xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

Rheoliad 17

ATODLEN 4Penodi llywodraethwyr partneriaeth

1.  Pan fo'n ofynnol penodi llywodraethwr partneriaeth—

(a)rhaid i gorff llywodraethu ffederasiwn geisio enwebiadau gan rieni disgyblion cofrestredig mewn ysgolion yn y ffederasiwn nad oes ganddynt sefydliad a chan y cyfryw bersonau eraill y tybia'n briodol yn y gymuned a wasanaethir gan y ffederasiwn; a

(b)caiff corff llywodraethu ffederasiwn geisio enwebiadau gan rieni disgyblion cofrestredig mewn ysgolion eraill yn y ffederasiwn fel y tybia'n briodol.

2.  Ni chaiff unrhyw berson enwebu i'w benodi, na phenodi, person yn llywodraethwr partneriaeth oni fyddai'r person hwnnw'n gymwys i'w benodi gan gorff llywodraethu'r ffederasiwn yn llywodraethwr cymunedol.

3.—(1Yn achos ysgol arbennig sefydledig heb sefydliad, rhaid i gorff llywodraethu ffederasiwn benodi yn llywodraethwr partneriaeth o leiaf un person sydd â phrofiad o addysg ar gyfer plant ag anghenion addysgol arbennig, onid oes diffyg enwebai cymwys sydd â phrofiad o'r fath.

(2Wrth geisio enwebiadau ar gyfer llywodraethwr partneriaeth mewn ysgolion arbennig sefydledig, rhaid i gorff llywodraethu'r ffederasiwn gymryd camau i sicrhau bod personau sy'n gwneud enwebiadau yn ymwybodol o'r gofyniad ym mharagraff (1).

4.  Yn ddarostyngedig i baragraff 5(2), ni chaiff unrhyw lywodraethwr enwebu person i'w benodi'n llywodraethwr partneriaeth.

5.—(1Rhaid i'r corff llywodraethu benodi pa bynnag nifer o lywodraethwyr partneriaeth sy'n ofynnol yn ôl yr offeryn llywodraethu o blith enwebeion cymwys.

(2Os yw'r nifer o enwebeion cymwys yn llai na'r nifer o leoedd gwag, ceir cwblhau'r nifer o lywodraethwyr partneriaeth sy'n ofynnol â phobl a ddetholir gan gorff llywodraethu'r ffederasiwn.

6.—(1Pan fo corff llywodraethu ffederasiwn yn gwneud penodiad o dan baragraff 5(2), ar ôl gwrthod unrhyw berson a enwebwyd o dan baragraff 1, rhaid iddo roi rhesymau ysgrifenedig dros ei benderfyniad i'r awdurdod lleol ac i'r person a wrthodwyd.

(2Pan fo ffederasiwn yn cynnwys ysgolion a gynhelir gan ragor nag un awdurdod lleol rhaid dehongli'r cyfeiriad yn is-baragraff (1) at awdurdod lleol fel cyfeiriad at bob un o'r awdurdodau lleol.

7.  Rhaid i gorff llywodraethu ffederasiwn wneud pob trefniant angenrheidiol ar gyfer enwebu a phenodi llywodraethwyr partneriaeth a phenderfynu ynghylch pob mater arall yn ymwneud â'u henwebu a'u penodi.