- Y Diweddaraf sydd Ar Gael (Diwygiedig) - Saesneg
- Y Diweddaraf sydd Ar Gael (Diwygiedig) - Cymraeg
- Gwreiddiol (Fel y'i Gwnaed) - Saesneg
- Gwreiddiol (Fel y'i Gwnaed) - Cymraeg
Dyma’r fersiwn wreiddiol (fel y’i gwnaed yn wreiddiol). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.
3.—(1) Yn y Rheoliadau hyn, oni fynna'r cyd-destun fel arall—
ystyr “apêl” (“appeal”) yw apêl o dan—
adran 16 (apelau : cyffredinol) o Ddeddf 1992;
paragraff 3 o Atodlen 3 (cosbau) i Ddeddf 1992;
rheoliadau a wnaed o dan adran 24 o Ddeddf 1992(1);
rheoliadau a wnaed o dan adran 55 o Ddeddf 1988 (2);
paragraff 4 o Atodlen 4A (rhybuddion i gwblhau) i Ddeddf 1988 (a elwir yn y Rheoliadau hyn yn “apêl yn erbyn rhybudd i gwblhau”)(3);
paragraff 5C o Atodlen 9 (cosbau sifil) i Ddeddf 1988(4); ac
adran 45 o'r Ddeddf Draenio Tir 1991(5);
ystyr “awdurdod bilio” (“billing authority”) yw awdurdod bilio fel y'i diffinnir yn adran 1(2) o Ddeddf 1992;
ystyr “Cadeirydd” (“Chairperson”) yw Cadeirydd y Tribiwnlys Prisio a benodir o dan reoliad 12 ;
ystyr “Cyngor Llywodraethu” (“Governing Council”) yw Cyngor Llywodraethu'r Tribiwnlys Prisio a sefydlir o dan reoliad 5;
ystyr “cynrychiolydd rhanbarthol” (“regional representative”) yw cynrychiolydd rhanbarthol a benodir o dan reoliad 13;
ystyr “Deddf 1988” (“the 1988 Act”) yw Deddf Cyllid Llywodraeth Leol 1988;
ystyr “Deddf 1992” (“the 1992”) yw Deddf Cyllid Llywodraeth Leol 1992;
ystyr “hen Dribiwnlys” (“old Tribunal”) yw tribiwnlys prisio a oedd yn bodoli yng Nghymru yn union cyn 1 Gorffennaf 2010;
ystyr “hen Wasanaeth”(“old Service”) yw'r Gwasanaeth Tribiwnlys Prisio Cymru a sefydlwyd gan Reoliadau 2005;
ystyr “Llywydd” (“President”) yw Llywydd y Tribiwnlys Prisio, a benodir o dan reoliad 11;
ystyr “prif weithredwr” (“chief executive”) yw'r person a benodir o dan reoliad 15;
ystyr “Rheoliadau 2005” (“the 2005 Regulations”) yw Rheoliadau Tribiwnlysoedd Prisio (Cymru) 2005(6); ac
ystyr “Tribiwnlys Prisio” (“Valuation Tribunal”) yw Tribiwnlys Prisio Cymru, a sefydlir o dan reoliad 4.
(2) Mae'r cyfeiriadau at reoliadau, Rhannau neu Atodlenni, oni nodir yn wahanol, yn gyfeiriadau at reoliadau, Rhannau o'r, neu Atodlenni i'r, Rheoliadau hyn.
Gweler O.S. 1993/290.
Gweler O.S. 2005/758 (Cy.63).
Mewnosodwyd Atodlen 4A gan Ddeddf Llywodraeth Leol a Thai 1989 (p.42), adran 139 ac Atodlen 5, paragraffau 36 a 79(3).
Mewnosodwyd paragraff 5C gan Ddeddf Llywodraeth Leol 2003 (p.26), adran 72(1) a (4); a mewnosodwyd is-baragraff 5C(7) gan Ddeddf Llywodraeth Leol a Chynnwys y Cyhoedd mewn Iechyd 2007 (p.28), adran 220(1) ac Atodlen 16, paragraffau 2 a 5.
Y Diweddaraf sydd Ar Gael (diwygiedig):Y fersiwn ddiweddaraf sydd ar gael o’r ddeddfwriaeth yn cynnwys newidiadau a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol ac wedi eu gweithredu gan ein tîm golygyddol. Gellir gweld y newidiadau nad ydym wedi eu gweithredu i’r testun eto yn yr ardal ‘Newidiadau i Ddeddfwriaeth’. Dim ond yn Saesneg y mae’r fersiwn ddiwygiedig ar gael ar hyn o bryd.
Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed) - Saesneg: Mae'r wreiddiol Saesneg fersiwn y ddeddfwriaeth fel ag yr oedd pan gafodd ei deddfu neu eu gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.
Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed)-Cymraeg:Y fersiwn Gymraeg wreiddiol o’r ddeddfwriaeth fel yr oedd yn sefyll pan gafodd ei deddfu neu ei gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.
Gallwch wneud defnydd o ddogfennau atodol hanfodol a gwybodaeth ar gyfer yr eitem ddeddfwriaeth o’r tab hwn. Yn ddibynnol ar yr eitem ddeddfwriaeth sydd i’w gweld, gallai hyn gynnwys:
Defnyddiwch y ddewislen hon i agor dogfennau hanfodol sy’n cyd-fynd â’r ddeddfwriaeth a gwybodaeth am yr eitem hon o ddeddfwriaeth. Gan ddibynnu ar yr eitem o ddeddfwriaeth sy’n cael ei gweld gall hyn gynnwys:
liciwch ‘Gweld Mwy’ neu ddewis ‘Rhagor o Adnoddau’ am wybodaeth ychwanegol gan gynnwys