- Y Diweddaraf sydd Ar Gael (Diwygiedig) - Saesneg
- Y Diweddaraf sydd Ar Gael (Diwygiedig) - Cymraeg
- Gwreiddiol (Fel y'i Gwnaed) - Saesneg
- Gwreiddiol (Fel y'i Gwnaed) - Cymraeg
Dyma’r fersiwn wreiddiol (fel y’i gwnaed yn wreiddiol). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.
15.—(1) Bydd gan y Tribiwnlys Prisio brif weithredwr.
(2) Rhaid gwneud penodiadau i swydd y prif weithredwr fel a ganlyn—
(a)gwneir y penodiad cyntaf yn rhinwedd y trosglwyddiad o brif weithredwr yr hen Wasanaeth i'r Tribiwnlys Prisio yn unol â rheoliad 23; a
(b)gwneir y penodiadau dilynol gan y Tribiwnlys Prisio.
(3) Rhaid gwneud penodiadau o dan baragraff (2)(b) gyda chydsyniad Gweinidogion Cymru.
(4) Y prif weithredwr fydd clerc y Tribiwnlys Prisio.
(5) Mae cyfeiriadau yn y Rheoliadau hyn, ac eithrio rheoliad 16(1), at gyflogeion y Tribiwnlys Prisio yn cynnwys cyfeiriadau at ei brif weithredwr.
(6) Caniateir dirprwyo swyddogaethau'r prif weithredwr i gyflogeion eraill y Tribiwnlys Prisio fel a benderfynir gan y prif weithredwr.
(7) Ar ddiwedd cyfnod o chwe mis wedi i swydd y prif weithredwr fynd yn wag, os na fydd y Tribiwnlys Prisio wedi gwneud penodiad yn unol â pharagraff (2)(b), caiff Gweinidogion Cymru wneud y penodiad hwnnw ar ôl ymgynghori â'r Llywydd.
16.—(1) Caiff y Tribiwnlys Prisio benodi cyflogeion eraill fel y bydd yn penderfynu.
(2) Y telerau ac amodau y penodir y cyflogeion odanynt fydd y rhai y caiff y Tribiwnlys Prisio eu penderfynu.
(3) Caiff y Tribiwnlys Prisio dalu i'w gyflogeion pa bynnag gydnabyddiaeth a lwfansau a benderfynir ganddo, gyda chydsyniad Gweinidogion Cymru.
(4) Caiff y Tribiwnlys Prisio, gyda chydsyniad Gweinidogion Cymru—
(a)dalu pa bynnag bensiynau neu arian rhodd y caiff eu pennu ganddo i'w gyflogeion neu gyn-gyflogeion, neu mewn perthynas â hwy;
(b)talu pa bynnag gyfraniadau neu daliadau, y caiff eu pennu ganddo tuag at ddarpariaeth ar gyfer talu pensiynau neu arian rhodd i'w gyflogeion neu gyn-gyflogeion, neu mewn perthynas â hwy; ac
(c)darparu a chynnal pa bynnag gynlluniau (naill ai cyfrannol neu anghyfrannol) y caiff eu pennu ganddo ar gyfer talu pensiynau neu arian rhodd i'w gyflogeion neu gyn-gyflogeion neu mewn perthynas â hwy.
(5) Mae'r cyfeiriadau ym mharagraff (4) at bensiynau neu arian rhodd yn cynnwys cyfeiriadau at bensiynau neu arian rhodd a delir i gyflogeion, neu mewn perthynas â chyflogeion, fel iawndal am golli cyflogaeth neu golled neu leihad enillion.
(6) Cyfrifoldeb y prif weithredwr fydd gweinyddu'r gydnabyddiaeth a'r lwfansau a delir i gyflogeion y Tribiwnlys Prisio.
17.—(1) Bydd hawl gan aelodau i gael pa bynnag lwfansau teithio, cynhaliaeth a lwfansau eraill y caiff Gweinidogion Cymru eu pennu o bryd i'w gilydd.
(2) Cyfrifoldeb y prif weithredwr fydd gweinyddu'r lwfansau a delir i aelodau.
(3) Mewn perthynas ag unrhyw daliad o dan baragraff (2), rhaid i'r prif weithredwr gadw cofnod ar gyfer y Tribiwnlys Prisio a'r Cyngor Llywodraethu o enw'r derbynnydd, y swm a'r rheswm dros wneud y taliad, a rhaid iddo ganiatáu i unrhyw berson a awdurdodir gan Weinidogion Cymru archwilio a gwneud copïau o gofnodion o'r fath.
(4) At ddibenion y rheoliad hwn, mae “aelod” yn cynnwys unrhyw berson a benodir o dan reoliad 7.
18.—(1) Caiff y Tribiwnlys Prisio sefydlu pwyllgorau.
(2) Caiff y Cyngor Llywodraethu sefydlu is-bwyllgorau.
(3) Ceir penodi person nad yw'n aelod o'r Tribiwnlys Prisio i wasanaethau ar bwyllgor neu is-bwyllgor o'r fath.
(4) Mewn swyddogaeth ymgynghorol yn unig y caniateir i bwyllgor neu is-bwyllgor o'r fath weithredu.
19.—(1) Rhaid cadw cofnodion o drafodion y Tribiwnlys Prisio, y Cyngor Llywodraethu a phwyllgorau ac is-bwyllgorau y Tribiwnlys a'r Cyngor Llywodraethu.
(2) Bydd cofnodion unrhyw drafodion o'r fath yn dystiolaeth o'r trafodion hynny os byddant wedi eu llofnodi gan y person sy'n dynodi iddo weithredu fel cadeirydd y trafodion sy'n destun y cofnodion neu unrhyw drafodion dilynol pan gymeradwywyd y cofnodion fel cofnod cywir.
(3) Pan fo cofnodion unrhyw drafodion o'r fath wedi eu llofnodi fel a grybwyllir ym mharagraff (2), rhaid ystyried bod y trafodion hynny, oni phrofir i'r gwrthwyneb, wedi eu cynnull a'u cyfansoddi yn ddilys.
(4) Mae'r rheoliad hwn yn gymwys i gyfarfodydd neu benderfyniadau aelodau o'r Cyngor Llywodraethu pan fônt yn gweithredu o dan reoliad 8(2) fel y mae'n gymwys i drafodion a grybwyllir ym mharagraff (1).
20. Rhaid i'r Tribiwnlys Prisio gynnal swyddfa barhaol; a swyddogaeth i'r prif weithredwr, ar ran y Tribiwnlys Prisio, fydd gwneud y cyfryw drefniadau a fydd yn sicrhau bod gan y Tribiwnlys Prisio ba bynnag lety arall a pha bynnag gyfarpar a fydd yn ddigonol ar gyfer cyflawni ei swyddogaethau.
Y Diweddaraf sydd Ar Gael (diwygiedig):Y fersiwn ddiweddaraf sydd ar gael o’r ddeddfwriaeth yn cynnwys newidiadau a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol ac wedi eu gweithredu gan ein tîm golygyddol. Gellir gweld y newidiadau nad ydym wedi eu gweithredu i’r testun eto yn yr ardal ‘Newidiadau i Ddeddfwriaeth’. Dim ond yn Saesneg y mae’r fersiwn ddiwygiedig ar gael ar hyn o bryd.
Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed) - Saesneg: Mae'r wreiddiol Saesneg fersiwn y ddeddfwriaeth fel ag yr oedd pan gafodd ei deddfu neu eu gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.
Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed)-Cymraeg:Y fersiwn Gymraeg wreiddiol o’r ddeddfwriaeth fel yr oedd yn sefyll pan gafodd ei deddfu neu ei gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.
Gallwch wneud defnydd o ddogfennau atodol hanfodol a gwybodaeth ar gyfer yr eitem ddeddfwriaeth o’r tab hwn. Yn ddibynnol ar yr eitem ddeddfwriaeth sydd i’w gweld, gallai hyn gynnwys:
Defnyddiwch y ddewislen hon i agor dogfennau hanfodol sy’n cyd-fynd â’r ddeddfwriaeth a gwybodaeth am yr eitem hon o ddeddfwriaeth. Gan ddibynnu ar yr eitem o ddeddfwriaeth sy’n cael ei gweld gall hyn gynnwys:
liciwch ‘Gweld Mwy’ neu ddewis ‘Rhagor o Adnoddau’ am wybodaeth ychwanegol gan gynnwys