- Y Diweddaraf sydd Ar Gael (Diwygiedig) - Saesneg
- Y Diweddaraf sydd Ar Gael (Diwygiedig) - Cymraeg
- Gwreiddiol (Fel y'i Gwnaed) - Saesneg
- Gwreiddiol (Fel y'i Gwnaed) - Cymraeg
Dyma’r fersiwn wreiddiol (fel y’i gwnaed yn wreiddiol). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.
25.—(1) Bydd unrhyw apêl i hen Dribiwnlys a gychwynnwyd cyn 1 Gorffennaf 2010 ac a fyddai, pe bai wedi ei chychwyn ar neu ar ôl y dyddiad hwnnw, wedi bod yn agored i'w phenderfynu gan y Tribiwnlys Prisio a sefydlir gan reoliad 4, yn cael ei throsglwyddo ar 1 Gorffennaf 2010 i'r Tribiwnlys Prisio ac yn cael ei phenderfynu ganddo.
(2) Ar neu ar ôl 1 Gorffennaf 2010 —
(a)bydd y darpariaethau statudol perthnasol yn gymwys fel pe bai unrhyw beth a wnaed mewn perthynas â'r apêl gan neu mewn perthynas â'r hen Dribiwnlys y'i trosglwyddwyd ohono neu Glerc, Llywydd neu Gadeirydd yr hen Dribiwnlys hwnnw, wedi ei wneud gan neu mewn perthynas â'r Tribiwnlys Prisio neu, yn ôl fel y digwydd, Glerc, Llywydd neu Gadeirydd y Tribiwnlys Prisio, a
(b)rhaid dehongli unrhyw gyfeiriad (sut bynnag y'i mynegir) at Glerc, Llywydd neu Gadeirydd hen Dribiwnlys yn y darpariaethau statudol perthnasol neu mewn offerynnau a wneir odanynt, cyn belled ag y bo'n ofynnol er mwyn rhoi effaith i'r rheoliad hwn, fel cyfeiriad at Glerc neu, yn ôl fel y digwydd, Llywydd neu Gadeirydd y Tribiwnlys Prisio.
(3) Yn y rheoliad hwn, ystyr “y darpariaethau statudol perthnasol” yw—
(a)mewn perthynas ag apelau o dan adran 16 o Ddeddf 1992 neu baragraff 3(1) o Atodlen 3 i'r Ddeddf honno, y Rheoliadau hyn;
(b)mewn perthynas ag apelau o dan reoliadau a wnaed o dan adran 24 o Ddeddf 1992, y rheoliadau hynny;
(c)mewn perthynas ag apelau o dan Atodlen 4A i Ddeddf 1988 Act (rhybuddion i gwblhau), o dan baragraff 5C o Atodlen 9 (cosbau sifil) i Ddeddf 1988 ac o dan reoliadau a wnaed o dan adran 55 o Ddeddf 1988 (“y Rheoliadau hynny”), y Rheoliadau hynny;
(ch)mewn perthynas ag apelau o dan adran 45 o Ddeddf Draenio Tir 1991, y Ddeddf honno.
Y Diweddaraf sydd Ar Gael (diwygiedig):Y fersiwn ddiweddaraf sydd ar gael o’r ddeddfwriaeth yn cynnwys newidiadau a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol ac wedi eu gweithredu gan ein tîm golygyddol. Gellir gweld y newidiadau nad ydym wedi eu gweithredu i’r testun eto yn yr ardal ‘Newidiadau i Ddeddfwriaeth’. Dim ond yn Saesneg y mae’r fersiwn ddiwygiedig ar gael ar hyn o bryd.
Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed) - Saesneg: Mae'r wreiddiol Saesneg fersiwn y ddeddfwriaeth fel ag yr oedd pan gafodd ei deddfu neu eu gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.
Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed)-Cymraeg:Y fersiwn Gymraeg wreiddiol o’r ddeddfwriaeth fel yr oedd yn sefyll pan gafodd ei deddfu neu ei gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.
Gallwch wneud defnydd o ddogfennau atodol hanfodol a gwybodaeth ar gyfer yr eitem ddeddfwriaeth o’r tab hwn. Yn ddibynnol ar yr eitem ddeddfwriaeth sydd i’w gweld, gallai hyn gynnwys:
Defnyddiwch y ddewislen hon i agor dogfennau hanfodol sy’n cyd-fynd â’r ddeddfwriaeth a gwybodaeth am yr eitem hon o ddeddfwriaeth. Gan ddibynnu ar yr eitem o ddeddfwriaeth sy’n cael ei gweld gall hyn gynnwys:
liciwch ‘Gweld Mwy’ neu ddewis ‘Rhagor o Adnoddau’ am wybodaeth ychwanegol gan gynnwys