xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

ATODLEN 7Cymwysiadau ac anghymwysiadau

Personau y gwaherddir eu cyflogi neu y cyfyngir ar eu cyflogi

9.  Anghymhwysir person rhag dal swydd neu barhau i ddal swydd llywodraethwr mewn ffederasiwn ar unrhyw adeg pan fo—

(a)wedi ei gynnwys yn y rhestr o athrawon a rhai fu'n gweithio gyda phlant neu bersonau ifanc y gwaherddir eu cyflogi neu y cyfyngir arnynt o dan adran 1 o Ddeddf Amddiffyn Plant 1999(1);

(b)yn destun cyfarwyddyd gan Weinidogion Cymru neu'r Ysgrifennydd Gwladol o dan adran 142 o Ddeddf 2002;

(c)wedi ei anghymhwyso rhag gweithio gyda phlant o dan adrannau 28, 29 neu 29A o Ddeddf Cyfiawnder Troseddol a Gwasanaethau Llysoedd 2000(2);

(ch)wedi ei anghymhwyso rhag cofrestru o dan Ran XA o Ddeddf Plant 1989(3) ar gyfer gwarchod plant neu ddarparu gofal dydd;

(d)wedi ei anghymhwyso rhag cofrestru o dan Ran 3 o Ddeddf Gofal Plant 2006(4);

(dd)wedi ei wahardd o weithgaredd a reoleiddir sy'n ymwneud â phlant yn unol ag adran 3(2) o Ddeddf Diogelu Grwpiau Hyglwyf 2006(5);

(e)yn destun cyfarwyddyd gan yr awdurdod priodol o dan adran 167A o Ddeddf 2002(6); neu

(f)wedi'i anghymhwyso, yn rhinwedd gorchymyn a wnaed o dan adran 470 neu adran 471 o Ddeddf 1996, rhag bod yn berchennog unrhyw ysgol annibynnol neu rhag bod yn athro neu athrawes neu gyflogai arall mewn unrhyw ysgol.

(1)

1999 p.14; fel y'i diwygiwyd gan Ddeddf Safonau Gofal 2000 (p.14).

(6)

Mewnosodwyd adran 167A gan adran 169 o Ddeddf Addysg ac Arolygiadau 2006 (p.40) ond nid yw eto mewn grym.