xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"
25.—(1) Yn yr Atodlen hon, mae i'r termau canlynol yr ystyron a nodir.
(2) Mae i “nifer priodol” yr un ystyr ag yn rheoliad 12 neu 13, yn ôl fel y digwydd.
(3) Ystyr “aelod cymwys” yw—
(a)mewn achos pan etholir y Llywydd, aelod o'r Tribiwnlys Prisio sy'n aelod ar y dyddiad yr anfonir yr hysbysiad o bôl;
(b)mewn achos pan etholir Cadeiryddion, aelod o'r Tribiwnlys Prisio sy'n aelod ar y dyddiad yr anfonir yr hysbysiad o bôl;
(c)mewn achos pan etholir cynrychiolwyr rhanbarthol, aelod o'r Tribiwnlys Prisio sy'n aelod ar y dyddiad yr anfonir yr hysbysiad o bôl, ac a benodwyd gan y Llywydd a chyngor o fewn y rhanbarth lle'r aeth y swydd yn wag ar gyfer cynrychiolydd rhanbarthol.
(4) Mewn perthynas ag is-baragraffau (3)(a) a (b), mae “aelod o'r Tribiwnlys Prisio” yn cynnwys aelod—
(a)a benodwyd gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru neu gan Weinidogion Cymru o dan Reoliadau 2005,
(b)y parhaodd ei benodiad o dan reoliad 21(3), ac
(c)sy'n aelod ar y dyddiad yr anfonir yr hysbysiad o bôl.
(5) Mewn perthynas ag is-baragraff (3)(c), mae “aelod o'r Tribiwnlys Prisio” yn cynnwys aelod—
(a)a benodwyd gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru neu gan Weinidogion Cymru o dan Reoliadau 2005, ar gyfer hen Dribiwnlys yr oedd ei ardal yn cyfateb i ardal rhanbarth a bennir yn Atodlen 1 ac yr aeth y swydd yn wag ynddo,
(b)y parhaodd ei benodiad o dan reoliad 21(3), ac
(c)sy'n aelod ar y dyddiad yr anfonir yr hysbysiad o bôl.