xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"
1. Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Cyflenwadau Dŵr Preifat (Cymru) 2010; maent yn gymwys o ran Cymru a deuant i rym ar 4 Chwefror 2010.
2. Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran cyflenwadau preifat o ddŵr a fwriedir i'w yfed gan bobl; ac at y dibenion hyn, ystyr “dŵr a fwriedir i'w yfed gan bobl” (“water intended for human consumption”) yw—
(a)pob dŵr, naill ai yn ei gyflwr gwreiddiol neu ar ôl ei drin, a fwriedir ar gyfer yfed, coginio, paratoi bwyd neu ddibenion domestig eraill, beth bynnag fo'i darddiad a pha un a'i cyflenwir o rwydwaith dosbarthu, neu o dancer neu mewn poteli neu gynwysyddion;
(b)pob dŵr a ddefnyddir mewn unrhyw ymgymeriad cynhyrchu bwyd ar gyfer gweithgynhyrchu, prosesu, cyffeithio neu farchnata cynhyrchion neu sylweddau a fwriedir ar gyfer eu bwyta gan bobl.
3. Nid yw'r rheoliadau hyn yn gymwys mewn perthynas ag —
(a)dŵr y mae'r Rheoliadau Dŵr Mwynol Naturiol, Dŵr Ffynnon a Dŵr Yfed wedi'i Botelu (Cymru) 2007(1) yn gymwys iddo;
(b)dŵr sy'n gynnyrch meddyginiaethol yn yr ystyr a roddir i “medicinal product” yn Neddf Meddyginiaethau 1968(2); neu
(c)dŵr a ddefnyddir yn unig ar gyfer golchi cnwd ar ôl ei gynaeafu, ac nad yw'n effeithio ar addasrwydd y cnwd, nac unrhyw fwyd neu ddiod sy'n tarddu o'r cnwd, ar gyfer ei fwyta neu ei yfed gan bobl.
4. Mae dŵr yn iachus os bodlonir pob un o'r amodau canlynol —
(a)nad yw'n cynnwys unrhyw ficro-organeb, parasit neu sylwedd mewn crynodiad neu werth a fyddai, ar ei ben ei hunan neu ar y cyd ag unrhyw sylwedd arall, yn creu perygl posibl i iechyd dynol;
(b)ei fod yn cydymffurfio â'r crynodiadau a'r gwerthoedd a bennir yn Rhan 1 o Atodlen 1; ac
(c)yn y dŵr:
5.—(1) Pan fo diheintio yn rhan o baratoi neu ddosbarthu dŵr, rhaid i'r person perthnasol (fel y'i diffinnir yn adran 80 o Ddeddf y Diwydiant Dŵr 1991(3))—
(a)cynllunio, gweithredu a chynnal y broses ddiheintio er mwyn cadw unrhyw halogi gan sgil-gynhyrchion dihentio mor isel ag y bo modd,
(b)cyflawni'r broses honno heb beryglu perfformiad y broses o ddiheintio,
(c)sicrhau y cynhelir perfformiad y broses o ddiheintio,
(ch)er mwyn gwirio perfformiad y broses o ddiheintio, cadw cofnodion o'r gwaith cynnal a gyflawnir i gydymffurfio â gofynion y broses ddiheintio, a
(d)cadw copïau o'r cofnodion hynny ar gael i'w harchwilio gan yr awdurdod lleol, am gyfnod o hyd at bum mlynedd.
(2) Yn y rheoliad hwn, ystyr “diheintio” yw proses o drin dŵr er mwyn—
(a)tynnu ymaith; neu
(b)gwneud yn ddiniwed i iechyd dynol,
pob micro-organeb pathogenig a pharasit pathogenig a fyddai, fel arall, yn bresennol yn y dŵr.
6.—(1) Rhaid i awdurdod lleol gynnal asesiad risg, o fewn pum mlynedd o'r adeg y daw'r Rheoliadau hyn i rym, ac wedyn bob pum mlynedd (neu'n gynharach os ystyrir hynny'n angenrheidiol, neu os yw o'r farn bod yr asesiad risg blaenorol yn annigonol) o bob cyflenwad preifat sy'n cyflenwi dŵr i unrhyw fangre yn ei ardal (ac eithrio cyflenwad sy'n cyflenwi dŵr i annedd breifat sengl yn unig, ac nas defnyddir ar gyfer unrhyw weithgarwch masnachol).
(2) Rhaid iddo hefyd gynnal asesiad risg o gyflenwad preifat i annedd breifat sengl yn ei ardal os gofynnir iddo wneud hynny gan berchennog neu feddiannydd yr annedd honno.
(3) Rhaid i'r asesiad risg benderfynu a oes risg sylweddol o gyflenwi dŵr a fyddai'n achosi perygl posibl i iechyd dynol.