Chwilio Deddfwriaeth

Rheoliadau Tribiwnlys Prisio Cymru 2010

 Help about what version

Pa Fersiwn

Statws

Dyma’r fersiwn wreiddiol (fel y’i gwnaed yn wreiddiol). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.

RHAN 5Apelau Treth Gyngor

Dehongli

27.—(1Yn y rhan hon—

  • ystyr “apêl” (“appeal”), onid yw'r cyd-destun yn mynnu fel arall, yw apêl o dan—

    (a)

    adran 16 (apelau: cyffredinol) o Ddeddf 1992;

    (b)

    paragraff 3(1) o Atodlen 3 (cosbau) i Ddeddf 1992; neu

    (c)

    paragraff 4 o Atodlen 4A i Ddeddf 1988 fel y'i cymhwysir at ddibenion Rhan I o Ddeddf 1992 (y cyfeirir ati yn y Rhan hon fel “apêl yn erbyn rhybudd i gwblhau”)(1);

  • ystyr “Clerc” (“Clerk”) yw—

    (a)

    y prif weithredwr; a

    (b)

    unrhyw gyflogai arall y Tribiwnlys Prisio a benodir o dan reoliad 15(6) ac y dirprwywyd iddo rai neu'r cyfan o swyddogaethau'r Clerc o dan y Rhan hon;

  • ystyr “cosb” (“penalty”) yw cosb a osodir o dan baragraff 1 o Atodlen 3 i Ddeddf 1992;

  • ystyr “hysbysiad am apêl” (“notice of appeal”) yw hysbysiad o dan reoliad 30(1);

  • ystyr “Panel Apêl” (“Appeal Panel”) yw aelodau o'r Tribiwnlys Prisio wedi eu cynnull yn unol â'r Rhan hon at y diben o benderfynu apêl;

  • ystyr “rhestr” (“list”) yw rhestr brisio a luniwyd o dan Bennod 2 o Ran 1 o Ddeddf 1992; ac

  • ystyr “swyddog rhestru” (“listing officer”) mewn perthynas ag apêl, yw'r swyddog a benodir o dan adran 20 ar gyfer yr awdurdod lle y saif yr annedd y mae'r apêl yn ymwneud â hi.

(2Mae unrhyw gyfeiriad yn y Rhan hon—

(a)at barti mewn apêl, yn cynnwys yr apelydd ac unrhyw berson sydd â hawl, yn unol â'r Rhan hon, i gael copi wedi ei gyflwyno iddo o hysbysiad am apêl yr apelydd; a

(b)at adran wedi'i rhifo, onid yw'r cyd-destun yn mynnu fel arall, yn gyfeiriad at yr adran a rifwyd felly yn Neddf 1992.

Panelau Apêl mewn amgylchiadau arbennig

28.—(1Pan fo'r apelydd—

(a)yn gyn-aelod o hen Dribiwnlys,

(b)yn gyn-gyflogai hen Dribiwnlys, yr hen Wasanaeth neu'r Tribiwnlys Prisio, neu

(c)yn gyflogai neu'n aelod o'r Tribiwnlys Prisio;

rhaid ymdrin â'r apêl gan ba bynnag aelodau o'r Tribiwnlys Prisio a benodir at y diben hwnnw gan y Llywydd.

(2Os yw'n ymddangos i'r Llywydd, oherwydd gwrthdrawiad buddiannau neu'r ymddangosiad o wrthdrawiad o'r fath, y byddai'n amhriodol pe bai aelodau penodol o'r Tribiwnlys Prisio yn ymdrin ag apêl, rhaid i'r Llywydd benodi aelodau eraill i ymdrin â'r apêl honno.

Terfynau amser

29.—(1Bydd apêl gan berson, y bodlonir mewn perthynas ag ef yr amod a grybwyllir yn adran 16(7)(a) neu (b), yn cael ei gwrthod oni chychwynnir hi yn unol â'r Rhan hon yn ddim hwyrach nag ar ddiwedd cyfnod o ddau fis sy'n dechrau gyda'r dyddiad y cyflwynir hysbysiad yr awdurdod bilio dan yr adran honno.

(2Pan fodlonir yr amod a grybwyllir yn adran 16(7)(c), gwrthodir apêl gan y person a dramgwyddwyd oni chychwynnir hi o fewn pedwar mis ar ôl dyddiad cyflwyno hysbysiad y person hwnnw o dan adran 16(4).

(3Gwrthodir apêl o dan baragraff (3) o Atodlen 3 i Ddeddf 1992 oni chychwynnir hi'n ddim hwyrach nag ar ddiwedd cyfnod o ddau fis sy'n dechrau gyda dyddiad cyflwyno'r hysbysiad ysgrifenedig o osod y gosb.

(4Gwrthodir apêl yn erbyn rhybudd i gwblhau oni chychwynnir hi'n ddim hwyrach nag ar ddiwedd cyfnod o bedair wythnos sy'n dechrau gyda dyddiad cyflwyno'r rhybudd.

(5Er gwaethaf paragraffau (1) i (4), caiff y Llywydd awdurdodi ystyried apêl, os bodlonir y Llywydd bod y person a dramgwyddwyd wedi methu â chychwyn yr apêl fel a ddarperir gan y rheoliad hwn oherwydd amgylchiadau y tu hwnt i reolaeth y person hwnnw.

Cychwyn apêl

30.—(1Rhaid cychwyn apêl drwy gyflwyno hysbysiad ysgrifenedig i'r Clerc.

(2Os gwneir yr apêl o dan adran 16, rhaid i'r hysbysiad am apêl gynnwys yr wybodaeth ganlynol—

(a)ar ba seiliau y gwneir yr apêl;

(b)y dyddiad pan gyflwynwyd yr hysbysiad o dan adran 16(4) i'r awdurdod bilio, ac

(c)y dyddiad, os oedd un, pan hysbyswyd yr apelydd gan yr awdurdod, fel y crybwyllir yn adran 16(7)(a) neu (b).

(3Pan fo'r apêl yn apêl yn erbyn rhybudd i gwblhau, rhaid cyflwyno'r hysbysiad am apêl ynghyd â'r canlynol —

(a)copi o'r rhybudd i gwblhau; a

(b)datganiad yn nodi ar ba seiliau y gwneir yr apêl.

(4Os gwneir yr apêl yn erbyn gosod cosb, rhaid i'r hysbysiad am apêl gynnwys yr wybodaeth ganlynol —

(a)ar ba seiliau y gwneir yr apêl; a

(b)dyddiad cyflwyno'r hysbysiad ysgrifenedig o osod cosb.

(5Rhaid i'r Clerc, o fewn dwy wythnos ar ôl cyflwyno'r hysbysiad am apêl, hysbysu'r apelydd bod y Clerc wedi derbyn yr hysbysiad, a rhaid iddo gyflwyno copi ohonno i'r awdurdod bilio y mae ei benderfyniad, ei weithred neu ei hysbysiad yn destun yr apêl, ac i unrhyw awdurdod bilio arall sy'n ymddangos i'r Clerc yn gysylltiedig â'r mater.

Trefniadau ar gyfer apelau

31.—(1Rhaid i'r Llywydd sicrhau y gwneir trefniadau ar gyfer penderfynu apelau yn unol â darpariaethau canlynol y Rhan hon.

(2Mae'r paragraff hwn yn gymwys pan fo apêl o dan y Rhan hon ac apêl o dan un neu ragor o'r canlynol—

(a)rheoliadau a wnaed o dan adran 55 o Ddeddf 1988,

(b)rheoliadau o dan adran 24,

yn ymwneud â'r un eiddo.

(3Pan fo paragraff (2) yn gymwys—

(a)rhaid i'r Llywydd sicrhau yr ymdrinnir â'r apelau ym mha bynnag drefn sy'n ymddangos i'r Llywydd fel y drefn orau o ran sicrhau buddiannau cyfiawnder;

(b)rhaid i'r swyddog prisio neu'r swyddog rhestru (yn ôl y digwydd) a'r awdurdod bilio gael eu cyplysu fel parti i apêl dan y Rhan hon.

(4Ym mharagraff (3), ystyr “swyddog prisio” yw'r swyddog a benodir o dan adran 61(1)(a) o Ddeddf 1988.

(5Rhaid i'r Clerc, cyn gynted ag y bo'n rhesymol ymarferol, gyflwyno copi o'r hysbysiad am apêl i berson a wnaed yn barti yn unol â pharagraff (3).

Tynnu'n ôl

32.—(1Ceir tynnu apêl yn ôl drwy roi hysbysiad ysgrifenedig i'r Clerc cyn dechrau gwrandawiad, neu ddechrau ystyriaeth o sylwadau ysgrifenedig gan Banel Apêl.

(2Rhaid i'r Clerc hysbysu'r apelydd pan fydd wedi cael yr hysbysiad tynnu'n ôl, a rhaid iddo gyflwyno copi o'r hysbysiad i bob parti arall i'r apêl.

Penderfynu drwy sylwadau ysgrifenedig

33.—(1Ceir penderfynu apêl ar sail sylwadau ysgrifenedig os yw pob parti wedi cytuno i hynny mewn ysgrifen.

(2Pan fo pob parti wedi cytuno fel y nodir ym mharagraff (1), rhaid i'r Clerc gyflwyno hysbysiad i'r partïon yn unol â hynny, ac, o fewn pedair wythnos ar ôl cyflwyno hysbysiad o'r fath i barti, caiff pob parti gyflwyno i'r Clerc hysbysiad sy'n datgan—

(a)y rhesymau, neu'r rhesymau pellach am yr anghytundeb sydd wedi ysgogi'r apêl; neu

(b)nad yw'r parti hwnnw'n bwriadu gwneud sylwadau pellach.

(3Rhaid i gopi o unrhyw hysbysiad a gyflwynir yn unol â pharagraff (2) gael ei gyflwyno gan y Clerc i'r parti neu'r partïon eraill i'r apêl, a rhaid anfon gydag ef ddatganiad o effaith paragraffau (4) a (5).

(4Caiff unrhyw barti y cyflwynir hysbysiad iddo o dan baragraff (3), o fewn pedair wythnos ar ôl y cyflwyno hwnnw, gyflwyno i'r Clerc hysbysiad pellach sy'n datgan ateb y parti hwnnw i ddatganiad y parti arall, neu'n datgan nad yw'r parti hwnnw'n bwriadu gwneud sylwadau pellach, yn ôl fel y digwydd; a rhaid i'r Clerc gyflwyno copi o unrhyw hysbysiad pellach o'r fath i'r parti neu'r partïon eraill.

(5Ar ôl cyfnod o bedair wythnos sy'n dechrau ar ddiwedd y cyfnod o bedair wythnos a grybwyllir ym mharagraff (4), rhaid i'r Clerc gyflwyno copïau o'r canlynol i Banel Apêl—

(a)unrhyw wybodaeth a drosglwyddwyd i'r Clerc dan y Rheoliadau hyn, a

(b)unrhyw hysbysiad o dan baragraff (2) neu (4).

(6Caiff y Panel Apêl y cyfeirir apêl iddo fel y darperir ym mharagraff (5), os gwêl yn briodol—

(a)gwneud yn ofynnol bod unrhyw barti'n darparu gwybodaeth ysgrifenedig bellach am y seiliau y dibynna arnynt ac am unrhyw ffeithiau neu haeriadau perthnasol; neu

(b)gorchymyn bod yr apêl i'w phenderfynu ar sail gwrandawiad.

(7Pan fo Panel Apêl yn gwneud yn ofynnol bod unrhyw barti'n darparu unrhyw fanylion o dan baragraff (6)(a), rhaid i'r Clerc gyflwyno copi o'r cyfryw fanylion i bob parti arall, a chaiff pob parti o'r fath o fewn pedair wythnos ar ôl cyflwyno felly, gyflwyno i'r Clerc unrhyw ddatganiad pellach y dymuna'r parti hwnnw eu gwneud mewn ymateb.

Hysbysiad o wrandawiad

34.—(1Pan fo'r apêl i'w phenderfynu ar sail gwrandawiad, rhaid i'r Clerc, o leiaf bedair wythnos cyn y dyddiad dan sylw, gyflwyno i'r partïon hysbysiad sy'n nodi'r dyddiad, yr amser a'r lleoliad a bennwyd ar gyfer y gwrandawiad.

(2Rhaid i'r Clerc hysbysebu'r dyddiad, yr amser a'r lleoliad a bennir ar gyfer unrhyw wrandawiad drwy beri bod hysbysiad sy'n nodi'r cyfryw wybodaeth yn cael ei arddangos mewn man amlwg —

(a)y tu allan i swyddfa'r awdurdod bilio, a bennwyd gan yr awdurdod at y diben hwnnw, neu

(b)mewn man arall o fewn ardal yr awdurdod hwnnw.

(3Rhaid i'r rhybudd sy'n ofynnol o dan baragraff (2) enwi man lle y gellir archwilio rhestr o'r apelau sydd i'w clywed.

(4Pan fo gwrandawiad apêl wedi ei ohirio, rhaid i'r Clerc gymryd pa gamau bynnag sy'n rhesymol ymarferol yn yr amser sydd ar gael —

(a)i hysbysu'r partïon o'r gohiriad; a

(b)i hysbysebu'r gohiriad.

Anghymhwyso rhag cymryd rhan

35.—(1Anghymhwysir person rhag cymryd rhan fel aelod yn y gwrandawiad, neu wrth benderfynu apêl, neu weithredu fel Clerc neu swyddog y Tribiwnlys Prisio mewn perthynas ag apêl, os yw'r person hwnnw'n aelod o'r awdurdod bilio perthnasol.

(2Yn y rheoliad hwn, ystyr “awdurdod bilio perthnasol” yw—

(a)yn achos apêl yn erbyn rhybudd i gwblhau, yr awdurdod bilio y mae'r annedd sy'n destun yr apêl wedi ei lleoli ynddi; a

(b)mewn unrhyw achos arall, yr awdurdod bilio yr apelir yn erbyn ei benderfyniad.

(3Anghymhwysir person rhag cymryd rhan fel aelod yn y gwrandawiad, neu wrth benderfynu apêl, neu weithredu fel Clerc neu swyddog y Tribiwnlys Prisio mewn perthynas ag apêl, os yw'r apelydd yn briod neu'n bartner sifil i'r person hwnnw neu os yw'r person hwnnw'n cynnal yr apelydd yn ariannol, neu dan rwymedigaeth i wneud hynny.

(4Fel arall, nid anghymhwysir person rhag gweithredu mewn unrhyw swyddogaeth mewn perthynas ag apêl, am yr unig reswm bod y person hwnnw'n aelod o awdurdod sy'n cael refeniw yn uniongyrchol neu'n anuniongyrchol o daliadau mewn perthynas â'r dreth gyngor, ac y gallai arfer swyddogaethau'r person hwnnw effeithio ar y taliadau hynny.

Cynrychiolaeth yn y gwrandawiad

36.  Caiff unrhyw barti i apêl sydd i'w phenderfynu mewn gwrandawiad ymddangos yn bersonol (gyda chymorth, os yw'n dymuno hynny, gan unrhyw berson arall), neu ei gynrychioli gan gwnsler neu gyfreithiwr, neu gan unrhyw gynrychiolydd arall (ac eithrio person sy'n aelod o'r Tribiwnlys Prisio neu'r Cyngor Llywodraethu, neu sy'n gyflogai'r Tribiwnlys Prisio).

Trefn y gwrandawiad – Panelau Apêl

37.—(1Yn ddarostyngedig i baragraff (2), gweithredir swyddogaeth y Tribiwnlys Prisio o wrando neu benderfynu apêl gan banel o dri aelod o'r Tribiwnlys Prisio (“Panel Apêl”), y bydd yn rhaid iddo gynnwys o leiaf un Cadeirydd; a Chadeirydd fydd yn llywyddu.

(2Pan fo pob parti sy'n ymddangos mewn apêl yn cytuno felly, ceir penderfynu'r apêl gan ddau aelod o'r Tribiwnlys Prisio, ac er gwaethaf absenoldeb Cadeirydd.

(3Rhaid cynnal y gwrandawiad yn gyhoeddus, oni fydd y Panel Apêl yn gorchymyn fel arall ar gais un o'r partïon, wedi i'r Panel gael ei fodloni y byddai gwrandawiad cyhoeddus yn cael effaith niweidiol ar fuddiannau'r parti hwnnw.

(4Os metha'r apelydd ag ymddangos yn y gwrandawiad, caiff y Panel Apêl wrthod yr apêl, ac os metha unrhyw barti arall ag ymddangos, caiff y Panel Apêl wrando a phenderfynu'r apêl yn absenoldeb y parti hwnnw.

(5Caiff y Panel Apêl wneud yn ofynnol bod unrhyw dyst yn rhoi tystiolaeth ar lw neu gadarnhad, a bydd pŵer gan y Panel Apêl, at y diben hwnnw, i weinyddu llw neu gadarnhad yn y ffurf briodol.

(6Caiff partïon yn y gwrandawiad eu clywed ym mha drefn bynnag a benderfynir gan y Panel Apêl, a chânt holi unrhyw dystion gerbron y Panel Apêl, a galw tystion.

(7Caniateir gohirio gwrandawiad am ba gyfnod bynnag o amser, i ba le bynnag ac ar ba delerau bynnag (os bydd telerau) a ystyrir yn briodol gan y Panel Apêl; a rhaid rhoi cyfnod rhesymol o rybudd i bob un o'r partïon, o amser a lleoliad y gwrandawiad gohiriedig.

(8Os ystyria hynny'n briodol, caiff Panel Apêl, ar ôl hysbysu'r partïon a'u gwahodd i fod yn bresennol, archwilio unrhyw annedd sy'n destun apêl.

(9Yn ddarostyngedig i unrhyw ddarpariaethau yn y Rhan hon—

(a)rhaid i'r Panel Apêl gynnal y gwrandawiad yn y modd yr ystyria'n fwyaf priodol o ran egluro'r materion ger ei fron ac yn gyffredinol i ymdrin yn gyfiawn â'r achos;

(b)rhaid i'r Panel Apêl, cyn belled ag yr ymddengys yn briodol iddo, geisio osgoi ffurfioldeb yn ei drafodion; ac

(c)ni chaiff y Panel Apêl ei rwymo gan unrhyw ddeddfiad neu reol cyfraith sy'n ymwneud â derbynioldeb tystiolaeth gerbron llysoedd barn.

Tystiolaeth: cyffredinol

38.—(1Mae'r rheoliad hwn yn gymwys i wybodaeth a gyflenwir yn unol â rheoliadau o dan adran 13 o Ddeddf 1992 neu Atodlen 2 i'r Ddeddf honno.

(2Yn ddarostyngedig i ddarpariaethau canlynol y rheoliad hwn, bydd gwybodaeth y mae'r rheoliad hwn yn gymwys iddi yn dderbyniadwy mewn unrhyw achos perthnasol fel tystiolaeth o unrhyw ffaith a nodir ynddi; a rhaid cymryd yn ganiataol bod unrhyw ddogfen sy'n dynodi ei bod yn cynnwys gwybodaeth o'r fath, oni phrofir yn wahanol—

(a)wedi ei chyflenwi gan y person y mae'n dynodi iddi gael ei chyflenwi ganddo; a

(b)wedi ei chyflenwi gan y person hwnnw yn rhinwedd unrhyw swyddogaeth y dynodir iddi gael ei chyflenwi ganddo.

(3Ni chaiff awdurdod bilio ddefnyddio gwybodaeth y mae'r rheoliad hwn yn berthnasol iddi mewn unrhyw achosion perthnasol—

(a)oni fydd cyfnod o rybudd o ddim llai na dwy wythnos wedi ei roi ymlaen llaw i bob parti arall yn yr achos, gan nodi'r wybodaeth y bwriedir ei defnyddio felly a'r annedd neu'r person y mae'r wybodaeth yn berthynol iddi neu iddo; ac

(b)oni fydd unrhyw berson, nad yw wedi rhoi dim llai na 24 awr o rybudd o'i fwriad i wneud hynny, wedi ei ganiatáu gan yr awdurdod, ar unrhyw adeg resymol—

(i)i archwilio'r dogfennau a chyfryngau eraill y delir y wybodaeth ynddynt neu arnynt; a

(ii)i wneud copi o unrhyw ddogfen neu unrhyw ddarn o ddogfen sy'n cynnwys gwybodaeth o'r fath.

(4Os nad yw unrhyw wybodaeth y mae angen ei rhoi ar gael i'w harchwilio yn unol â'r rheoliad hwn yn cael ei chadw ar ffurf dogfen, bodlonir y ddyletswydd i sicrhau bod yr wybodaeth ar gael felly os sicrheir bod allbrint, ffotograff neu atgynhyrchiad arall o'r wybodaeth, a adalwyd o'r cyfrwng storio a ddefnyddir i gadw'r wybodaeth honno, ar gael i'w archwilio.

(5Yn y rheoliad hwn, ystyr “achos(ion) perthnasol” yw unrhyw achos(ion) ar, neu o ganlyniad i apêl, ac unrhyw achos(ion) ar neu o ganlyniad i atgyfeirio ar gyfer cymrodeddu o dan reoliad 45.

Tystiolaeth o restrau a dogfennau eraill

39.—(1Ceir profi cynnwys rhestr drwy ddangos copi ohoni, neu gopi o'r rhan berthnasol ohoni, sy'n dynodi bod y swyddog rhestru wedi ardystio ei fod yn gopi cywir.

(2Ceir profi cynnwys rhybudd i gwblhau drwy ddangos copi ohono sy'n dynodi bod y swyddog priodol o'r awdurdod bilio wedi ardystio ei fod yn gopi cywir.

(3Ym mharagraff (2) mae i'r ymadrodd “swyddog priodol” yr ystyr a roddir i “proper officer” yn Neddf Llywodraeth Leol 1972 (2).

Penderfyniadau ar apelau

40.—(1Ceir penderfynu apêl gan fwyafrif o'r aelodau sy'n cymryd rhan; ac os yw'r apêl (yn unol â rheoliad 37(2)), i'w phenderfynu gan ddau aelod ac nad oes modd iddynt gytuno, rhaid i'r Clerc atgyfeirio'r apêl yn ôl, i'w phenderfynu gan Banel Apêl sy'n cynnwys tri aelod gwahanol.

(2Pan fo apêl i'w phenderfynu ar sail gwrandawiad, caiff y Panel Apêl naill ai ohirio'i benderfyniad neu ei roi ar lafar ar derfyn y gwrandawiad.

(3Yn ddarostyngedig i baragraff (4) cyn gynted ag y bo'n rhesymol ymarferol ar ôl gwneud penderfyniad, rhaid—

(a)yn achos penderfyniad a roddwyd ar lafar, cadarnhau'r penderfyniad,

(b)mewn unrhyw achos arall, cyfleu'r penderfyniad,

drwy roi hysbysiad ysgrifenedig i'r partïon; a rhaid anfon datganiad o'r rhesymau am y penderfyniad, gyda'r hysbysiad.

(4Nid oes dim ym mharagraff (3) sy'n gwneud yn ofynnol ailgyflwyno unrhyw ddogfen i barti, sydd eisoes wedi ei chyflwyno i'r person hwnnw yn unol â rheoliad 43.

(5Yn achos apêl yn erbyn rhybudd i gwblhau, rhaid i'r Clerc anfon hysbysiad o'r penderfyniad at y swyddog rhestru a benodwyd ar gyfer yr awdurdod bilio sy'n barti i'r apêl.

(6Yn y rheoliad hwn, ystyr “aelod” yw aelod o Banel Apêl.

Gorchmynion

41.—(1Ar neu ar ôl penderfynu apêl caiff y Panel Apêl, o ganlyniad i'r penderfyniad, wneud yn ofynnol drwy orchymyn bod—

(a)amcangyfrif yn cael ei ddileu neu ei ddiwygio;

(b)cosb yn cael ei dileu;

(c)penderfyniad awdurdod bilio yn cael ei wrth-droi;

(ch)cyfrifiad (yn hytrach nag amcangyfrif) o swm yn cael ei ddirymu a'r swm yn cael ei ailgyfrifo.

(2Caiff gorchymyn wneud yn ofynnol y rhoddir sylw i unrhyw fater sy'n atodol i bwnc y gorchymyn.

Adolygu penderfyniadau

42.—(1Yn ddarostyngedig i baragraffau (2) a (3) bydd pŵer gan Banel Apêl a gyfansoddwyd fel y darperir ym mharagraff (4), ar ôl derbyn cais ysgrifenedig gan barti, i adolygu neu roi o'r neilltu drwy dystysgrif o dan lofnod yr aelod sy'n llywyddu—

(a)unrhyw benderfyniad ar unrhyw un o'r seiliau a grybwyllir ym mharagraff (5), a

(b)penderfyniad ar apêl yn erbyn rhybudd i gwblhau, ar y sail ychwanegol a grybwyllir ym mharagraff (6).

(2Nid yw paragraff (1) yn gymwys pan fo apêl yn erbyn y penderfyniad dan sylw wedi ei phenderfynu gan yr Uchel Lys.

(3Ceir gwrthod cais a wneir o dan baragraff (1) oni wneir ef o fewn y cyfnod o bedair wythnos sy'n dechrau ar y diwrnod pan roddir yr hysbysiad (pa un ai'n unol â rheoliad 40(3) neu reoliad 43(3)) o'r penderfyniad dan sylw.

(4Cyn belled ag y bo'n rhesymol ymarferol, bydd y Panel Apêl a benodir i adolygu'r penderfyniad yn cynnwys yr un aelodau ag a oedd ar y Panel Apêl a wnaeth y penderfyniad.

(5Y seiliau y cyfeirir atynt ym mharagraff (1)(a) yw—

(a)bod y penderfyniad a wnaed yn anghywir oherwydd camgymeriad clerigol;

(b)nad oedd parti wedi ymddangos, a gall y parti hwnnw ddangos achos rhesymol pam nad ymddangosodd;

(c)yr effeithir ar y penderfyniad gan benderfyniad gan, neu benderfyniad ar apêl o'r Uchel Lys neu'r Uwch Dribiwnlys, mewn perthynas ag apêl ynglŷn â'r annedd neu, yn ôl fel y digwydd, y person, a oedd yn destun penderfyniad y Panel Apêl; ac

(ch)bod buddiannau cyfiawnder rywfodd arall yn gwneud adolygiad o'r fath yn ofynnol.

(6Y sail a grybwyllir ym mharagraff (1)(b) yw bod tystiolaeth newydd, na ellid bod wedi canfod ei bodolaeth drwy ymchwilio'n rhesymol ddiwyd, na'i rhagweld, wedi dod ar gael er pan gwblhawyd yr achos y mae'r penderfyniad yn ymwneud ag ef.

(7Os yw Panel Apêl yn gosod penderfyniad o'r neilltu yn unol â'r rheoliad hwn, rhaid iddo ddirymu unrhyw orchymyn a wnaed o ganlyniad i'r penderfyniad hwnnw a rhaid iddo orchymyn ail wrandawiad neu ailbenderfyniad gerbron naill ai'r un Panel Apêl neu Banel Apêl gwahanol.

(8Rhaid i'r Clerc, cyn gynted ag y bo'n rhesymol ymarferol, hysbysu'r partïon i'r apêl mewn ysgrifen o'r canlynol—

(a)penderfyniad na fydd y Panel Apêl yn ymgymryd ag adolygiad o dan baragraff (1);

(b)penderfyniad y Panel apêl, wedi iddo gynnal adolygiad dan baragraff (1), na fydd yn rhoi o'r neilltu'r penderfyniad a oedd yn destun yr apêl;

(c)dyroddi unrhyw dystysgrif o dan baragraff (1); ac

(ch)dirymu unrhyw orchymyn o dan baragraff (7).

(9Mewn perthynas â phenderfyniad y gwneir cais ynglŷn ag ef o dan baragraff (1), os yw apêl i'r Uchel Lys yn parhau heb ei phenderfynu ar y diwrnod perthnasol, rhaid i'r Clerc hysbysu'r Uchel Lys cyn gynted ag y bo'n rhesymol ymarferol ar ôl y digwyddiad perthnasol.

(10Ym mharagraff (9)—

  • ystyr “y digwyddiad perthnasol” (“the relevant event”) mewn perthynas â diwrnod perthnasol, yw'r digwyddiad sy'n digwydd ar y diwrnod hwnnw; ac

  • ystyr “y diwrnod perthnasol” (“the relevant day”) yw'r diwrnod, yn ôl fel y digwydd—

    (a)

    pan wneir y cais o dan baragraff (1);

    (b)

    pan fo'r digwyddiad y cyfeirir ato yn unrhyw un o'r is-baragraffau (a) i (ch) o baragraff (8).

(11Yn y rheoliad hwn, ystyr “aelod” yw aelod o Banel Apêl.

Cofnodion o benderfyniadau, etc

43.—(1Dyletswydd y Clerc fydd gwneud trefniadau i gofnodi pob penderfyniad, pob gorchymyn a wneir o dan reoliad 41 ac effaith pob tystysgrif a dirymiad o dan reoliad 42.

(2Ceir cadw cofnodion ar unrhyw ffurf, dogfennol neu fel arall, a rhaid iddynt gynnwys y manylion a bennir yn Atodlen 3.

(3Rhaid anfon copi, ar ffurf dogfen, o'r nodyn perthnasol yn y cofnod at bob parti i'r apêl y mae'r nodyn yn berthnasol iddi, cyn gynted ag y bo'n rhesymol ymarferol.

(4Rhaid dal gafael ar bob cofnod am gyfnod o chwe blynedd, a fydd yn cychwyn ar y diwrnod y gwneir y nodyn olaf yn y cofnod.

(5Caiff unrhyw berson, ar adeg resymol a bennir gan neu ar ran y Tribiwnlys Prisio, ac yn ddi-dâl, archwilio'r cofnodion y mae'n ofynnol eu cadw o dan baragraff (1).

(6Os bydd person sydd â gofal o'r cofnod, heb esgus rhesymol, yn fwriadol yn rhwystro person rhag arfer yr hawl a roddir gan baragraff (5), bydd y person hwnnw'n agored, o'i gollfarnu'n ddiannod, i ddirwy na fydd yn uwch na lefel 1 ar y raddfa safonol.

(7Caiff yr aelod a oedd yn llywyddu yn y gwrandawiad neu pan benderfynwyd apêl, awdurdodi cywiro unrhyw gamgymeriad clerigol yn y cofnod, a rhaid anfon copi o'r cofnod cywiredig at y personau yr anfonwyd copi o'r cofnod gwreiddiol atynt.

(8Bydd dangos, mewn unrhyw achos mewn unrhyw lys barn, dogfen sy'n dynodi ei bod wedi ei hardystio gan y Prif Weithredwr neu gan Glerc Panel Apêl fel copi cywir o gofnod neu benderfyniad y Panel Apêl hwnnw, oni phrofir i'r gwrthwyneb, yn dystiolaeth ddigonol o'r ddogfen a'r ffeithiau a gofnodir ynddi.

Apelau

44.—(1I'r Uchel Lys y cyfeirir apêl ar bwynt cyfreithiol sy'n codi o benderfyniad neu orchymyn a roddir neu a wneir ar apêl gan Banel Apêl, a chaiff unrhyw barti i'r apêl wneud hynny.

(2Yn ddarostyngedig i baragraff (3), ceir gwrthod apêl dan baragraff (1) oni wneir yr apêl o fewn pedair wythnos ar ôl y dyddiad y rhoddir hysbysiad o'r penderfyniad neu'r gorchymyn sy'n destun yr apêl.

(3Mewn perthynas â chais o dan baragraff (1) o reoliad 42 a wnaed o fewn pedair wythnos i'r dyddiad y rhoddwyd hysbysiad o'r penderfyniad sy'n destun yr apêl—

(a)os rhoddir hysbysiad fel y crybwyllir ym mharagraff (8)(a) o'r rheoliad hwnnw, neu

(b)os rhoddir hysbysiad fel y crybwyllir ym mharagraff (8)(b) o'r rheoliad hwnnw,

ceir gwrthod yr apêl oni wneir hi o fewn pedair wythnos ar ôl cyflwyno'r hysbysiad dan y paragraff (8)(a) neu (b) hwnnw.

(4Caiff yr Uchel Lys gadarnhau, amrywio, gosod o'r neilltu, dirymu neu anfon yn ôl penderfyniad neu orchymyn a wnaed gan Banel Apêl, a chaiff wneud unrhyw orchymyn y gallai'r Panel Apêl fod wedi ei wneud.

(5Rhaid i awdurdodau bilio weithredu'n unol ag unrhyw orchymyn a wneir gan yr Uchel Lys; a bydd paragraff 10A o Atodlen 11 i Ddeddf 1988 yn cael effaith sy'n ddarostyngedig i'r gofyniad hwn.

Cymrodeddu

45.—(1Ar unrhyw adeg cyn dechrau gwrandawiad neu ystyriaeth o sylwadau ysgrifenedig gan Banel Apêl, os cytunir felly mewn ysgrifen rhwng y personau a fyddai'n bartïon i'r apêl, pe deuai'r anghydfod yn destun apêl i'r Tribiwnlys Prisio, bydd y mater yn cael ei atgyfeirio ar gyfer cymrodeddu.

(2Mewn unrhyw gymrodeddu yn unol â'r rheoliad hwn, caiff y dyfarniad gynnwys unrhyw orchymyn y gallai Panel Apêl fod wedi ei wneud mewn perthynas â'r mater, a bydd paragraff 10A o Atodiad 11 i Ddeddf 1988 yn gymwys i orchymyn o'r fath, fel y mae'n gymwys i orchmynion a gofnodir yn unol â'r Rhan hon.

Cyflwyno hysbysiadau

46.—(1Heb leihau effaith adran 233 o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972, ceir cyflwyno unrhyw hysbysiad sydd i'w gyflwyno gan y Clerc neu'r swyddog rhestru o dan y Rhan hon—

(a)drwy ei ddanfon—

(i)at y person y mae'r hysbysiad i'w gyflwyno iddo; neu

(ii)at unrhyw berson arall a awdurdodwyd ganddo i weithredu fel ei asiant at y diben hwnnw;

(b)drwy ei adael yn un o'r mannau canlynol, neu ei anfon yno drwy'r post—

(i)man busnes arferol y person hwnnw, neu ei fan busnes olaf sy'n hysbys, neu

(ii)yn achos cwmni, ei swyddfa gofrestredig, neu

(iii)man busnes arferol, neu'r olaf sy'n hysbys, neu swyddfa gofrestredig unrhyw berson arall a awdurdodwyd fel y crybwyllir yn is-baragraff (a)(ii);

(c)drwy ei ddanfon at ryw berson yn y fangre y mae'r hysbysiad yn ymwneud â hi, neu, os nad oes neb y gellir ei ddanfon ato felly yn bresennol yn y fangre, ei osod ynghlwm wrth ryw ran amlwg o'r fangre;

(ch)heb leihau effaith darpariaethau blaenorol y rheoliad hwn, os yw'r fangre y mae'r hysbysiad yn ymwneud â hi yn fan busnes y person y mae'r hysbysiad i'w gyflwyno iddo, drwy adael yr hysbysiad yn y man busnes hwnnw, neu ei anfon yno drwy'r post, wedi ei gyfeirio at y person hwnnw; neu

(d)drwy gyfathrebiad electronig yn unol â pharagraff (3) ond yn ddarostyngedig i'r hyn a grybwyllir yn y paragraff hwnnw.

(2Rhaid i unrhyw hysbysiad sydd i'w gyflwyno i'r Tribiwnlys Prisio, y Clerc, y swyddog prisio neu'r swyddog rhestru o dan y Rheoliadau hyn—

(a)gael ei anfon drwy'r post rhagdaledig neu ei ddanfon â llaw i'r cyfeiriad a bennwyd ar gyfer yr achos;

(b)ei anfon drwy ffacs i'r rhif a bennwyd ar gyfer yr achos; neu

(c)ei anfon neu ei ddanfon drwy ba bynnag ddull arall ac i ba bynnag gyfeiriad a gytunir rhwng y Clerc, y swyddog prisio neu'r swyddog rhestru (yn ôl fel y digwydd) a'r person sydd i gyflwyno'r hysbysiad.

(3Yn ddarostyngedig i baragraff (4), os yw parti yn darparu rhif ffacs, cyfeiriad e-bost neu fanylion eraill ar gyfer trosglwyddo dogfennau iddo yn electronig, rhaid i'r parti hwnnw dderbyn cyflwyno hysbysiadau iddo, a danfon dogfennau ato, drwy'r dull hwnnw.

(4Os yw parti yn hysbysu'r Clerc a phob parti arall na ddylid defnyddio dull penodol o gyfathrebu (ac eithrio drwy'r post neu ddanfon â llaw) ar gyfer cyflwyno hysbysiadau neu ddarparu dogfennau i'r parti hwnnw, rhaid peidio â defnyddio'r dull hwnnw o gyfathrebu.

(5Os yw'r Clerc neu barti yn anfon hysbysiad at barti neu at y Clerc drwy e-bost neu unrhyw ddull electronig arall, caiff y derbynnydd ofyn i'r anfonwr ddarparu copi caled o'r hysbysiad hwnnw i'r derbynnydd.

(6Rhaid gwneud cais o dan baragraff (5) cyn gynted ag y bo'n rhesymol ymarferol wedi i'r derbynnydd gael yr hysbysiad neu'r ddogfen yn electronig.

(7Ar ôl gwneud ymholiadau rhesymol, os na ellir dod o hyd i enw unrhyw drethdalwr y mae'n ofynnol, neu yr awdurdodwyd, cyflwyno hysbysiad iddo, ceir cyflwyno'r hysbysiad drwy ei gyfeirio at “Dalwr Treth Gyngor” yr annedd dan sylw (gan enwi'r annedd) heb roi enw na disgrifiad pellach.

(8At ddibenion unrhyw achos cyfreithiol, rhaid trin hysbysiad a roddir drwy gyfathrebiad electronig, oni phrofir i'r gwrthwyneb, fel pe bai wedi ei gyflwyno ar yr ail ddiwrnod busnes ar ôl ei anfon.

(9Rhaid i berson sydd wedi rhoi cyfeiriad at y diben o gyfathrebu yn electronig, drwy gyflwyno hysbysiad ysgrifenedig i'r Clerc ac i'r partïon eraill, hysbysu'r Clerc a'r partïon eraill o unrhyw newid yn y cyfeiriad hwnnw; a bydd y newid yn cael effaith ar y trydydd diwrnod busnes ar ôl y dyddiad y bydd y Clerc a'r partïon eraill yn cael yr hysbysiad, yn ôl fel y digwydd.

(10Caiff y Clerc a phob un o'r partïon gymryd yn ganiataol mai'r cyfeiriad a ddarperir gan barti neu ei gynrychiolydd yw'r cyfeiriad y dylid anfon neu ddanfon dogfennau iddo, ac y bydd yn parhau felly hyd nes ceir hysbysiad ysgrifenedig i'r gwrthwyneb.

(11Yn y rheoliad hwn —

(a)mae i “cyfathrebiad electronig” yr ystyr a roddir i “electronic communication” yn adran 15(1) o Ddeddf Cyfathrebiadau Electronig 2000(3);

(b)mae unrhyw gyfeiriad at hysbysiad yn cynnwys cyfeiriad at unrhyw ddogfen arall y mae'n ofynnol, neu yr awdurdodir, ei chyflwyno; ac

(c)mae unrhyw gyfeiriad at ofyniad neu awdurdodiad o'r fath yn gyfeiriad at ofyniad neu awdurdodiad o dan y Rheoliadau hyn.

(1)

Mae adran 17 o Ddeddf 1992 yn cymhwyso Atodlen 4A i Ddeddf 1988 (ac eithrio paragraff 6) at ddibenion Rhan 1 o Ddeddf 1992.

(3)

2000 p.7. Diwygiwyd adran 15(1) (dehongli) gan Ddeddf Cyfathrebiadau 2003, adran 406(1) ac Atodlen 17, paragraff 158.

Yn ôl i’r brig

Options/Help

Print Options

Close

Mae deddfwriaeth ar gael mewn fersiynau gwahanol:

Y Diweddaraf sydd Ar Gael (diwygiedig):Y fersiwn ddiweddaraf sydd ar gael o’r ddeddfwriaeth yn cynnwys newidiadau a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol ac wedi eu gweithredu gan ein tîm golygyddol. Gellir gweld y newidiadau nad ydym wedi eu gweithredu i’r testun eto yn yr ardal ‘Newidiadau i Ddeddfwriaeth’. Dim ond yn Saesneg y mae’r fersiwn ddiwygiedig ar gael ar hyn o bryd.

Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed) - Saesneg: Mae'r wreiddiol Saesneg fersiwn y ddeddfwriaeth fel ag yr oedd pan gafodd ei deddfu neu eu gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.

Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed)-Cymraeg:Y fersiwn Gymraeg wreiddiol o’r ddeddfwriaeth fel yr oedd yn sefyll pan gafodd ei deddfu neu ei gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.

Close

Dewisiadau Agor

Dewisiadau gwahanol i agor deddfwriaeth er mwyn gweld rhagor o gynnwys ar y sgrin ar yr un pryd

Close

Rhagor o Adnoddau

Gallwch wneud defnydd o ddogfennau atodol hanfodol a gwybodaeth ar gyfer yr eitem ddeddfwriaeth o’r tab hwn. Yn ddibynnol ar yr eitem ddeddfwriaeth sydd i’w gweld, gallai hyn gynnwys:

  • y PDF print gwreiddiol y fel deddfwyd fersiwn a ddefnyddiwyd am y copi print
  • rhestr o newidiadau a wnaed gan a/neu yn effeithio ar yr eitem hon o ddeddfwriaeth
  • manylion rhoi grym a newid cyffredinol
  • pob fformat o’r holl ddogfennau cysylltiedig
  • slipiau cywiro
  • dolenni i ddeddfwriaeth gysylltiedig ac adnoddau gwybodaeth eraill
Close

Rhagor o Adnoddau

Defnyddiwch y ddewislen hon i agor dogfennau hanfodol sy’n cyd-fynd â’r ddeddfwriaeth a gwybodaeth am yr eitem hon o ddeddfwriaeth. Gan ddibynnu ar yr eitem o ddeddfwriaeth sy’n cael ei gweld gall hyn gynnwys:

  • y PDF print gwreiddiol y fel gwnaed fersiwn a ddefnyddiwyd am y copi print
  • slipiau cywiro

liciwch ‘Gweld Mwy’ neu ddewis ‘Rhagor o Adnoddau’ am wybodaeth ychwanegol gan gynnwys

  • rhestr o newidiadau a wnaed gan a/neu yn effeithio ar yr eitem hon o ddeddfwriaeth
  • manylion rhoi grym a newid cyffredinol
  • pob fformat o’r holl ddogfennau cysylltiedig
  • dolenni i ddeddfwriaeth gysylltiedig ac adnoddau gwybodaeth eraill