- Y Diweddaraf sydd Ar Gael (Diwygiedig) - Saesneg
- Y Diweddaraf sydd Ar Gael (Diwygiedig) - Cymraeg
- Gwreiddiol (Fel y'i Gwnaed) - Saesneg
- Gwreiddiol (Fel y'i Gwnaed) - Cymraeg
Dyma’r fersiwn wreiddiol (fel y’i gwnaed yn wreiddiol). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.
9.—(1) Mae Rhannau 1 i 3 a 5 i 7 o'r Rheoliadau Ysgolion Newydd a Gynhelir i fod yn gymwys i gorff llywodraethu dros dro a gyfansoddir yn unol â'r rheoliad hwn.
(2) Pan gynigir y dylai dwy neu ragor o ysgolion newydd ffedereiddio, gyda neu heb un neu ragor o ysgolion eraill neu ffederasiwn arall, caiff yr awdurdod lleol wneud trefniadau sy'n darparu ar gyfer cyfansoddi corff llywodraethu dros dro sengl ar gyfer yr ysgolion newydd hynny.
(3) Pan fo'r ffederasiwn a gynigir yn cynnwys ysgolion a gynhelir gan ddau neu ragor o awdurdodau lleol, rhaid i'r awdurdodau lleol hynny gytuno ymysg ei gilydd, pa awdurdod lleol gaiff wneud trefniadau sy'n darparu ar gyfer cyfansoddi corff llywodraethu dros dro sengl ar gyfer yr ysgolion newydd hynny.
(4) Pan fo un neu ragor o'r ysgolion newydd y cyfeirir atynt ym mharagraff (2) i fod yn ysgol sefydledig neu wirfoddol, y cyhoeddwyd cynigion ar gyfer eu sefydlu gan hyrwyddwyr, rhaid i'r awdurdod lleol ymgynghori â'r hyrwyddwyr ynglŷn ag—
(a)a ddylid arfer y pŵer a roddir i'r awdurdod lleol ym mharagraff (2); a
(b)os yw'r awdurdod lleol yn bwriadu arfer y pŵer, ar ba ddyddiad y dylid gwneud y trefniadau.
(5) Mae Atodlen 1 yn gymwys i gorff llywodraethu dros dro a gyfansoddir yn unol â'r rheoliad hwn.
Y Diweddaraf sydd Ar Gael (diwygiedig):Y fersiwn ddiweddaraf sydd ar gael o’r ddeddfwriaeth yn cynnwys newidiadau a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol ac wedi eu gweithredu gan ein tîm golygyddol. Gellir gweld y newidiadau nad ydym wedi eu gweithredu i’r testun eto yn yr ardal ‘Newidiadau i Ddeddfwriaeth’. Dim ond yn Saesneg y mae’r fersiwn ddiwygiedig ar gael ar hyn o bryd.
Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed) - Saesneg: Mae'r wreiddiol Saesneg fersiwn y ddeddfwriaeth fel ag yr oedd pan gafodd ei deddfu neu eu gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.
Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed)-Cymraeg:Y fersiwn Gymraeg wreiddiol o’r ddeddfwriaeth fel yr oedd yn sefyll pan gafodd ei deddfu neu ei gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.
Gallwch wneud defnydd o ddogfennau atodol hanfodol a gwybodaeth ar gyfer yr eitem ddeddfwriaeth o’r tab hwn. Yn ddibynnol ar yr eitem ddeddfwriaeth sydd i’w gweld, gallai hyn gynnwys:
Defnyddiwch y ddewislen hon i agor dogfennau hanfodol sy’n cyd-fynd â’r ddeddfwriaeth a gwybodaeth am yr eitem hon o ddeddfwriaeth. Gan ddibynnu ar yr eitem o ddeddfwriaeth sy’n cael ei gweld gall hyn gynnwys:
liciwch ‘Gweld Mwy’ neu ddewis ‘Rhagor o Adnoddau’ am wybodaeth ychwanegol gan gynnwys