xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"
8.—(1) Rhaid i awdurdod wneud unrhyw drefniadau y mae'n credu eu bod yn briodol—
(a)i asesu effaith debygol ei bolisïau a'i arferion arfaethedig ar ei allu i gydymffurfio â'r ddyletswydd gyffredinol;
(b)i asesu effaith
(i)unrhyw bolisi neu arfer y mae'r awdurdod wedi penderfynu ei adolygu,
(ii)unrhyw ddiwygiad y mae'r awdurdod yn bwriadu ei wneud i bolisi neu arfer,
ar ei allu i gydymffurfio â'r ddyletswydd honno;
(c)i fonitro effaith ei bolisïau a'i arferion ar ei allu i gydymffurfio â'r ddyletswydd honno; ac
(ch)i gyhoeddi adroddiadau mewn cysylltiad ag unrhyw asesiad—
(i)y cyfeirir ato yn is-baragraff (a) neu (b); a
(ii)sy'n dangos bod yr effaith neu'r effaith debygol (yn ôl y digwydd) ar allu'r awdurdod i gydymffurfio â'r ddyletswydd honno yn sylweddol.
(2) Rhaid i adroddiadau o dan baragraff (1)(ch) nodi, yn benodol—
(a)diben—
(i)y polisi neu'r arfer arfaethedig;
(ii)y polisi neu'r arfer; neu
(iii)y diwygiad arfaethedig i bolisi neu arfer
a gafodd ei asesu;
(b)crynodeb o'r camau y mae'r awdurdod wedi eu cymryd i gynnal yr asesiad;
(c)crynodeb o'r wybodaeth y mae'r awdurdod wedi ei chymryd i ystyriaeth yn yr asesiad;
(ch)canlyniadau'r asesiad; a
(d)unrhyw benderfyniadau a wnaed gan yr awdurdod mewn perthynas â'r canlyniadau hynny.
(3) Wrth gynnal asesiad y cyfeirir ato ym mharagraff (1)(a) neu (b), rhaid i'r awdurdod—
(a)cydymffurfio â'r darpariaethau ymgysylltu; a
(b)rhoi sylw dyladwy i'r wybodaeth berthnasol y mae'n ei dal.