Chwilio Deddfwriaeth

Rheoliadau Adolygu Penderfyniadau'n Annibynnol (Mabwysiadu a Maethu) (Cymru) 2010

 Help about what version

Pa Fersiwn

 Help about opening options

Dewisiadau Agor

Statws

Dyma’r fersiwn wreiddiol (fel y’i gwnaed yn wreiddiol). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.

RHAN 2PANELAU

Cyfansoddiad panelau

5.—(1Rhaid i Weinidogion Cymru, ar ôl cael cais a wnaed gan geisydd yn unol â rheoliad 19, gyfansoddi panel yn unol â rheoliad 6, 7 neu 8, yn ôl fel y digwydd, at y diben o adolygu'r penderfyniad cymhwysol.

(2Rhaid dewis aelodau'r panel oddi ar restr o bersonau (y cyfeirir ati yn y Rheoliadau hyn fel “y rhestr ganolog”) a gedwir gan Weinidogion Cymru, o bersonau a ystyrir gan Weinidogion Cymru yn addas, yn rhinwedd eu sgiliau, cymwysterau neu brofiad, i fod yn aelodau o banel.

(3Rhaid i aelodau o'r rhestr ganolog gynnwys —

(a)gweithwyr cymdeithasol sydd â thair blynedd, o leiaf, o brofiad, ar ôl cymhwyso, o waith mabwysiadu a lleoli mewn teuluoedd;

(b)gweithwyr cymdeithasol sydd â thair blynedd, o leiaf, o brofiad ar ôl cymhwyso, o waith cymdeithasol ynglŷn â gofal plant, gan gynnwys profiad uniongyrchol o waith maethu;

(c)ymarferwyr meddygol cofrestredig; ac

(ch)personau eraill a ystyrir gan Weinidogion Cymru yn addas i fod yn aelodau o banel, gan gynnwys, pan fo'n rhesymol ymarferol, personau sydd â phrofiad personol o fabwysiadu, a phersonau sydd, neu a fu o fewn y ddwy flynedd flaenorol, yn rhiant maeth awdurdod lleol.

Aelodaeth panel ar gyfer adolygu penderfyniad ar addasrwydd i fabwysiadu

6.  Pan fo'r penderfyniad cymhwysol a adolygir yn benderfyniad ar addasrwydd i fabwysiadu, y nifer o bobl y mae'n rhaid eu penodi'n aelodau o banel yw pump, a rhaid i'r panel gynnwys o leiaf —

(a)dau berson sy'n dod o fewn rheoliad 5(3)(a);

(b)un person sy'n dod o fewn rheoliad 5(3)(c); ac

(c)dau berson arall o'r rhestr ganolog, gan gynnwys pan fo'n rhesymol ymarferol, o leiaf un person sydd â phrofiad personol o fabwysiadu.

Aelodaeth panel ar gyfer adolygu penderfyniad ar ddatgelu

7.  Pan fo'r penderfyniad cymhwysol a adolygir yn benderfyniad ar ddatgelu, y nifer o bobl y mae'n rhaid eu penodi'n aelodau o banel yw pump, a rhaid i'r panel gynnwys o leiaf —

(a)dau berson sy'n dod o fewn rheoliad 5(3)(a); a

(b)tri pherson o'r rhestr ganolog.

Aelodaeth panel ar gyfer adolygu penderfyniad ar faethu

8.  Pan fo'r penderfyniad cymhwysol a adolygir yn benderfyniad ar faethu, y nifer o bobl y mae'n rhaid eu penodi'n aelodau o banel yw pump, a rhaid i'r panel gynnwys o leiaf —

(a)dau berson sy'n dod o fewn rheoliad 5(3)(b); a

(b)tri pherson arall o'r rhestr ganolog, gan gynnwys pan fo'n rhesymol ymarferol, un person sydd, neu a fu yn ystod y ddwy flynedd flaenorol, yn rhiant maeth awdurdod lleol.

Cynghorwyr panelau

9.—(1Rhaid i banel gael ei gynghori gan weithiwr cymdeithasol sydd â chymwysterau, sgiliau a phrofiad priodol.

(2Caiff panel, os yw'r panel yn ystyried hynny'n briodol, ei gynghori gan —

(a)cynghorwr cyfreithiol sydd â gwybodaeth ac arbenigedd yn nefddwriaeth mabwysiadu a maethu;

(b)ymarferydd meddygol cofrestredig sydd ag arbenigedd perthnasol mewn gwaith mabwysiadu neu faethu, pan un bynnag sy'n briodol i'r penderfyniad cymhwysol dan ystyriaeth;

(c)unrhyw berson arall sydd, ym marn y panel, ag arbenigedd perthnasol i'r penderfyniad dan ystyriaeth.

(3Rhaid i'r cynghorwyr panelau y cyfeirir atynt ym mharagraffau (1) a (2) fod yn aelodau o'r rhestr ganolog.

Penodi cadeirydd panel

10.  Rhaid i Weinidogion Cymru benodi person yn gadeirydd panel, sydd â'r sgiliau a'r profiad angenrheidiol i gadeirio panel.

Anghymhwyso aelodau o banel

11.—(1Rhaid peidio â phenodi person (“P”) yn aelod o banel —

(a)os yw'r person hwnnw'n aelod o banel mabwysiadu, neu o banel maethu, y sefydliad a wnaeth y penderfyniad cymhwysol;

(b)pan fo'r sefydliad a wnaeth y penderfyniad cymhwysol yn awdurdod lleol, os yw P ar y pryd, neu os bu yn ystod y cyfnod o un flwyddyn cyn y dyddiad pan wnaed y penderfyniad cymhwysol —

(i)yn gyflogedig gan yr awdurdod hwnnw yn eu gwasanaethau cymdeithasol plant a theuluoedd, neu

(ii)yn aelod o'r awdurdod hwnnw;

(c)pan nad yw'r sefydliad a wnaeth y penderfyniad cymhwysol yn awdurdod lleol, os yw P, ar y pryd neu os bu yn ystod y cyfnod o un flwyddyn cyn y dyddiad pan wnaed y penderfyniad cymhwysol, yn gyflogai neu ymddiriedolwr y sefydliad hwnnw;

(ch)os yw P yn berthynas i berson sy'n dod o fewn is-baragraff (a), (b) neu (c);

(d)os yw'r sefydliad a wnaeth y penderfyniad cymhwysol wedi lleoli plentyn gyda P ar gyfer ei fabwysiadu, neu wedi lleoli plentyn gyda P fel rhiant maeth awdurdod lleol;

(e)pan fo P wedi ei fabwysiadu neu'i faethu pan oedd yn blentyn, os y sefydliad a wnaeth y penderfyniad cymhwysol oedd y sefydliad a drefnodd i fabwysiadu neu faethu P; neu

(f)os yw P yn adnabod y ceisydd yn bersonol neu yn rhinwedd ei broffesiwn.

(2Yn y rheoliad hwn —

(a)mae “cyflogedig” (“employee”) yn cynnwys cyflogedig pa un a dderbynnir tâl ai peidio a pha un ai o dan gontract gwasanaeth neu gontract am wasanaethau neu fel gwirfoddolwr; a

(b)mae P yn berthynas i berson arall (“A”) os yw P —

(i)yn aelod o aelwyd A, neu'n briod ag A neu'n bartner sifil i A;

(ii)yn fab, merch, mam, tad, chwaer neu frawd i A; neu

(iii)yn fab, merch, mam, tad, chwaer neu frawd i'r person sy'n briod ag A neu sydd wedi ffurfio partneriaeth sifil gydag A.

Swyddogaethau panel a gyfansoddwyd i adolygu penderfyniad ar addasrwydd i fabwysiadu

12.—(1Mae'r rheoliad hwn yn gymwys pan fo'r penderfyniad cymhwysol a adolygir yn benderfyniad ar addasrwydd i fabwysiadu.

(2Rhaid i banel a gyfansoddir yn unol â rheoliad 6 adolygu'r penderfyniad ar addasrwydd i fabwysiadu ac —

(a)pan fo paragraff (3) yn gymwys, gwneud argymhelliad i'r asiantaeth fabwysiadu a wnaeth y penderfyniad cymhwysol ynglŷn ag a yw'r ceisydd yn addas ai peidio i fabwysiadu plentyn; neu

(b)pan fo paragraff (4) yn gymwys, cyflwyno i'r asiantaeth fabwysiadu a wnaeth y penderfyniad cymhwysol argymhelliad–

(i)y dylai'r asiantaeth baratoi adroddiad darpar fabwysiadydd yn unol â rheoliad 26(4), a phan fo'n gymwys, rheoliad 26(5) o'r Rheoliadau Asiantaethau, a fyddai'n cynnwys yr holl wybodaeth sy'n ofynnol gan y rheoliad hwnnw; neu

(ii)nad yw'r ceisydd yn addas i fabwysiadu plentyn.

(3Mae'r paragraff hwn yn gymwys pan fo'r adroddiad darpar fabwysiadydd yn cynnwys yr holl wybodaeth sy'n ofynnol gan reoliad 26(4), a phan fo'n gymwys, rheoliad 26(5) o'r Rheoliadau Asiantaethau.

(4Mae'r paragraff hwn yn gymwys pan nad oedd adroddiad y darpar fabwysiadydd, yn unol â rheoliad 26(4), a phan fo'n gymwys rheoliad 26(5), o'r Rheoliadau Asiantaethau yn cynnwys yr holl wybodaeth a oedd yn ofynnol gan reoliad 26(4) neu, os yw'n gymwys, rheoliad 26(5) o'r Rheoliadau Asiantaethau.

(5Wrth ystyried pa argymhelliad i'w wneud –

(a)rhaid i'r panel bwyso a mesur a chymryd i ystyriaeth yr holl wybodaeth a basiwyd ymlaen iddo yn unol â rheoliad 29 o'r Rheoliadau Asiantaethau;

(b)caiff y panel ofyn i'r asiantaeth fabwysiadu gaffael unrhyw wybodaeth berthnasol arall a ystyrir yn angenrheidiol gan y panel, neu darparu unrhyw gymorth arall y gofynnir amdano gan y panel; ac

(c)caiff y panel gaffael unrhyw gyngor yr ystyria'n angenrheidiol ynglŷn â'r achos, gan y cynghorwyr y cyfeirir atynt yn rheoliad 9.

(6Pan fo'r panel yn gwneud argymhelliad i'r perwyl bod y ceisydd yn addas i fabwysiadu plentyn, caiff y panel ystyried y nifer o blant y gallai'r ceisydd fod yn addas i'w mabwysiadu, eu hystod oedran, eu rhyw, eu hanghenion tebygol a'u cefndir, a chynghori'r asiantaeth fabwysiadu ynglŷn â hynny.

Swyddogaethau panel a gyfansoddwyd i adolygu penderfyniad ar ddatgelu

13.—(1Mae'r rheoliad hwn yn gymwys pan fo'r penderfyniad cymhwysol a adolygir yn benderfyniad ar ddatgelu.

(2Rhaid i banel a gyfansoddwyd yn unol â rheoliad 7 adolygu'r penderfyniad ar ddatgelu, a chyflwyno i'r asiantaeth fabwysiadu a wnaeth y penderfyniad ar ddatgelu argymhelliad ynglŷn ag a ddylai'r asiantaeth fynd ymlaen â'i benderfyniad gwreiddiol ai peidio.

(3Wrth ystyried pa argymhelliad i'w wneud –

(a)rhaid i'r panel bwyso a mesur a chymryd i ystyriaeth yr holl wybodaeth a basiwyd ymlaen iddo yn unol â rheoliad 13A o'r Rheoliadau Datgelu;

(b)caiff y panel ofyn i'r asiantaeth fabwysiadu gaffael unrhyw wybodaeth berthnasol arall a ystyrir yn angenrheidiol gan y panel, neu darparu unrhyw gymorth arall y gofynnir amdano gan y panel;

(c)caiff y panel fanteisio ar unrhyw gyngor yr ystyria'n angenrheidiol ynglŷn â'r achos, gan y cynghorwyr y cyfeirir atynt yn rheoliad 9; ac

(ch)rhaid i'r panel ystyried lles unrhyw berson a fabwysiedir, ac os yw'r person yn blentyn mabwysiedig rhaid rhai'r rhoi'r lle blaenaf i les y plentyn hwnnw. Yn achos unrhyw blentyn arall, rhaid i'r panel roi sylw penodol i'w les.

Swyddogaethau panel a gyfansoddwyd i adolygu penderfyniad ar faethu

14.—(1Mae'r rheoliad hwn yn gymwys pan fo'r penderfyniad cymhwysol a adolygir yn benderfyniad ar faethu.

(2Rhaid i banel a gyfansoddir yn unol â rheoliad 8 adolygu'r penderfyniad ar faethu, a chyflwyno i'r darparydd gwasanaeth maethu a wnaeth y penderfyniad ar faethu —

(a)argymhelliad ynglŷn ag a yw'r ceisydd yn addas ai peidio i weithredu fel rhiant maeth; neu

(b)pan fo'r penderfyniad cymhwysol yn ymwneud â thelerau cymeradwyaeth y ceisydd fel rhywun addas i weithredu fel rhiant maeth, argymhelliad i'r darparydd gwasanaeth maethu ynglŷn â'r telerau hynny.

(3Wrth ystyried pa argymhelliad i'w wneud –

(a)rhaid i'r panel bwyso a mesur yr holl wybodaeth a basiwyd ymlaen iddo yn unol â rheoliad 29A o'r Rheoliadau Maethu;

(b)caiff y panel ofyn i'r darparydd gwasanaeth maethu gaffael unrhyw wybodaeth berthnasol arall a ystyrir yn angenrheidiol gan y panel, neu darparu unrhyw gymorth arall y gofynnir amdano gan y panel; ac

(c)caiff y panel gaffael unrhyw gyngor yr ystyria'n angenrheidiol ynglŷn â'r achos, gan y cynghorwyr y cyfeirir atynt yn rheoliad 9.

(4Pan fo'r panel yn gwneud argymhelliad i'r perwyl bod y ceisydd yn addas i weithredu fel rhiant maeth, caiff y panel hefyd wneud argymhelliad i'r darparydd gwasanaeth maethu ynglŷn â thelerau unrhyw gymeradwyaeth.

Pŵer i ohirio panelau

15.—(1Caiff y panel ohirio gwrandawiad gan y panel yn yr amgylchiadau canlynol —

(a)pan fo'r panel o'r farn bod yr wybodaeth sydd ganddo'n annigonol i'w alluogi i wneud argymhelliad i'r sefydliad perthnasol yn unol â rheoliadau 12(2), 13(2) ac 14(2); a

(b)pan fo'r panel yn dymuno gofyn am wybodaeth bellach.

(2Rhaid ailgynnull y panel cyn gynted ag y bo'n rhesymol ymarferol pan fydd yr wybodaeth y cyfeirir ati ym mharagraff (1)(b) ar gael, ond ddim hwyrach beth bynnag na 28 diwrnod calendr ar ôl dyddiad y gwrandawiad a ohiriwyd gan y panel

Gweinyddu'r panelau

16.  Rhaid i'r panel gael ei weinyddu gan Weinidogion Cymru, a rhaid iddynt wneud darpariaeth addas ar gyfer trefniadau clercio i'r panel.

Ffioedd aelodau o banelau

17.  Caiff Gweinidogion Cymru dalu i unrhyw aelod o banel unrhyw ffioedd a ystyrir yn rhesymol gan Weinidogion Cymru.

Cofnodion

18.  Rhaid i Weinidogion Cymru sicrhau y delir gafael ar gofnod ysgrifenedig o adolygiad panel o benderfyniad cymhwysol, gan gynnwys y rhesymau dros argymhelliad y panel, ac a oedd yr argymhelliad yn unfrydol ynteu'n argymhelliad mwyafrif —

(a)am gyfnod o 5 mlynedd o'r dyddiad y gwneir yr argymhelliad; a

(b)o dan amodau diogelwch priodol.

Yn ôl i’r brig

Options/Help

Print Options

Close

Mae deddfwriaeth ar gael mewn fersiynau gwahanol:

Y Diweddaraf sydd Ar Gael (diwygiedig):Y fersiwn ddiweddaraf sydd ar gael o’r ddeddfwriaeth yn cynnwys newidiadau a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol ac wedi eu gweithredu gan ein tîm golygyddol. Gellir gweld y newidiadau nad ydym wedi eu gweithredu i’r testun eto yn yr ardal ‘Newidiadau i Ddeddfwriaeth’. Dim ond yn Saesneg y mae’r fersiwn ddiwygiedig ar gael ar hyn o bryd.

Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed) - Saesneg: Mae'r wreiddiol Saesneg fersiwn y ddeddfwriaeth fel ag yr oedd pan gafodd ei deddfu neu eu gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.

Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed)-Cymraeg:Y fersiwn Gymraeg wreiddiol o’r ddeddfwriaeth fel yr oedd yn sefyll pan gafodd ei deddfu neu ei gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.

Close

Dewisiadau Agor

Dewisiadau gwahanol i agor deddfwriaeth er mwyn gweld rhagor o gynnwys ar y sgrin ar yr un pryd

Close

Rhagor o Adnoddau

Gallwch wneud defnydd o ddogfennau atodol hanfodol a gwybodaeth ar gyfer yr eitem ddeddfwriaeth o’r tab hwn. Yn ddibynnol ar yr eitem ddeddfwriaeth sydd i’w gweld, gallai hyn gynnwys:

  • y PDF print gwreiddiol y fel deddfwyd fersiwn a ddefnyddiwyd am y copi print
  • rhestr o newidiadau a wnaed gan a/neu yn effeithio ar yr eitem hon o ddeddfwriaeth
  • manylion rhoi grym a newid cyffredinol
  • pob fformat o’r holl ddogfennau cysylltiedig
  • slipiau cywiro
  • dolenni i ddeddfwriaeth gysylltiedig ac adnoddau gwybodaeth eraill
Close

Rhagor o Adnoddau

Defnyddiwch y ddewislen hon i agor dogfennau hanfodol sy’n cyd-fynd â’r ddeddfwriaeth a gwybodaeth am yr eitem hon o ddeddfwriaeth. Gan ddibynnu ar yr eitem o ddeddfwriaeth sy’n cael ei gweld gall hyn gynnwys:

  • y PDF print gwreiddiol y fel gwnaed fersiwn a ddefnyddiwyd am y copi print
  • slipiau cywiro

liciwch ‘Gweld Mwy’ neu ddewis ‘Rhagor o Adnoddau’ am wybodaeth ychwanegol gan gynnwys

  • rhestr o newidiadau a wnaed gan a/neu yn effeithio ar yr eitem hon o ddeddfwriaeth
  • manylion rhoi grym a newid cyffredinol
  • pob fformat o’r holl ddogfennau cysylltiedig
  • dolenni i ddeddfwriaeth gysylltiedig ac adnoddau gwybodaeth eraill