xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"
53. Rhaid i'r corff llywodraethu allgáu disgybl-lywodraethwyr cyswllt o unrhyw drafodaeth gan y corff llywodraethu sy'n ymwneud ag:
(a)penodiadau staff, tâl y staff, disgyblu staff, rheoli perfformiad y staff, achwyniadau a gyflwynir gan y staff neu ddiswyddo staff;
(b)derbyn disgyblion;
(c)disgyblu disgyblion unigol;
(ch)ethol, penodi a diswyddo llywodraethwyr;
(d)y gyllideb ac ymrwymiadau ariannol y corff llywodraethu;
(dd)yn achos ysgol wirfoddol ffederal a gynorthwyir, y weithred ymddiriedolaeth sy'n ymwneud â'r ysgol honno; neu
(e)unrhyw fater arall y bodlonir y corff llywodraethu ei fod, oherwydd ei natur, yn gyfrinachol ac y dylai barhau yn gyfrinachol.