Rheoliadau Ffedereiddio Ysgolion a Gynhelir a Diwygiadau Amrywiol (Cymru) 2010

Adrodd wrth y corff llywodraethu ar ôl arfer swyddogaethau dirprwyedig

61.—(1Mae'r rheoliad hwn yn gymwys pan fo unrhyw swyddogaeth o eiddo'r corff llywodraethu wedi ei dirprwyo i'r canlynol neu'n arferadwy fel arall gan y canlynol—

(a)llywodraethwr (gan gynnwys y cadeirydd neu'r is-gadeirydd);

(b)pennaeth y ffederasiwn neu ysgol ffederal (pa un a yw'n llywodraethwr ai peidio); neu

(c)pwyllgor.

(2Rhaid i unrhyw unigolyn neu bwyllgor y dirprwywyd swyddogaeth corff llywodraethu iddo neu sydd fel arall wedi arfer swyddogaeth corff llywodraethu, adrodd wrth y corff llywodraethu ynghylch unrhyw gam a gymerwyd neu benderfyniad a wnaed mewn perthynas ag arfer y swyddogaeth honno.