Nodyn Esboniadol
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)
Mae'r Rheoliadau hyn yn creu un tribiwnlys prisio ar gyfer Cymru (“y TPC”), a fydd yn cymryd lle'r pedwar tribiwnlys (“yr hen Dribiwnlysoedd”) a'r gwasanaeth tribiwnlys prisio Cymru blaenorol.
Gwnaed y Rheoliadau hyn o dan adrannau 140(4) a 143(1) a (2) o Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1988 a pharagraffau 1, 4 i 8, 11, 12 a 14 i 16 o Atodlen 11 i'r Ddeddf honno ac adran 24 o Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1992. Daw Rhannau 1 i 4 o'r Rheoliadau hyn i rym ar 1 Ebrill 2010 a Rhannau 5 a 6 i rym ar 1 Gorffennaf 2010.
Bydd y TPC yn ymdrin ag apelau a wneir o dan y darpariaethau statudol fel y'u diffinnir yn rheoliad 3.
Bydd y TPC yn cychwyn ymdrin ag apelau o'r fath ar 1 Gorffennaf 2010. Bydd pob apêl, hyd at a chan gynnwys 30 Mehefin 2010, yn cael ei throsglwyddo i'r TPC.
Mae'r Rheoliadau hyn yn dirymu Rheoliadau Tribiwnlysoedd Prisio (Cymru) 2005 (“Rheoliadau 2005”).
Mae Rhan 2 o'r Rheoliadau hyn yn darparu ar gyfer sefydlu Tribiwnlys Prisio Cymru, a'i Gyngor Llywodraethu, a phenodi aelodau, llywydd y TPC, cynrychiolwyr rhanbarthol a chadeiryddion.
Mae rheoliad 4 yn sefydlu'r TPC ar 1 Ebrill 2010.
Mae rheoliad 5 yn sefydlu'r Cyngor Llywodraethu ar 1 Gorffennaf 2010.
Mae rheoliadau 6 i 8 yn darparu ynglŷn ag aelodaeth a swyddogaethau'r Cyngor Llywodraethu.
Mae rheoliadau 9 a 10 ac Atodlen 1 yn gwneud darpariaeth o ran nifer aelodau'r TPC, y niferoedd sydd i'w penodi gan bob cyngor penodi a'r Llywydd, y modd y'u penodir a pharhad eu haelodaeth.
Mae rheoliadau 11 a 12 yn ymwneud â phenodi Llywydd a Chadeiryddion y TPC.
Mae rheoliad 13 yn ymwneud â phenodi pedwar cynrychiolydd rhanbarthol (a fydd yn aelodau o'r Cyngor Llywodraethu) a'u dirprwyon.
Mae rheoliad 14 yn darparu ar gyfer amgylchiadau pan anghymhwysir person o fod yn aelod.
Mae Rhan 3 o'r Rheoliadau hyn yn ymdrin â staff, lwfansau i aelodau, gweinyddu, llety a chyfarpar.
Mae rheoliadau 15 ac 16 yn darparu ar gyfer penodi Prif Weithredwr (a fydd hefyd yn glerc y TPC) a phenodi cyflogeion eraill. Prif weithredwr y gwasanaeth tribiwnlys prisio Cymru blaenorol fydd Prif Weithredwr cyntaf y TPC. Mae rheoliad 15 yn ymdrin hefyd â dirprwyo swyddogaethau'r Prif Weithredwr.
Mae rheoliad 17 yn darparu ar gyfer lwfansau, a fydd yn daladwy i aelodau'r TPC fel a bennir gan Weinidogion Cymru.
Mae rheoliadau 18 i 20 yn ymwneud â gweinyddiaeth, llety a chyfarpar y TPC.
Mae Rhan 4 yn cynnwys darpariaethau trosiannol.
Mae rheoliad 21 yn darparu ar gyfer trosglwyddo aelodau'r hen dribiwnlysoedd i'r TPC.
Mae rheoliad 22 yn darparu mai cadeiryddion yr hen dribiwnlysoedd fydd cadeiryddion y TPC.
Mae rheoliad 23 yn darparu ar gyfer trosglwyddo staff y gwasanaeth tribiwnlys prisio Cymru blaenorol i'r TPC.
Mae rheoliad 24 yn ymdrin â throsglwyddo eiddo, hawliau a rhwymedigaethau'r gwasanaeth tribiwnlys prisio Cymru blaenorol i'r TPC
Mae rheoliadau 25 a 26 yn gwneud darpariaeth mewn perthynas ag apelau a drosglwyddir, ac â dirwyn i ben yr hen Dribiwnlysoedd a'r gwasanaeth tribiwnlys prisio Cymru blaenorol.
Mae Rhan 5 yn gwneud darpariaeth mewn perthynas â'r weithdrefn ar gyfer apelau ynglŷn â'r dreth gyngor, drwy ailddeddfu, i raddau helaeth, y darpariaethau yn Rheoliadau 2005.
Mae Rhan 6 yn ymdrin â dirymiadau a diwygiadau canlyniadol i'r Rheoliadau hyn.