Rheoliadau Cyflenwadau Dŵr Preifat (Cymru) 2010

Nodyn Esboniadol

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)

Mae'r Rheoliadau hyn yn gweithredu Cyfarwyddeb y Cyngor 98/83/EC ar ansawdd dŵr a fwriedir i'w yfed gan bobl, (OJ Rhif 330, 5.12.1998, t. 32) mewn perthynas â chyflenwadau dŵr preifat. Maent yn dirymu ac yn disodli Rheoliadau Cyflenwadau Dŵr Preifat 1991 (O.S. 1991/2790). Diffinnir “cyflenwad preifat” yn adran 93(1) o Ddeddf y Diwydiant Dŵr 1991 fel cyflenwad a ddarperir yw fodd ac eithrio gan ymgymerwr dŵr neu gyflenwr dŵr trwyddedig.

Mae Rhan 1 o'r Rheoliadau yn gwneud darpariaeth amrywiol mewn perthynas â safonau dŵr ar gyfer cyflenwadau preifat. Diffinnir o dan ba amgylchiadau yr ystyrir dŵr yn “iachus”. (rheoliad 4 ac Atodlen 1). Mae hefyd yn pennu'r gofynion sy'n gymwys pan ddiheintir dŵr (rheoliad 5) ac yn gosod dyletswydd ar bob awdurdod lleol i gynnal asesiad risg ynglŷn â phob cyflenwad preifat yn ei ardal (rheoliad 6).

Mae Rhan 2 o'r Rheoliadau yn gosod dyletswydd ar awdurdodau lleol i fonitro cyflenwadau preifat (rheoliadau 7 i 10 ac Atodlen 2) ac i sicrhau bod pob sampl a gymerir yn cael ei dadansoddi yn y ffyrdd a bennir yn Atodlen 3 (rheoliad 11). Mae'n gwneud yn ofynnol hefyd bod yr awdurdod lleol yn paratoi ac yn cynnal cofnodion ar gyfer pob cyflenwad dŵr yn ei ardal (rheoliad 12 ac Atodlen 4) ac yn anfon copi o'r cofnodion at yr Arolygiaeth Dŵr Yfed ac at Weinidogion Cymru (rheoliad 13).

Mae Rhan 3 o'r Rheoliadau yn pennu'r gweithdrefnau sydd i'w dilyn pan nad yw'r dŵr yn iachus. Gwneir yn ofynnol bod awdurdodau lleol yn darparu gwybodaeth i'r bobl sy'n debygol o ddefnyddio'r dŵr (rheoliad 14) ac yn cynnal ymchwiliad (rheoliad15). Os yw achos y dŵr afiachus yn y pibwaith o fewn annedd sengl, rhaid i awdurdodau lleol gynnig cyngor ar y mesurau sydd eu hangen i ddiogelu iechyd dynol. Fel arall, pan nad oes modd datrys y broblem yn anffurfiol, caiff awdurdodau lleol, mewn amgylchiadau diffiniedig, awdurdodi safonau gwahanol. Os na roddir awdurdodiad o'r fath, rhaid i awdurdodau lleol (neu yn achos annedd sengl, caiff awdurdodau lleol) gyflwyno hysbysiadau gwella i fynnu gwneud y cyflenwad yn iachus (rheoliadau 16 ac 17).

Mae Rhan 4 o'r Rheoliadau yn gwneud yn ofynnol cyflwyno hysbysiad i'r “person perthnasol” (fel y'i diffinnir yn adran 80 o Ddeddf y Diwydiant Dŵr 1991) os yw unrhyw gyflenwad yn achosi perygl posibl i iechyd dynol (rheoliad 18) ac yn darparu ar gyfer apelau a chosbau mewn cysylltiad â hysbysiadau o'r fath (rheoliadau 19 a 20).

Mae Rhan 5 o'r Rheoliadau yn gwneud darpariaeth ar gyfer talu ffioedd (rheoliad 21 ac Atodlen 5) ac yn dirymu Rheoliadau Cyflenwadau Dŵr Preifat 1991 (O.S. 1991/2790) o ran Cymru (rheoliad 22).

Paratowyd asesiad effaith rheoleiddiol llawn ar gyfer y Rheoliadau hyn, a gellir cael copïau ohono gan Yr Is-adran Newid yn yr Hinsawdd a Dŵr, Llywodraeth Cynulliad Cymru, Parc Cathays, Caerdydd CF10 3NQ.