- Y Diweddaraf sydd Ar Gael (Diwygiedig) - Saesneg
- Y Diweddaraf sydd Ar Gael (Diwygiedig) - Cymraeg
- Gwreiddiol (Fel y'i Gwnaed) - Saesneg
- Gwreiddiol (Fel y'i Gwnaed) - Cymraeg
Dyma’r fersiwn wreiddiol (fel y’i gwnaed yn wreiddiol). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.
13.—(1) Rhaid gwneud y penodiadau cyntaf i'r swyddi cynrychiolydd rhanbarthol a dirprwy gynrychiolydd rhanbarthol (a elwir yn “gynrychiolydd rhanbarthol” yn y rheoliad hwn) yn unol â Rhan 1 o Atodlen 2 ond yn ddarostyngedig i Ran 2 o'r Atodlen honno.
(2) Mewn achosion dilynol pan â swydd cynrychiolydd rhanbarthol yn wag, rhaid i aelodau'r Tribiwnlys Prisio, yn unol â Rhan 1 o Atodlen 2, benodi cynrychiolydd rhanbarthol neu ddirprwy gynrychiolydd rhanbarthol (yn ôl fel y digwydd) ar gyfer y rhanbarth hwnnw, o blith eu nifer.
(3) Ar ddiwedd y cyfnod rhagnodedig, os na fydd etholiad wedi ei gynnal yn unol â'r rheoliad hwn, rhaid i Weinidogion Cymru, ar ôl ymgynghori â'r Llywydd, benodi'r nifer priodol o aelodau i fod yn gynrychiolwyr rhanbarthol.
(4) Bydd cynrychiolydd rhanbarthol a benodir dan y rheoliad hwn yn dal y swydd hyd nes digwydd pa un bynnag o'r canlynol sy'n digwydd gyntaf—
(a)diwedd y cyfnod o ddwy flynedd sy'n dilyn y dyddiad yr ymgymerodd y cynrychiolydd rhanbarthol â'i swydd (ac at ddibenion y paragraff hwn, rhaid ystyried bod yr apwynteion cyntaf i swydd cynrychiolydd rhanbarthol yn ymgymryd â'u swyddi ar 1 Gorffennaf 2010);
(b)y cynrychiolydd rhanbarthol yn peidio â bod yn aelod o'r Tribiwnlys Prisio;
(c)y cynrychiolydd rhanbarthol yn ymddiswyddo drwy roi hysbysiad ysgrifenedig i'r Llywydd;
(ch)hysbysiad terfynu o dan baragraff (5) yn cael effaith.
(5) O ran y Llywydd—
(a)caiff, ar ôl ymgynghori â'r Cyngor Llywodraethu, drwy roi hysbysiad ysgrifenedig i gynrychiolydd rhanbarthol, derfynu swydd y cynrychiolydd rhanbarthol hwnnw; a
(b)rhaid iddo, os cyfarwyddir ef i wneud hynny gan Weinidogion Cymru, roi i gynrychiolydd rhanbarthol hysbysiad ysgrifenedig sy'n terfynu swydd y cynrychiolydd rhanbarthol hwnnw, a bydd yr hysbysiad yn cael effaith ar ddiwedd pa bynnag gyfnod y cyfarwyddir felly.
(6) Cyn rhoi cyfarwyddyd dan baragraff (5)(b) rhaid i Weinidogion Cymru ymgynghori â'r Llywydd.
(7) Yn y rheoliad hwn—
ystyr “y cyfnod rhagnodedig” (“the prescribed period”) yw tri mis sy'n cychwyn gydag 1 Ebrill 2010 ac wedi hynny, tri mis sy'n cychwyn gyda'r dyddiad pan â swydd cynrychiolydd rhanbarthol yn wag; ac
ystyr “y nifer priodol” (“the appropriate number”), yn achos cynrychiolwyr rhanbarthol, yw pedwar llai'r nifer o bersonau sydd, ar y pryd, yn dal swydd fel y cyfryw; ac yn achos dirprwy gynrychiolwyr rhanbarthol, pedwar llai'r nifer o bersonau sydd, ar y pryd, yn dal swydd fel y cyfryw.
(8) At ddibenion y Rheoliadau hyn—
(a)mae pedair rhanbarth;
(b)mae'r rhanbarthau yn cynnwys yr ardaloedd a bennir yng ngholofn 1 o Atodlen 1; ac
(c)caiff y rhanbarthau eu hadnabod gan yr enw cyfatebol yng ngholofn 2 o'r Atodlen hwnnw.
Y Diweddaraf sydd Ar Gael (diwygiedig):Y fersiwn ddiweddaraf sydd ar gael o’r ddeddfwriaeth yn cynnwys newidiadau a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol ac wedi eu gweithredu gan ein tîm golygyddol. Gellir gweld y newidiadau nad ydym wedi eu gweithredu i’r testun eto yn yr ardal ‘Newidiadau i Ddeddfwriaeth’. Dim ond yn Saesneg y mae’r fersiwn ddiwygiedig ar gael ar hyn o bryd.
Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed) - Saesneg: Mae'r wreiddiol Saesneg fersiwn y ddeddfwriaeth fel ag yr oedd pan gafodd ei deddfu neu eu gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.
Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed)-Cymraeg:Y fersiwn Gymraeg wreiddiol o’r ddeddfwriaeth fel yr oedd yn sefyll pan gafodd ei deddfu neu ei gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.
Gallwch wneud defnydd o ddogfennau atodol hanfodol a gwybodaeth ar gyfer yr eitem ddeddfwriaeth o’r tab hwn. Yn ddibynnol ar yr eitem ddeddfwriaeth sydd i’w gweld, gallai hyn gynnwys:
Defnyddiwch y ddewislen hon i agor dogfennau hanfodol sy’n cyd-fynd â’r ddeddfwriaeth a gwybodaeth am yr eitem hon o ddeddfwriaeth. Gan ddibynnu ar yr eitem o ddeddfwriaeth sy’n cael ei gweld gall hyn gynnwys:
liciwch ‘Gweld Mwy’ neu ddewis ‘Rhagor o Adnoddau’ am wybodaeth ychwanegol gan gynnwys