Rheoliadau Cyflenwadau Dŵr Preifat (Cymru) 2010

RHAN 2Monitro

Monitro

7.  Rhaid i awdurdod lleol fonitro'r holl gyflenwadau preifat yn unol â'r Rhan hon wrth gyflawni ei ddyletswyddau o dan adran 77(1) o Ddeddf y Diwydiant Dŵr 1991(1).

Dosbarthu ymhellach cyflenwadau a geir gan ymgymerwyr dŵr neu gyflenwyr dŵr trwyddedig

8.  Pan gyflenwir dŵr gan ymgymerwr dŵr neu gyflenwr dŵr trwyddedig ac yna dosberthir y dŵr hwnnw ymhellach gan berson nad yw'n ymgymerwr dŵr nac yn gyflenwr dŵr trwyddedig, rhaid ymgymryd ag unrhyw fonitro y dangosir ei fod yn angenrheidiol yn yr asesiad risg.

Cyflenwadau mawr a chyflenwadau i fangreoedd masnachol neu gyhoeddus

9.  Yn achos cyflenwad preifat (ac eithrio cyflenwad fel a nodir yn rheoliad 8) sydd —

(a)yn cyflenwi cyfaint dyddiol cyfartalog o 10m3 neu ragor o ddŵr, neu

(b)yn cyflenwi dŵr i fangre lle y defnyddir y dŵr ar gyfer gweithgaredd masnachol, neu i fangre gyhoeddus,

rhaid i'r awdurdod lleol fonitro yn unol ag Atodlen 2 a chyflawni unrhyw fonitro ychwanegol y mae'r asesiad risg yn dangos ei fod yn angenrheidiol.

Cyflenwadau preifat eraill

10.—(1Ym mhob achos arall ac eithrio cyflenwad preifat i annedd sengl nas defnyddir ar gyfer unrhyw weithgarwch masnachol, neu gyflenwad sy'n gymwys o dan reoliadau 8 a 9, rhaid i'r awdurdod lleol fonitro ar gyfer—

(a)dargludedd;

(b)enterococi;

(c)Escherichia coli (E. coli);

(ch)y crynodiad ïonau hydrogen;

(d)cymylogrwydd;

(dd)unrhyw baramedr yn Atodlen 1 y nodir, yn yr asesiad risg, bod risg y gallai beidio â chydymffurfio â'r crynodiadau neu'r gwerthoedd yn yr Atodlen honno; ac

(e)unrhyw beth arall y nodir yn yr asesiad risg y gallai greu perygl posibl i iechyd dynol.

(2Rhaid iddo fonitro o leiaf bob pum mlynedd a chyflawni monitro ychwanegol os yw'r asesiad risg yn dangos bod hynny'n angenrheidiol.

(3Yn achos cyflenwad preifat i annedd breifat sengl nas defnyddir ar gyfer gweithgarwch masnachol, caiff awdurdod lleol fonitro'r cyflenwad yn unol â'r rheoliad hwn, a rhaid iddo wneud hynny os gofynnir iddo gan y perchennog neu'r meddiannydd.

Samplu a dadansoddi

11.—(1Pan fo awdurdod lleol yn monitro cyflenwad preifat, rhaid iddo gymryd sampl—

(a)os cyflenwir y dŵr at ddibenion domestig, o dap a ddefnyddir fel rheol i ddarparu dŵr i'w yfed gan bobl, ac os oes mwy nag un tap, o dap sy'n gynrychiadol o'r dŵr a gyflenwir i'r fangre;

(b)os defnyddir y dŵr mewn ymgymeriad cynhyrchu bwyd, o'r pwynt lle y'i defnyddir yn yr ymgymeriad;

(c)os cyflenwir y dŵr o dancer, o'r pwynt lle mae'n dod allan o'r tancer;

(ch)mewn unrhyw achos arall, o bwynt addas.

(2Rhaid iddo sicrhau wedyn y dadansoddir y sampl.

(3Mae Atodlen 3 yn gwneud darpariaeth bellach ynglŷn â samplu a dadansoddi.

Cynnal cofnodion

12.  Rhaid i awdurdod lleol wneud a chadw cofnodion mewn perthynas â phob cyflenwad preifat yn ei ardal yn unol ag Atodlen 4.

Cyflwyno gwybodaeth

13.  Erbyn 31 Gorffennaf 2010, ac erbyn 31 Ionawr ym mhob blwyddyn ddilynol, rhaid i bob awdurdod lleol—

(a)anfon copi o'r cofnodion a nodir yn Atodlen 4 at Brif Arolygydd Dŵr Yfed Cymru; a

(b)anfon copi o'r cofnodion hynny at Weinidogion Cymru os gofynnir amdano.