnwys y drafft, caiff unrhyw un neu unrhyw rai o'r personau hynny gyfeirio'r drafft at Weinidogion Cymru, a rhaid i'r Gweinidogion roi cyfarwyddyd fel y gwelant yn dda, gan ystyried yn benodol y categorïau o ysgolion y bwriedir eu cynnwys yn y ffederasiwn.
(6) Os nad yw'r naill na'r llall o is-baragraffau (a) a (b) o baragraff (4) yn gymwys yn achos ffederasiwn na fydd ganddo lywodraethwyr sefydledig, rhaid i'r awdurdod lleol—
(a)roi gwybod i gorff llywodraethu y ffederasiwn pam nad yw'n fodlon â'r offeryn llywodraethu drafft; a
(b)rhoi cyfle rhesymol i gorff llywodraethu y ffederasiwn ddod i gytundeb ag ef ynghylch diwygio'r drafft;
a rhaid i'r offeryn llywodraethu gael ei wneud gan yr awdurdod lleol naill ai ar ffurf drafft diwygiedig y bydd ef a chorff llywodraethu y ffederasiwn yn cytuno yn ei gylch neu (yn niffyg cytundeb o'r fath) ar ffurf fel y gwêl yn dda gan ystyried, yn benodol, y categorïau o ysgolion a gynhwysir yn y ffederasiwn.
42.—(1) Caiff y corff llywodraethu neu'r awdurdod lleol adolygu'r offeryn llywodraethu ar unrhyw adeg wedi iddo gael ei wneud.
(2) Os bydd y corff llywodraethu neu'r awdurdod lleol yn penderfynu wedi unrhyw adolygiad y dylid amrywio'r offeryn llywodraethu, rhaid i'r corff llywodraethu neu (yn ôl fel y digwydd) yr awdurdod lleol roi gwybod i'r llall am yr amrywiad a gynigir ganddo ynghyd â'i resymau dros gynnig amrywiad o'r fath.
(3) Pan fo'r corff llywodraethu wedi derbyn hysbysiad o dan baragraff (2), rhaid iddo hysbysu'r awdurdod lleol a yw'n fodlon â'r amrywiad a gynigir ai peidio ac, os nad yw'n fodlon, am ba resymau.
(4) Pan fo gan y ffederasiwn lywodraethwyr sefydledig, rhaid i'r corff llywodraethu beidio ag—
(a)rhoi i'r awdurdod lleol unrhyw hysbysiad o dan baragraff (2); na
(b)hysbysu'r awdurdod lleol o dan baragraff (3) ei fod yn fodlon â'r amrywiad a gynigir gan yr awdurdod lleol;
oni fo'r personau a restrir yn rheoliad 41(3) wedi cymeradwyo'r amrywiad a gynigir.
(5) Os—
(a)yw y corff llywodraethu neu'r awdurdod lleol, pa un bynnag sy'n cael hysbysiad o dan baragraff (2), yn cytuno â'r amrywiad a gynigir; neu
(b)os oes cytundeb rhwng yr awdurdod lleol, y corff llywodraethu a'r personau eraill (pan fo gan y ffederasiwn lywodraethwyr sefydledig) a restrir yn rheoliad 41(3) y dylid gwneud rhyw amrywiad arall yn hytrach;
rhaid i'r awdurdod lleol amrywio'r offeryn llywodraethu yn unol â hynny.
(6) Yn achos ffederasiwn sydd â llywodraethwyr sefydledig, os bydd y personau a restrir yn rheoliad 41(3) yn anghytuno ar unrhyw adeg ynglŷn â'r amrywiad a gynigir, caiff unrhyw un neu unrhyw rai o'r personau hynny ei gyfeirio at Weinidogion Cymru ac o gyfeirio felly, rhaid i'r Gweinidogion roi cyfarwyddyd fel y gwelant yn dda, gan ystyried, yn benodol, y categorïau o ysgolion sydd yn y ffederasiwn.
(7) Os nad yw is-baragraffau (a) na (b) o baragraff (5) yn gymwys yn achos ffederasiwn nad oes ganddo lywodraethwyr sefydledig, rhaid i'r awdurdod lleol—
(a)rhoi gwybod i'r corff llywodraethu y rhesymau—
(i)pam nad yw'n fodlon â'r amrywiad a gynigir gan y corff llywodraethu neu, yn ôl fel y digwydd;
(ii)pam y mae'n dymuno mynd ymlaen â'i amrywiad ei hun; a
(b)rhoi cyfle rhesymol i'r corff llywodraethu ddod i gytundeb ag ef mewn perthynas â'r amrywiad;
a rhaid i'r offeryn llywodraethu gael ei amrywio ganddo naill ai yn y modd y cytunwyd arno rhyngddo a'r corff llywodraethu neu (yn niffyg cytundeb o'r fath) mewn modd fel y gwêl yn dda gan ystyried, yn arbennig, y categorïau o ysgolion sydd yn y ffederasiwn.
(8) Ni ddylid dehongli dim yn y rheoliad hwn i olygu ei bod yn ofynnol i'r awdurdod lleol amrywio'r offeryn llywodraethu os na chred ei bod yn briodol gwneud hynny.
(9) Pan amrywir offeryn llywodraethu o dan y rheoliad hwn rhaid i'r offeryn nodi'r dyddiad y daw'r amrywiad i rym.
43.—(1) Rhaid i'r awdurdod lleol sicrhau y darperir (yn ddi-dâl) i'r personau a nodir ym mharagraff (2)–
(a)copi o offeryn llywodraethu'r ffederasiwn; a
(b)os gwneir unrhyw amrywiad i offeryn llywodraethu'r ffederasiwn, fersiwn gyfunol o'r offeryn llywodraethu yn ymgorffori pob amrywiad a wnaed gan yr awdurdod lleol (ac eithrio unrhyw amrywiadau nad ydynt bellach mewn grym).
(2) I'r personau canlynol y dylid darparu'r wybodaeth y cyfeirir ati ym mharagraff (1)—
(a)pob aelod o gorff llywodraethu'r ffederasiwn;
(b)pennaeth y ffederasiwn neu bennaeth pob ysgol ffederal, pa un a yw'r pennaeth yn aelod o'r corff llywodraethu ai peidio;
(c)ymddiriedolwyr unrhyw ymddiriedolaeth sy'n gysylltiedig ag ysgol ffederal;
(ch)yn achos un o ysgolion ffederal yr Eglwys yng Nghymru neu ysgol ffederal yr Eglwys Gatholig Rufeinig, yr awdurdod esgobaethol priodol;
(d)yn achos unrhyw ysgol ffederal arall a ddynodir o dan adran 69(3) o Ddeddf 1998 fel un sy'n meddu ar gymeriad crefyddol, y corff crefyddol priodol; ac
(dd)Gweinidogion Cymru.
44. Mae'r Rheoliadau Staffio yn gymwys i staffio ffederasiynau, yn ddarostyngedig i'r addasiadau yn Atodlen 8.
45. Mae'r Rheoliadau Cynghorau Ysgol yn gymwys i gorff llywodraethu ffederasiwn ac i'w aelodau, yn ddarostyngedig i'r addasiadau yn Atodlen 9.
46.—(1) Mae corff llywodraethu ffederasiwn sy'n cynnwys ysgol sefydledig, ysgol wirfoddol neu ysgol arbennig sefydledig yn elusen sy'n elusen esempt at ddibenion Deddf Elusennau 1993(1), ond nid yw corff llywodraethu unrhyw ffederasiwn yn elusen os yw'r ffederasiwn yn cynnwys, yn unig, ysgolion cymunedol, ysgolion arbennig cymunedol neu ysgolion meithrin a gynhelir.
(2) Cyn belled ag y bo'n elusen, rhaid i unrhyw sefydliad—
(a)a weinyddir gan neu ar ran unrhyw gorff llywodraethu ffederasiwn sy'n cynnwys ysgol sefydledig, ysgol wirfoddol neu ysgol arbennig sefydledig; a
(b)a sefydlwyd at ddibenion cyffredinol, neu unrhyw bwrpas arbennig, neu mewn cysylltiad â'r corff hwnnw neu'r ffederasiwn hwnnw neu unrhyw ysgol sefydledig, ysgol wirfoddol neu ysgol arbennig sefydledig o fewn y ffederasiwn hwnnw;
hefyd fod yn elusen esempt at ddibenion Deddf Elusennau 1993.
(3) Yn y rheoliad hwn, mae i “elusen” a “sefydliad” yr un ystyron ag y sydd i “charity” ac “institution”, yn eu trefn, yn Neddf Elusennau 1993.
Y Diweddaraf sydd Ar Gael (diwygiedig):Y fersiwn ddiweddaraf sydd ar gael o’r ddeddfwriaeth yn cynnwys newidiadau a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol ac wedi eu gweithredu gan ein tîm golygyddol. Gellir gweld y newidiadau nad ydym wedi eu gweithredu i’r testun eto yn yr ardal ‘Newidiadau i Ddeddfwriaeth’. Dim ond yn Saesneg y mae’r fersiwn ddiwygiedig ar gael ar hyn o bryd.
Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed) - Saesneg: Mae'r wreiddiol Saesneg fersiwn y ddeddfwriaeth fel ag yr oedd pan gafodd ei deddfu neu eu gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.
Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed)-Cymraeg:Y fersiwn Gymraeg wreiddiol o’r ddeddfwriaeth fel yr oedd yn sefyll pan gafodd ei deddfu neu ei gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.
Gallwch wneud defnydd o ddogfennau atodol hanfodol a gwybodaeth ar gyfer yr eitem ddeddfwriaeth o’r tab hwn. Yn ddibynnol ar yr eitem ddeddfwriaeth sydd i’w gweld, gallai hyn gynnwys:
Defnyddiwch y ddewislen hon i agor dogfennau hanfodol sy’n cyd-fynd â’r ddeddfwriaeth a gwybodaeth am yr eitem hon o ddeddfwriaeth. Gan ddibynnu ar yr eitem o ddeddfwriaeth sy’n cael ei gweld gall hyn gynnwys:
liciwch ‘Gweld Mwy’ neu ddewis ‘Rhagor o Adnoddau’ am wybodaeth ychwanegol gan gynnwys