- Y Diweddaraf sydd Ar Gael (Diwygiedig) - Saesneg
- Y Diweddaraf sydd Ar Gael (Diwygiedig) - Cymraeg
- Gwreiddiol (Fel y'i Gwnaed) - Saesneg
- Gwreiddiol (Fel y'i Gwnaed) - Cymraeg
Dyma’r fersiwn wreiddiol (fel y’i gwnaed yn wreiddiol). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.
Rheoliad 17
1. Pan fo'n ofynnol penodi llywodraethwr partneriaeth—
(a)rhaid i gorff llywodraethu ffederasiwn geisio enwebiadau gan rieni disgyblion cofrestredig mewn ysgolion yn y ffederasiwn nad oes ganddynt sefydliad a chan y cyfryw bersonau eraill y tybia'n briodol yn y gymuned a wasanaethir gan y ffederasiwn; a
(b)caiff corff llywodraethu ffederasiwn geisio enwebiadau gan rieni disgyblion cofrestredig mewn ysgolion eraill yn y ffederasiwn fel y tybia'n briodol.
2. Ni chaiff unrhyw berson enwebu i'w benodi, na phenodi, person yn llywodraethwr partneriaeth oni fyddai'r person hwnnw'n gymwys i'w benodi gan gorff llywodraethu'r ffederasiwn yn llywodraethwr cymunedol.
3.—(1) Yn achos ysgol arbennig sefydledig heb sefydliad, rhaid i gorff llywodraethu ffederasiwn benodi yn llywodraethwr partneriaeth o leiaf un person sydd â phrofiad o addysg ar gyfer plant ag anghenion addysgol arbennig, onid oes diffyg enwebai cymwys sydd â phrofiad o'r fath.
(2) Wrth geisio enwebiadau ar gyfer llywodraethwr partneriaeth mewn ysgolion arbennig sefydledig, rhaid i gorff llywodraethu'r ffederasiwn gymryd camau i sicrhau bod personau sy'n gwneud enwebiadau yn ymwybodol o'r gofyniad ym mharagraff (1).
4. Yn ddarostyngedig i baragraff 5(2), ni chaiff unrhyw lywodraethwr enwebu person i'w benodi'n llywodraethwr partneriaeth.
5.—(1) Rhaid i'r corff llywodraethu benodi pa bynnag nifer o lywodraethwyr partneriaeth sy'n ofynnol yn ôl yr offeryn llywodraethu o blith enwebeion cymwys.
(2) Os yw'r nifer o enwebeion cymwys yn llai na'r nifer o leoedd gwag, ceir cwblhau'r nifer o lywodraethwyr partneriaeth sy'n ofynnol â phobl a ddetholir gan gorff llywodraethu'r ffederasiwn.
6.—(1) Pan fo corff llywodraethu ffederasiwn yn gwneud penodiad o dan baragraff 5(2), ar ôl gwrthod unrhyw berson a enwebwyd o dan baragraff 1, rhaid iddo roi rhesymau ysgrifenedig dros ei benderfyniad i'r awdurdod lleol ac i'r person a wrthodwyd.
(2) Pan fo ffederasiwn yn cynnwys ysgolion a gynhelir gan ragor nag un awdurdod lleol rhaid dehongli'r cyfeiriad yn is-baragraff (1) at awdurdod lleol fel cyfeiriad at bob un o'r awdurdodau lleol.
7. Rhaid i gorff llywodraethu ffederasiwn wneud pob trefniant angenrheidiol ar gyfer enwebu a phenodi llywodraethwyr partneriaeth a phenderfynu ynghylch pob mater arall yn ymwneud â'u henwebu a'u penodi.
Y Diweddaraf sydd Ar Gael (diwygiedig):Y fersiwn ddiweddaraf sydd ar gael o’r ddeddfwriaeth yn cynnwys newidiadau a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol ac wedi eu gweithredu gan ein tîm golygyddol. Gellir gweld y newidiadau nad ydym wedi eu gweithredu i’r testun eto yn yr ardal ‘Newidiadau i Ddeddfwriaeth’. Dim ond yn Saesneg y mae’r fersiwn ddiwygiedig ar gael ar hyn o bryd.
Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed) - Saesneg: Mae'r wreiddiol Saesneg fersiwn y ddeddfwriaeth fel ag yr oedd pan gafodd ei deddfu neu eu gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.
Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed)-Cymraeg:Y fersiwn Gymraeg wreiddiol o’r ddeddfwriaeth fel yr oedd yn sefyll pan gafodd ei deddfu neu ei gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.
Gallwch wneud defnydd o ddogfennau atodol hanfodol a gwybodaeth ar gyfer yr eitem ddeddfwriaeth o’r tab hwn. Yn ddibynnol ar yr eitem ddeddfwriaeth sydd i’w gweld, gallai hyn gynnwys:
Defnyddiwch y ddewislen hon i agor dogfennau hanfodol sy’n cyd-fynd â’r ddeddfwriaeth a gwybodaeth am yr eitem hon o ddeddfwriaeth. Gan ddibynnu ar yr eitem o ddeddfwriaeth sy’n cael ei gweld gall hyn gynnwys:
liciwch ‘Gweld Mwy’ neu ddewis ‘Rhagor o Adnoddau’ am wybodaeth ychwanegol gan gynnwys