xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"
63.—(1) Mae'r rheoliad hwn yn gymwys i bwyllgorau'r corff llywodraethu yn ddarostyngedig i reoliadau 64, 65 a 66.
(2) Rhaid i'r corff llywodraethu benderfynu ar gyfansoddiad, aelodaeth a chylch gwaith unrhyw bwyllgor y penderfyna ei sefydlu, a'u hadolygu'n flynyddol.
(3) Rhaid i'r corff llywodraethu benodi cadeirydd yn flynyddol ar bob pwyllgor neu raid i'r pwyllgor ei ethol, yn ôl penderfyniad y corff llywodraethu.
(4) Rhaid i bwyllgor ethol aelod o'r pwyllgor hwnnw i weithredu fel cadeirydd yn absenoldeb y cadeirydd a benodwyd o dan baragraff (3).
(5) Ni chaiff unrhyw berson a gyflogir i weithio yn y ffederasiwn neu mewn ysgol ffederal, nac un o ddisgyblion cofrestredig y ffederasiwn neu ysgol ffederal, weithredu fel cadeirydd pwyllgor.
(6) Caiff y corff llywodraethu ddiswyddo cadeirydd unrhyw bwyllgor ar unrhyw adeg.
(7) Caiff aelodaeth pwyllgor gynnwys disgybl-lywodraethwyr cyswllt a phersonau nad ydynt yn llywodraethwyr, a mater i'w benderfynu gan y corff llywodraethu yw i ba raddau y bydd gan y cyfryw aelodau hawl i bleidleisio.
(8) Rhaid i fwyafrif yr aelodau ar unrhyw bwyllgor fod yn llywodraethwyr, heb gynnwys unrhyw ddisgybl-lywodraethwyr cyswllt.